Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau, am y tro cyntaf ers toriad y Pasg.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 25 Ebrill 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Mynediad at ddarpariaeth ddeintyddolwedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich+1 25 Ebrill 2023

    Mae'r Democrat Rhyddfrydol Jane Dodds yn tynnu sylw at "brinder" deintyddion ac yn mynegi pryderon am fynediad i ddeintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd.

    Mae'r prif weinidog yn pwysleisio'r angen i ddiwygio'r proffesiwn.

    Meddai, "deintyddion eu hunain yw'r adnoddau mwyaf medrus a drutaf sydd gennym yn y maes hwnnw. Ni ddylai unrhyw ddeintydd fod yn treulio'i amser yn cyflawni gweithgaredd y gallai rhywun arall yn y proffesiwn hwnnw ei wneud yr un mor llwyddiannus yn glinigol fel mater o drefn."

    Mae contractau GIG newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys gofyniad i weld cleifion newydd ond mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn honni bod hyn ar draul y rhai sydd eisoes wedi cofrestru mewn practisau.

    Jane Dodds
    Disgrifiad o’r llun,

    Jane Dodds

  3. Gorfodi aelwydydd i ddefnyddio fesuryddion rhagdaluwedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich+1 25 Ebrill 2023

    Pan ofynnwyd iddo gan ei gydweithiwr Llafur Jenny Rathbone am asesiad Llywodraeth Cymru o gynnig diweddaraf Ofgem i ganiatáu i gwmnïau ynni ailddechrau gorfodi cartrefi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu, dywedodd y prif weinidog fod y cynigion yn wirfoddol "ac nad ydynt yn mynd yn ddigon pell".

    Mae'n dweud y dylid gwahardd gorfodi gosod mesuryddion rhagdalu yn gyfan gwbl.

    Jenny Rathbone
    Disgrifiad o’r llun,

    Jenny Rathbone

  4. Gwerth ychwanegol gros Cymruwedi ei gyhoeddi 14:11 Amser Safonol Greenwich+1 25 Ebrill 2023

    Gwell cynhyrchiant yw’r allwedd i gynyddu gwerth ychwanegol crynswth Cymru, meddai’r prif weinidog.

    Ychwanegodd,"pam ei bod hi'n cymryd pum diwrnod i weithiwr gynhyrchu'r hyn y gall gweithiwr yn Ffrainc ei gynhyrchu mewn pedwar? Nid oherwydd bod y bobl yn wahanol, ac nid wyf yn meddwl ei fod, ar y cyfan, oherwydd bod lefelau sgiliau yn wahanol.

    "Rwy’n meddwl bod gan bobl mewn mannau eraill set fwy modern o offer, peiriannau, buddsoddiad gan ddiwydiant, a dyna fyddai’n caniatáu i dwf cynhyrchiant ailddechrau o fewn economi’r DU.”

    Codwyd y pwnc gan ei gydweithiwr Llafur Mike Hedges, a ddywedodd, “tra bod twristiaeth, amaethyddiaeth a’r economi sylfaen yn rhan o’u heconomi yn y mwyafrif o economïau yn Ewrop, Asia a Gogledd America, mae’r rhai llwyddiannus - y rhai yr ydym yn gobeithio eu hefelychu - â chyfran uwch o’u gweithlu ym meysydd technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, gwyddorau bywyd, gweithgynhyrchu uwch a gwasanaethau proffesiynol nag sydd gennym ni yng Nghymru.”

    Mark Drakeford
  5. Bwrdd iechyd Betsi Cadwaladrwedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich+1 25 Ebrill 2023

    Mae Mark Drakeford unwaith eto yn gwadu camarwain y Senedd ynglŷn â phenderfyniad i dynnu bwrdd GIG gogledd Cymru allan o fesurau arbennig pan gafodd ei herio yn ei gylch am y tro cyntaf yn y Siambr.

    Dywed fod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar gyngor cyrff gwarchod, gan gynnwys yr Archwilydd Cyffredinol, a gweision sifil pan laciodd ei rheolaeth dros fwrdd Betsi Cadwaladr yn 2020.

