Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau, am y tro olaf cyn toriad y Pasg.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mawrth 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto ar ôl toriad y Pasg.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Newidiadau trethwedi ei gyhoeddi 14:23 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mawrth 2023

    Mae'r Ceidwadwr Russell George yn mynegi pryderon am newidiadau Llywodraeth Cymru i'r dreth gyngor a fydd yn ei gwneud hi'n anoddach i lety gwyliau gael ei eithrio.

    Bydd angen eu rhentu am 182 diwrnod mewn blwyddyn cyn y caniateir iddynt dalu ardrethi busnes yn lle hynny.

    "Fe fydd yn cynyddu eu baich treth ac yn gwneud llawer o’r busnesau hynny yn anhyfyw," meddai Mr George.

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod y newidiadau yn "deg a rhesymol".

    Ychwanegodd, "Os ydych yn fusnes, yna nid wyf yn meddwl ei bod yn afresymol y dylech sicrhau bod eich eiddo ar gael i'w osod am 252 o ddiwrnodau ac y dylech ei osod am 182 diwrnod mewn gwirionedd. Os nad ydych yn gweithredu fel busnes, nid yw'n golygu bod yn rhaid i chi ddod i ben; mae'n golygu eich bod yn talu'r dreth gyngor fel unrhyw un arall."

    TaiFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Rhai deintyddion yn rhoi'r gorau i waith y GIGwedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mawrth 2023

    O ran mynediad at ddarpariaeth ddeintyddol, mae’r prif weinidog yn dweud mai dim ond 20 allan o 400 o gontractau’r GIG sydd wedi’u rhoi’n ôl gan ddeintyddion, a bod llawer o’r 20 wedi’u haildendro’n llwyddiannus.

    Mae contractau GIG newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys gofyniad i weld cleifion newydd ond mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn honni bod hyn ar draul y rhai sydd eisoes wedi cofrestru mewn practisau.

    Dywed Cefin Campbell o Blaid Cymru, "Llandeilo, Hwlffordd, Abergwaun - enghreifftiau o ddeintyddion yn fy rhanbarth i lle mae darpariaeth NHS wedi dod i ben dros y misoedd diwethaf. Mae'r sefyllfa ddeintyddol yng Nghymru wledig yn argyfyngus ar hyn o bryd, a'r newid yn y cytundebau diweddar wedi achosi pryderon sylweddol."

    Deintydd
  4. 'Angen datganoli rheolaeth dros holl ddŵr Cymru'wedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mawrth 2023

    Dywed arweinydd Plaid Cymru Adam Price bod disgwyl cyhoeddiad ddydd Iau i gludo mwy o ddŵr Cymru i Loegr, o dan gynllun Thames Water.

    Cymru yw’r unig wlad yn y DU sydd heb yr hawl i ddeddfu ar y dŵr o fewn ei ffiniau, meddai.

    Mae Mr Price yn pwysleisio bod datganoli rheolaeth dros holl ddŵr Cymru wedi ei addo chwe blynedd yn ôl a bod mecanwaith o fewn Deddf Cymru 2017 a fyddai'n golygu byddai modd datganoli'r grym mewn theori, ond fod San Steffan yn ei rwystro, meddai.

    Ar hyn o bryd dim ond cwmnïau dŵr yng Nghymru mae Llywodraeth Cymru yn gallu eu rheoleiddio, sy'n golygu nad yw'n gallu rheoleiddio'r cwmni sy'n bwriadu trosglwyddo 180 miliwn litr ychwanegol y dydd o Gymru i dde ddwyrain Lloegr, meddai Adam Price.

    Mae'n gofyn pa bwysau y mae'r prif weinidog yn bwriadu eu rhoi i orfodi San Steffan i gyflawni eu "haddewid".

    Mae Mr Drakeford yn cyfeirio at adroddiad ar wefan y Guardian bod Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dweud wrth Thames Water fod angen i'r cwmni wneud mwy i atgyweirio'r 630m litr o ddŵr y mae'n gollwng y diwrnod cyn iddo ddechrau cymryd dŵr o'r Afon Tafwys neu o Gymru i fynd i'r afael gyda phroblemau sychder.

    Dywed y prif weinidog fod hynny'n "synhwyrol".

    Mae’n ymhelaethu, “Nid oes gen i farn genedlaetholgar am ddŵr. Nid wyf yn gwrthwynebu i Saeson yfed dŵr Cymru, ond yr hyn yr wyf yn ei ddweud yw bod yn rhaid dangos y manteision economaidd, amgylcheddol ac ehangach i Gymru mewn unrhyw berthynas lle mae adnoddau naturiol Cymru yn cael eu defnyddio er budd dinasyddion eraill yn y Deyrnas Unedig.

    "Ac wrth aildrafod y trefniadau cytundebol hynny, rhaid i’r pris a delir am yr adnodd naturiol gwerthfawr hwnnw adlewyrchu gwerth yr adnodd hwnnw i Gymru yn ogystal â chaniatáu ei ddefnydd buddiol i ddinasyddion eraill y DU.”

