Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau, gan gynnwys am y tro olaf gan Adam Price fel arweinydd Plaid Cymru.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mai 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Methu â mabwysiadu cynllun datblygu lleolwedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mai 2023

    Mae'r prif weinidog yn beirniadu cyngor Wrecsam am fod yr unig un yng Nghymru sydd wedi methu â mabwysiadu cynllun datblygu lleol.

    Dywed, "mae'n gyfres ryfeddol o ddigwyddiadau lle mae awdurdod lleol yn cymeradwyo ei gynllun ei hun fel un cadarn, yn cyflwyno'r cynllun, sef ei gynllun ei hun, y mae wedi cadarnhau ei fod yn gadarn, i'r arolygiaeth gynllunio. Mae'r arolygydd yn cadarnhau bod y cynllun yn un cadarn ac yna mae'r awdurdod lleol yn gwrthod ei gynllun ei hun.

    "Mae'n ymddangos i mi bod dinasyddion Wrecsam yn meddwl eu bod yn ethol cyngor sy'n addas ar gyfer dinas a'u bod wedi cyrraedd Clochemerle."

    Nofel ddychanol Ffrengig gan Gabriel Chevallier yw Clochemerle, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1934, sydd wedi arwain at sawl cyfres deledu gan gynnwys dramateiddiad gan y BBC ym 1972. Mae'n ymdrin â chystadleuaeth bersonol a gwleidyddiaeth leol ym mhentref ffuglennol Clochemerle.

    Fis diwethaf, pleidleisiodd cynghorwyr Wrecsam i beidio â mabwysiadu’r cynllun datblygu lleol, a allai fod wedi penderfynu lle y gellid adeiladu miloedd o dai ar draws Wrecsam gyda safleoedd a ffefrir ar draws yr ardal ar gyfer datblygiadau tai, manwerthu a chyflogaeth.‌

    DathliadFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Yn gynharach y mis hwn, cafwyd dathliad yn Wrecsam ar ôl ennill y Gynghrair Genedlaethol a dyrchafiad yn ôl i Gynghrair Bêl-droed Lloegr.

  3. Llwybrauwedi ei gyhoeddi 14:23 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mai 2023

    Mae’r prif weinidog yn ceisio hyrwyddo “Blwyddyn y Llwybrau” yng Nghymru, gan gynnwys Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO Cymru.

    “Mae’r ffaith bod gennym ni yng Nghymru nifer fwy o safleoedd treftadaeth y byd nag y byddech chi byth yn ei ddisgwyl ar gyfer gwlad o’n maint ni yn rhoi cyfle i ni greu llwybr UNESCO yng Nghymru lle byddai pobl yn cael eu harwain o un cyfle i’r llall,” meddai.

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

    Traphont ddŵr Pontcysyllte
    Disgrifiad o’r llun,

    Traphont ddŵr Pontcysyllte yw'r draphont ddŵr hiraf ac uchaf ym Mhrydain, ac fe enillodd statws Treftadaeth gan bwyllgor UNESCO yn 2009.

  4. Fferm Gilestonewedi ei gyhoeddi 14:09 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mai 2023

    Mae James Evans, yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, yn parhau i fynegi pryderon am ddiffyg tryloywder ynghylch y defnydd o Fferm Gilestone yn y dyfodol, ac mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu mwy â’r gymuned leol.

    Meddai Mr Evans, “mae’r gymuned wedi’i rhannu ar y mater hwn a byddai rhywfaint o ewyllys da ac ymgysylltiad gan y llywodraeth yn helpu i ddod â’r gymuned ynghyd. Rwyf, felly, yn dilyn cynrychiolaethau o’r gymuned, wedi trefnu cyfarfod yn Nhalybont ar 8 Mehefin ac rwyf wedi gwahodd y gweinidog a swyddogion o Lywodraeth Cymru i fod yn bresennol."

    Dywed y prif weinidog fod ei lywodraeth "yn gweithio gyda sefydliadau ar lawr gwlad sydd â mandad democrataidd... nid wyf yn argyhoeddedig bod cyfarfod cyhoeddus yn sicr o roi mwy o oleuni na gwres ar y materion hyn".