    Ond mewn llythyr yr wythnos ddiwethaf fe ddatgelodd yr archwilydd Adrian Crompton nad oedd ei swyddfa wedi cynghori gweinidogion i newid statws y bwrdd.

    Mae Mr Drakeford yn wynebu cwestiynau gan Adam Price am y tro cyntaf ers i lythyr yr archwilydd gael ei ddatgelu gan Blaid Cymru.

    Mae'r archwilydd hefyd yn dweud iddo ysgrifennu at y llywodraeth yn 2020 ynglŷn â datganiad "di-fudd" gan y cyn-weinidog iechyd Vaughan Gething.

    Dywedodd Mr Gething hefyd fod yr archwilydd wedi argymell tynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig - y lefel uchaf o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn galw ar Mr Drakeford i gywiro'r cofnod.

    Ond mae’r prif weinidog yn ateb: “Nid oedd cofnod i’w gywiro oherwydd bydd y gweinidog wedi gweithredu ar sail y system yr wyf wedi’i esbonio i’r aelodau y prynhawn yma.

    "Mae pob penderfyniad, p'un ai i wneud mwy neu i wneud llai, yn dilyn y broses dri cham honno."

    Cafodd bwrdd Betsi Cadwaladr ei roi yn ôl i fesurau arbennig ym mis Chwefror ar ôl i ragor o fethiannau ddod i'r amlwg.

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

    Bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr
  6. GIG Cymruwedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich+1 25 Ebrill 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at sylwadau gan Dr Iona Collins o Gymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru, a ddywedodd nad oes gan Gymru GIG gweithredol ac nad oes gan bobl ffydd ynddo.

    Atebodd Mr Drakeford, "nid wyf yn cytuno â'r hyn a ddywedodd cadeirydd y BMA. Wrth gwrs rwy'n cytuno bod rhannau o'n GIG sydd o dan y straen mwyaf enfawr oherwydd y nifer o bobl sydd angen cael mynediad i’r gwasanaethau hynny. Ond mae GIG Cymru, ar gyfer poblogaeth o 3 miliwn o bobl, yn delio â 2 filiwn o gysylltiadau bob mis gan bobl yma yng Nghymru. Nid wyf yn credu bod gwasanaeth sydd â 2 filiwn o gysylltiadau â phoblogaeth Cymru bob un mis yn gallu cael ei ddisgrifio fel un sy'n methu."

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  7. Pobl sy’n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoedduswedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich+1 25 Ebrill 2023

    Mae'r AS Plaid Cymru Siân Gwenllian yn gofyn pa gamau mae’r llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi pobl yn Arfon sy’n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

    Dywed Mr Drakeford bod Llywodraeth Cymru wedi cydweithio gyda Chyngor Gwynedd i wella gwasanaethau bws.

    Ond, meddai, "y broblem i bobl sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yw bod llawer o bobl eraill heb ddychwelyd i'r bws na'r trên ar ôl y pandemig Covid. Mae trethdalwyr, drwy Lywodraeth Cymru, wedi talu miliynau o bunnoedd yn ychwanegol i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus, ond mae'r arian sy'n cael ei gymryd mewn prisiau tocynnau yn dal i fod yn sylweddol is, ac mae realiti newydd mae'n rhaid i ni ei wynebu."

    Mae Siân Gwenllian yn galw am uwch-gynhadledd i drafod yr "argyfwng" o ran gwasanaethau bws. Meddai: "Mae rhai cymunedau yn mynd o un argyfwng i'r llall, ac yn brwydro'n galed i gynnal lefel o wasanaeth sy'n annigonol yn y lle cyntaf. Mae yna etholwyr yn Gerlan, Llys y Gwynt, Talybont, Deiniolen, Rhosgadfan, Llanllyfni, Nebo, ac yn blaen, mewn peryg o gael eu hynysu yn llwyr ar adegau pwysig o'r dydd."

    Arosfan bwsFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Croesowedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 25 Ebrill 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.