a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd Cymru
  2. Diogelwch ar ffordd yr A477

    Mae'r Ceidwadwr Samuel Kurtz yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella diogelwch ar gefnffordd yr A477 – sy’n ymestyn o Ddoc Penfro i Sanclêr – yn dilyn nifer o farwolaethau.

    Dywedodd fod un gyffordd yn benodol "wedi gweld ei thrydedd farwolaeth, pan gollodd fy etholwr, Ashley Rogers, ei fywyd yn drasig dim ond tair wythnos yn ôl."

    Atebodd y prif weinidog, "Roeddwn yn drist iawn i ddarllen am y ddamwain y collodd dyn ifanc ei fywyd ynddi, a gwn fod yna deulu a fydd yn galaru amdano."

    Mae'n dweud bod adroddiad eisoes gan Lywodraeth Cymru ac Asiant Cefnffyrdd De Cymru yn ymchwilio i'r damweiniau a'r damweiniau hynny y bu bron iddynt ddigwydd.

    "Oherwydd bod gennym yr adroddiad hwnnw, yna, yn y flwyddyn ariannol hon, byddwn yn dechrau gweithredu argymhellion yr adroddiad hwnnw - argymhellion sydd â mesurau tymor byr, canolig a hir wedi'u cynnwys ynddynt.

    "Byddwn yn dechrau gyda'r rhai uniongyrchol - arwyddion, y marciau ffordd, mân newidiadau i gynllun y gyffordd ar gyfer gwelliannau gwelededd.

    "Daw hynny i gyd o ganlyniad i’r gwaith sydd eisoes wedi’i wneud, a bydd rhagor o opsiynau mwy hirdymor ar raddfa fawr hefyd yn cael eu hymchwilio."

  3. 'Argyfwng trafnidiaeth bws'

    Mae Carolyn Thomas, AS Llafur gogledd Cymru, yn mynegi pryder am "effaith yr argyfwng trafnidiaeth bws cyhoeddus presennol".

    Mae’r prif weinidog yn ateb y bydd Llywodraeth Cymru “yn chwarae ein rhan yn weithgar iawn, ochr yn ochr â Trafnidiaeth Cymru, partneriaid diwydiant, a’r undebau llafur i gynnal ymgyrch i gael pobl yn ôl ar fysiau oherwydd y ffordd orau o ddiogelu gwasanaethau yw eu defnyddio, a’r her fwyaf sy’n ein hwynebu yn y diwydiant bysiau yw’r ffaith, er bod costau wedi cynyddu 25 y cant yn ddiweddar, mae’r defnydd o fysiau 15 y cant i lawr o gymharu â lefelau cyn-bandemig”.

    Bws
  4. Tlodi

    Yn ei ail sesiwn o Gwestiynau i’r Prif Weinidog fel arweinydd dros dro Plaid Cymru, mae Llyr Gruffydd yn galw am weithredu i leihau nifer y bobl sydd mewn tlodi yng Nghymru.

    “Cawsom ni i gyd ein hysgwyd” gan y digwyddiadau trasig a ddigwyddodd yn Nhrelái fis diwethaf, meddai.

    Dywed fod tlodi plant, gwaith cyflog isel neu ddiffyg cyflogaeth yn broblemau sydd angen atebion cenedlaethol.

    Ychwanegodd Mr Gruffydd fod “profiadau’r 13 mlynedd diwethaf wedi tanlinellu’n derfynol yr angen i ddatganoli rhagor o bwerau dros les yma yng Nghymru, yn unol â’r pwerau sydd eisoes wedi’u harfer gan Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon.”

    Atebodd y prif weinidog, "cyn belled ag y mae cydnerthedd cymunedol ar ystâd Trelái ei hun yn y cwestiwn, mae yna gyfres o fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae ei rhan ynddynt i gefnogi'r grwpiau cymunedol hynny sy'n gymaint o nodwedd o fywyd ar y stad".

    Yr anhrefn yn ardal Trelái
    Image caption: Yr anhrefn yn ardal Trelái
    Cafodd heddlu terfysg a'r gwasanaethau brys eu galw ar ôl i tua 100 i 150 o bobl ymgasglu yn ardal Trelái
    Image caption: Cafodd heddlu terfysg a'r gwasanaethau brys eu galw ar ôl i tua 100 i 150 o bobl ymgasglu yn ardal Trelái
    Llyr Gruffydd
    Image caption: Llyr Gruffydd
  5. Nyrsys ar streic

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at y ffaith bod nyrsys ar draws bron pob rhan o Gymru ar streic am 12 awr ddydd Mawrth a dydd Mercher mewn anghydfod parhaus dros gyflog.

    Mae'r gweithredu diwydiannol yn golygu y bydd miloedd o apwyntiadau gofal wedi'u cynllunio yn cael eu heffeithio.