    Mae pryderon y gallai perchnogion gŵyl y Dyn Gwyrdd gynnal digwyddiadau mawr yn yr eiddo y mae Llywodraeth Cymru wedi'i brynu i'r cwmni.

    Mae gweinidogion wedi cael eu beirniadu am brynu'r fferm am £4.25m cyn i gynllun busnes llawn gael ei ddarparu.

    Mae disgwyl i ŵyl y Dyn Gwyrdd aros ar Stad Glan Wysg, nid symud i Fferm Gilestone.Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae disgwyl i ŵyl y Dyn Gwyrdd aros ar Stad Glan Wysg, nid symud i Fferm Gilestone.

  5. Cyfle olaf Adam Price i holi fel arweinyddwedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mai 2023

    Ar ei ddiwrnod olaf fel arweinydd Plaid Cymru, mae Adam Price yn ceisio sicrwydd am fater etholaethol sydd hefyd, meddai, o bwysigrwydd cenedlaethol, sef ffordd osgoi Llandeilo.

    Dywed Mr Drakeford "rwy'n hapus i gadarnhau heddiw fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymrwymo i'r cytundeb ar y mater hwn, sydd wedi ei nodi yn y dogfennau cyllideb diweddaraf. Rydym yn parhau i weithio ar opsiynau i ddatblygu cynllun ffordd osgoi Llandeilo".

    Mae trigolion yn Llandeilo wedi bod yn galw am weithredu ers pedwar degawd, gyda lorïau’n gyrru drwy’r brif stryd, gan achosi tagfeydd trwm yn y dref.

    Cytunodd gweinidogion Llafur Cymru ar y ffordd osgoi fel rhan o gytundeb gyda Phlaid Cymru i basio cyllideb 2017-18.

    Mae’r Llywydd yn caniatáu i Adam Price wneud araith a barodd am wyth munud yn ei sesiwn olaf o'r Cwestiynau i’r Prif Weinidog.

    Mae e'n dweud wrth Mr Drakeford ei fod yn “anhwylus o dda” am ateb cwestiynau.

    Mae Mr Drakeford yn dychwelyd y ganmoliaeth, gan ddweud bod Mr Price wedi chwilio am atebion, nid problemau, yn eu cytundeb cydweithredu.

    Ar ôl mwy na 400 o gwestiynau i ddau brif weinidog dros bum mlynedd, cyrhaeddodd Adam Price ddiwedd y daith fel arweinydd, gyda'i fam a'i deulu yn gwylio yn yr oriel gyhoeddus.

    Ymddengys na ymunodd neb o Lafur na’r Ceidwadwyr yn y gymeradwyaeth gwrtais gan aelodau Plaid Cymru.

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

    Mae lorïau yn aml yn cael eu gyrru trwy ganol Llandeilo
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae lorïau yn aml yn cael eu gyrru trwy ganol Llandeilo

  6. Cyllid bwrdd iechyd Betsi Cadwaladrwedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mai 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at adroddiad sydd heb ei ryddhau i gyllid bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru gan gwmni cyfrifyddu EY.

    Cafodd ymchwiliad i dwyll ei ollwng yn gynharach yn y flwyddyn.

    Dywed Mr Davies "mae yna rai asesiadau damniol o'r swyddogaeth yr ymgymerodd y bwrdd iechyd ag ef wrth ddyfarnu contractau a chynnal busnes gwirioneddol y bwrdd iechyd o ran gwario arian cyhoeddus. Beth yw eich asesiad o'r adroddiad hwnnw heddiw, os gwelwch yn dda, oherwydd mae angen gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru, i roi hyder na fydd y math hwn o ymddygiad yn cael ei ailadrodd eto?"

    Mae'n dweud bod yr adroddiad yn honni bargeinion "cysurus" gyda chwmnïau gwerth miliynau o bunnoedd.

    Dywed Mr Drakeford, “nid wyf yn mynd i chwilio am adroddiadau nad ydynt ar gael i mi, pan fydd yr adroddiadau hynny i fod i gael eu cadw’n gyfrinachol ymhlith y bobl hynny sydd â hawl gyfreithlon i gael mynediad iddynt ar yr adeg hon yn y broses."

