Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau gan arweinwyr y gwrthbleidiau ac ASau eraill.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:36 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Arbed: cyhuddo’r llywodraeth o 'lusgo’i thraed'wedi ei gyhoeddi 14:31 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2023

    Mae Siân Gwenllian o Blaid Cymru yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o “lusgo’i thraed” dros broblemau sydd wedi deillio o gynllun Arbed, oedd i fod i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a lleihau allyriadau carbon.

    Mae nifer o gwynion wedi'u gwneud ynghylch ansawdd y gwaith inswleiddio waliau mewnol ac allanol a wnaed fel rhan o'r cynllun.

    Dywedodd y prif weinidog bod "cyngor annibynnol, sydd wedi cael ei sicrhau gan Lywodraeth Cymru... wedi nodi rhai achosion o waith gwael. Mae swyddogion wedi cael trafodaethau gyda chontractwyr, ac fe fydd y gweinidog yn gwneud penderfyniad ar y camau nesaf yn fuan".

    Ychwanegodd Siân Gwenllian, "mae'ch llywodraeth chi'n parhau i wrthod darparu cynllun ar gyfer y rhai yn Arfon sydd ddim yn gallu gwneud hawliad i gontractwr na gwarantwr, ac mae hyn er gwaetha'r ffaith fod eu cartrefi nhw wedi cael eu gadael mewn gwaeth cyflwr ar ôl cymryd rhan yng nghynllun Arbed y llywodraeth nag oedden nhw gynt. Rydyn ni hefyd yn dal i aros am ddiweddariad am yr achosion sy'n ymwneud â dau gwmni sy'n dal i fasnachu. Mae ymateb y llywodraeth hyd yma wedi bod yn siomedig iawn".

    Adroddodd y BBC yn 2019 bod trigolion rhai o bentrefi Arfon wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddelio â thyfiant gwyrdd sydd wedi ymddangos ar waliau rhai o'r tai yno.

    Siân Gwenllian
    Disgrifiad o’r llun,

    Siân Gwenllian

    Mae tyfiant gwyrdd wedi ymddangos ar waliau nifer o dai yn yr ardal
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae tyfiant gwyrdd wedi ymddangos ar waliau nifer o dai yn yr ardal

  3. 'Atal pleidleiswyr'wedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2023

    Dywed y prif weinidog na fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gofyniad i ddarparu dogfen adnabod â llun cyn pleidleisio mewn etholiadau lleol a'r etholiad ar gyfer Senedd Cymru.

    Mae'n dweud bod y gofyniad a gyflwynwyd fel rhan o Ddeddf Etholiadau 2022 gan Lywodraeth y DU yn "rhan o agenda bwriadol i atal pleidleiswyr, gan y llywodraeth Geidwadol. Y ffordd y maent yn meddwl y gallant ennill etholiadau yw dysgu'r gwersi o'r dde eithaf yn yr Unol Daleithiau, a hynny trwy ei gwneud hi'n anoddach i bobl na fyddent efallai'n eu cefnogi i ddod i bleidleisio."

    Mae rhai pobl wedi dweud wrth y BBC am eu dicter ynghylch methu â phleidleisio mewn etholiadau lleol yn Lloegr yr wythnos ddiwethaf oherwydd y rheolau newydd.

    Atebodd y Ceidwadwr Darren Millar, "Rwyf wedi fy syfrdanu gan safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Mae hyn yn ymwneud â diogelwch ac uniondeb ein hetholiadau. Gwyddom mai'r angen i bleidleiswyr ddangos dogfen adnabod yw'r norm ar draws gorllewin Ewrop gyfan... Ond mae'n ymddangos bod gennych broblem ag ef, efallai oherwydd record eich plaid eich hun ar achosion o dwyll sydd wedi digwydd mewn ardaloedd Llafur, megis twyll Tower Hamlets, twyll Birmingham hefyd, yn ôl yn 2004".

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  4. Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymruwedi ei gyhoeddi 14:09 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2023

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn cwestiynu pam y gollyngodd Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru ei ymchwiliad i fwrdd iechyd mwyaf Cymru ym mis Ebrill.

    Gwnaed gwaith gan y cwmni cyfrifyddu ac ymgynghori EY, a elwir hefyd yn Ernst and Young, a ysgogwyd gan bryderon archwilwyr nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhoi cyfrif priodol am wariant o £122m.

    Nid yw adroddiad EY wedi'i gyhoeddi eto, ac mae'r prif weinidog yn dweud nad yw wedi ei weld.