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

    Cwm Tryweryn ar 1 Ionawr 1956Ffynhonnell y llun, Geoff Charles
    Disgrifiad o’r llun,

    Cwm Tryweryn ar 1 Ionawr 1956

  5. Bwrdd iechyd Betsi Cadwaladrwedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mawrth 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at sylwadau gan Mark Polin oedd yn gadeirydd ar fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr nes iddo ef ac aelodau eraill y bwrdd gael eu gorfodi i ymddiswyddo.

    Cyhuddodd Mr Polin y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan o beidio â chymryd unrhyw gyfrifoldeb am wella gofal iechyd.

    Dywed Mr Davies fod “rhai o’r haeriadau yn y darn barn hwnnw yn haeddu ateb cyhoeddus gennych chi, fel arweinydd Llywodraeth Cymru.

    "Yn benodol y pryderon a godwyd ganddo ef ac aelodau’r bwrdd i’r gweinidog iechyd a chyfarwyddwr cyffredinol y GIG yma yng Nghymru, yn ôl ym mis Medi, lle cododd bryderon hirsefydlog a materion na roddwyd sylw iddynt. Ei eiriau ef, nid fy ngeiriau i. Pam na wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i'r pryderon hyn a chefnogi'r bwrdd ar y pryd?"

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “Nid wyf yn derbyn o gwbl i’r pethau hynny fynd heb sylw oherwydd roedd y gweinidog a swyddogion mewn deialog gyson iawn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan gynnwys y bwrdd. Mae gan y bwrdd gyfrifoldebau. Nid ydych yn cyflawni eich cyfrifoldebau dim ond drwy ddweud wrth rywun arall fod gennych broblem. Mae gennych rwymedigaeth, fel bwrdd, i fynd i'r afael â'r materion sydd o fewn eich maes cyfrifoldeb cyfreithiol ac roedd swyddogion yma bob amser yn ymateb i bryderon a godwyd gyda Llywodraeth Cymru."

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  6. Adroddiad 'dysgu cenedlaethol' ar Covidwedi ei gyhoeddi 13:44 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mawrth 2023

    Dywed Mr Drakeford y bydd adroddiad "dysgu cenedlaethol" ar Covid yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y mis.

    Mae'n cyhuddo Heledd Fychan o Blaid Cymru o ailadrodd "cynllwyn" am newid achosion marwolaeth.

    Dywed Heledd Fychan, "mae nifer o etholwyr o Ganol De Cymru a gollodd anwyliaid i Covid-19 wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r ymchwiliad nosocomial [yn tarddu o ysbyty].

    "Deallaf fod yr adroddiad interim ar fin digwydd, ond mae llawer o deuluoedd mewn profedigaeth yn bryderus, gan nad ydynt wedi clywed unrhyw beth o gwbl mewn perthynas â'u hanwyliaid, tra bod eraill wedi derbyn llythyrau yn dweud wrthynt nad Covid oedd achos y farwolaeth, er ei fod ar y dystysgrif marwolaeth.

    "Eu dealltwriaeth yw mai dim ond crwner fyddai'n gallu newid yr achos marwolaeth, ac eto mae teuluoedd yn cael gwybod hyn heb gael unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r newid. Felly, yn hytrach na chael atebion am sut y gwnaeth eu perthynas ddal Covid-19 yn yr ysbyty, maent bellach yn gorfod ymladd, unwaith eto, dros gydnabod achos y farwolaeth.

    "A allwch gadarnhau beth yw pwrpas yr ymchwiliadau hyn: dysgu gwersi a rhoi atebion i deuluoedd, neu a yw'n ymarfer i geisio lleihau niferoedd swyddogol marwolaethau Covid yng Nghymru? Yn sicr, mae hyn unwaith eto yn dangos yr angen am ymchwiliad Covid sy'n benodol i Gymru."

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “Mae honiad yr aelod yn sarhaus ac yn hurt. Wrth gwrs nid yw’r ymdrechion yn gynllwyn i newid nifer y bobl a fu farw o Covid yng Nghymru. Dyna honiad hollol, hollol hurt i wneud yma ar lawr y Senedd. Mae'r ymdrechion sy'n cael eu gwneud yn cael eu harwain gan glinigwyr—a ydyn nhw'n rhan o'ch cynllwyn hefyd?"

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  7. Rhagnodi cymdeithasolwedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mawrth 2023

    Pan ofynnwyd iddo gan ei gydweithiwr Llafur Jayne Bryant am ddefnyddio rhagnodi cymdeithasol, mae'r prif weinidog yn ateb bod llawer o enghreifftiau gan gynnwys prosiect Ffrind i Mi, sy'n cefnogi'r rhai sy'n unig neu'n ynysig.

    "Mae ymchwil diweddar yn dangos cynnydd amlwg flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn atgyfeiriadau a defnydd o ragnodi cymdeithasol ym mhob rhan o Gymru," meddai.

    Mae rhagnodi cymdeithasol gan weithwyr iechyd proffesiynol yn cynnwys cyfeirio cleifion at ystod o wasanaethau anghlinigol, megis grwpiau gweithgaredd, cyngor rheoli dyled, hyfforddiant sgiliau cyflogadwyedd a gwirfoddoli.

    MeddygFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Croesowedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mawrth 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.