    Ychwanegodd, "nid yw'r adroddiad yn adroddiad gan Lywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn eiddo i'r rhai a'i comisiynodd, hynny yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae yna bobl sy'n cael eu henwi yn yr adroddiad hwnnw, mae yna bobl sy'n debygol neu'n wynebu camau gweithredu yn eu herbyn o ganlyniad i'r adroddiad hwnnw. Dyna pam na ddylai'r adroddiad fod yn cael ei ddosbarthu yn y ffordd a ddisgrifiwyd gan arweinydd yr wrthblaid."

    Talodd Mr Davies deyrnged hefyd i Adam Price ar ei ddiwrnod olaf fel arweinydd Plaid Cymru.

    Meddai, "rwy'n dymuno'r gorau i arweinydd Plaid Cymru... hoffwn ddiolch iddo am y cwrteisi a estynnodd i mi yn ystod ein cyfnod fel arweinwyr ein gwahanol grwpiau yma. Mae ein gwleidyddiaeth yn hollol wahanol—ac rwy’n siŵr y bydd yn mwynhau’r gymeradwyaeth honno—ond mae bob amser yn dda y tu allan i’r amgylchedd gwleidyddol lle gallwch chi rannu eiliad ysgafn, a mwynhau cwmni eich gilydd.”

    Bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr
    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  7. Ail gartrefiwedi ei gyhoeddi 13:39 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mai 2023

    Mae'r Ceidwadwr Gareth Davies yn codi effaith premiymau treth gyngor ar berchnogion ail gartrefi yn Sir Ddinbych, yn ymwneud ag achos etholwr.

    Dywed, "Cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda Mr a Mrs Williams o'r Cwm ger Dyserth, gyda'n Haelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd, Dr James Davies. Trosodd y cwpl hen stabl yn llety i westeion, ond cafodd eu busnes ei rwystro'n ddifrifol gan Covid-19, ac, yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaethant adrodd am ddefnydd dulliau casglu gor-selog gan Gyngor Sir Ddinbych, wrth geisio casglu premiwm y dreth gyngor o 50 y cant, ac yna cafodd y cwpl eu bygwth â llythyrau diddiwedd a bygythiadau o gamau cyfreithiol."

    Mae'r prif weinidog yn ateb, "Nid wyf yn meddwl ei bod yn bosibl dod i gasgliadau cyffredinol o un enghraifft. Wrth gwrs rydym yn disgwyl i'r dreth gyngor, gan gynnwys premiymau, gael ei gweinyddu'n synhwyrol gan awdurdodau lleol".

    Swm ar ben y dreth gyngor yw premiwm.

    Gall cynghorau gynyddu’r premiwm i 300% diolch i reolau newydd Llywodraeth Cymru – sydd wedi’u cynnwys yng nghytundeb cydweithredu Llafur a Phlaid Cymru – sy’n rhan o’r ymdrechion i’w gwneud hi’n haws i bobl fforddio cartrefi yn lleol.

    Roedd 24,873 o ail gartrefi cofrestredig yng Nghymru ar ddechrau 2021Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd 24,873 o ail gartrefi cofrestredig yng Nghymru ar ddechrau 2021

  8. Diwydiant adeiladuwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mai 2023

    Mae Rhianon Passmore o'r Blaid Lafur yn tynnu sylw at brinder sgiliau yn y diwydiant adeiladu.

    Meddai, "canfu monitro Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ar gyfer chwarter 1 2023 fod 67 y cant wedi nodi prinder mewn syrfewyr, 54 y cant yn nodi bod prinder gweithwyr adeiladu proffesiynol, a 61 y cant yn nodi bod prinder bricwyr".

    Mae'r prif weinidog yn ateb "rydym yn parhau i weithio gyda'r diwydiant i fuddsoddi yn y sgiliau y bydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Ond mae'n wir hefyd, Lywydd, fod yn rhaid i'r diwydiant ei hun fuddsoddi. Rhaid iddo wneud yn siŵr ei fod yn nodi llwybrau gyrfa i bobl ifanc - merched ifanc a dynion ifanc - gan ddangos iddynt sut y gellir gwneud defnydd da o’r sgiliau y gallant eu hennill, a sut y bydd gyrfaoedd ar eu cyfer yn y dyfodol”.

    TaiFfynhonnell y llun, PA Media
  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mai 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.