    Ychwanegodd Mr Drakeford, "Nid fy lle i yw egluro pam mae Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru wedi dod i'r casgliadau sydd ganddynt; maent yn sefydliad cwbl annibynnol.

    "Anfonwyd yr adroddiad atynt. Fy nealltwriaeth i yw eu bod wedi ymchwilio iddo. Eu casgliad yw nad oedd angen unrhyw gyhuddiadau troseddol."

    Mae'r adroddiad na sydd wedi ei ryddhau wedi canfod bod cyfrifon wedi eu "ffugio'n fwriadol", yn ôl honiad Mr Price.

    Dywedodd fod yr adroddiad yn honni bod miliynau wedi eu "cyhoeddi'n anghywir" er mwyn osgoi colli'r arian erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

    Dywedodd Mr Price fod yr adroddiad yn awgrymu math o dwyll.

    Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn deall bod gweithdrefnau disgyblu ar y gweill gan y bwrdd iechyd.

    "Mae gweithredoedd sy'n deillio o'r adroddiad yn dal yn bosib iawn," meddai.

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  5. Cymorth i blantwedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at ffigurau Llywodraeth Cymru a oedd yn dangos bod 74,661 o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion (15.8% o’r holl ddisgyblion) ym mis Chwefror 2022, i lawr o 92,668 (19.5%) yn Ebrill 2021.

    Mae'n dweud "mae hynny'n ostyngiad sylweddol a, phe bai'n ostyngiad am yr holl resymau cywir, yna, yn amlwg, byddem yn dathlu hynny".

    Mae'n ceisio sicrwydd bod ysgolion a Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol yn ei dderbyn.

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “mae gennym ni system newydd yma yng Nghymru, fel y mae’n gwybod, wedi’i rhoi ar y llyfr statud gan y Senedd ac sydd yn ei gamau cynnar o gael ei gweithredu’n llawn.

    "Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod ni’n astudio’r ffigurau hynny’n ofalus. Rydym am weld system lle mae'n haws i bobl ifanc gael y cymorth sydd ei angen arnynt”.

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  6. Rhifeddwedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2023

    Mae'r prif weinidog Mark Drakeford yn disgrifio Lluosi (Multiply), y rhaglen newydd a ariennir gan lywodraeth y DU i helpu oedolion i wella eu sgiliau rhifedd, fel un "trychinebus".

    Yn ôl llywodraeth y DU, “os ydych chi’n 19 oed a hŷn ac nad oes gennych chi TGAU mathemateg gradd C (neu gyfwerth), gallwch chi gael mynediad i gyrsiau rhifedd am ddim i fagu hyder gyda rhifau ac ennill cymhwyster”.

    Mae’r prif weinidog yn dweud bod Lluosi wedi golygu “brigdorri £100 miliwn oedd i fod i ddod i Gymru ar gyfer rhaglen genedlaethol sydd, mae arnaf ofn, wedi bod yn fethiant enfawr ar lawr gwlad".

    Dywed bod y rhaglen "yn dangos yr anawsterau pan fo gweinidogion yn Whitehall yn credu eu bod yn gallu dylunio pethau ar lawr gwlad mewn rhannau o'r Deyrnas Unedig lle nad oes ganddynt gyrhaeddiad o gwbl, heb un gair o drafodaeth gyda Llywodraeth Cymru neu gyda'r awdurdodau lleol y disgwylir iddynt ei chyflawni. O ganlyniad, ni fu'n bosibl gwario'r arian a ddyrannwyd i Gymru".

    RhifeddFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Ailsefydlu pobol o Wcráinwedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2023

    Mae Aelod o'r Senedd Llafur Blaenau Gwent, Alun Davies, yn gofyn am ddatganiad ar ailsefydlu pobol o Wcráin yng Nghymru.

    Mae Mr Drakeford yn ateb, "fel cenedl noddfa, rydym wedi croesawu ychydig llai na 6,900 o Wcráin i Gymru, gyda 3,200 yn cyrraedd o dan gynllun nawdd Llywodraeth Cymru. Rydym yn parhau i gefnogi gwesteion, gan eu helpu i symud ymlaen i lety tymor hwy, lle gallant fyw'n fwy sefydlog a chael eu cefnogi o fewn cymunedau lleol”.

    Disgrifiad,

    Mae plant o Wcrain wedi bod yn dysgu Cymraeg yn Ynys Mon mewn 12 wythnos.

  8. Croesowedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.