    Dywed Mr Davies "mae'n hollbwysig bod yr anghydfod yn cael ei ddatrys, ac rwyf wedi'ch clywed yn dweud dro ar ôl tro, brif weinidog, y daw'r penderfyniad hwnnw drwy drafod."

    Mae'r prif weinidog yn ateb "mae'n siomedig bod yr RCN yn parhau i fynd ar streic yng Nghymru pan mae pob undeb arall sy'n cynrychioli'r gweithlu nyrsio wedi cytuno i dderbyn y telerau a drafodwyd mor fanwl â nhw dros gyfres o wythnosau... wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru bob amser yn mynd i fod yn agored i drafodaethau pellach."

    Mae picedu ar draws Cymru gan gynnwys Ysbyty Bronglais, Aberystwyth
    Image caption: Mae picedu ar draws Cymru gan gynnwys Ysbyty Bronglais, Aberystwyth
    Andrew RT Davies
    Image caption: Andrew RT Davies
  6. Mesur Ynni

    Mae'r prif weinidog yn dweud y bydd Mesur Ynni Llywodraeth y DU yn cael effaith "gyfyngedig" o ran ei chefnogaeth i drigolion Cymru.

    "O ystyried y camau a amlygwyd yn ddiweddar gan asiantau sy'n gweithredu ar ran cyflenwyr ynni, mae darpariaeth sylweddol ar gyfer diogelu defnyddwyr yn hepgoriad nodedig o'r Mesur mawr a chymhleth hwn. Fel y cyfryw, bydd ei effaith uniongyrchol o ran cefnogi trigolion Cymru yn gyfyngedig ac yn siomedig," meddai.

    Mark Drakeford
    Image caption: Mark Drakeford
  7. Effaith lesddaliad ar berchnogion tai

    Mae'r Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Mae pump o'r chwe chwestiwn cyntaf a gyflwynwyd gan feincwyr cefn Llafur.

    Mae Mike Hedges, AS Dwyrain Abertawe, yn codi'r mater o ddefnydd o lesddaliad a'i effaith ar berchnogion tai.

    Dywed Mr Hedges "mae lesddaliad yn system ffiwdal sy'n achosi pryderon i bobl sy'n byw mewn eiddo lesddaliadol. Roedd llawer o fy etholwyr wedi cynhyrfu'n aruthrol, ar farwolaeth Dug Beaufort, pan gawsant lythyrau yn dweud wrthynt fod unrhyw fwynau o dan eu tŷ neu ar y tir yn dal yn eiddo i olynydd Dug Beaufort."

    Mae'r prif weinidog yn cytuno gyda Mr Hedges bod y system lesddaliad yng Nghymru a Lloegr "angen ei diwygio'n fawr".

    Yn wahanol i rydd-ddeiliad sy’n berchen ar eiddo a’r tir y mae wedi’i adeiladu arno yn llwyr, mae lesddeiliad yn berchen ar brydles sy’n rhoi’r hawl iddynt ddefnyddio’r eiddo.

    Mae'n rhaid iddynt gael caniatâd i wneud newidiadau i'r cartref ac weithiau rhaid iddynt dalu rhent tir drud.

    Gall lesddeiliaid hefyd fod yn agored i ffioedd cyfreithiol drud os ydynt am ymestyn eu prydles.

    Mae gweinidogion llywodraeth y DU yn cael eu hannog i fwrw ymlaen gyda newidiadau i'r system lesddaliad yng Nghymru a Lloegr.

    Bwriedir cyflwyno deddfwriaeth yn yr hydref, ond ni ddisgwylir iddi gynnwys gwaharddiad, sy'n "siomedig" meddai Mr Drakeford.

    Yn lle hynny bydd yn cyflwyno amddiffyniadau i denantiaid rhag rhenti tir a ffioedd cyfreithiol.

    Disgwylir hefyd i gyflwyno diwygiadau a fydd yn gwneud y system lesddaliad yn llai deniadol, a gosod y sylfaen ar gyfer system cyfunddaliad.

    Byddai system cyfunddaliad yn golygu bod meddianwyr yn berchen ar eu hadeiladau ar y cyd ac yn cymryd cyfrifoldeb amdanynt heb brydles sy’n dod i ben.

    Fflatiau
  8. Yr Arglwydd John Morris

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn talu teyrnged i'r gwleidydd a'r bargyfreithiwr, yr Arglwydd John Morris, a fu farw yn 91 oed.

    Cynrychiolodd sedd Aberafan am dros bedwar degawd yn San Steffan a bu'n Ysgrifennydd Cymru, yn Weinidog Amddiffyn ac yn Dwrnai Cyffredinol.

    Dywed y Llywydd ei fod wedi cynrychioli ei etholaeth yn "anrhydeddus", ac y bu lles ffermwyr yn bwysig iddo.

    Meddai, "yn ei hunangofiant, mae John Morris yn dweud taw y ddau fater mwyaf blaenllaw iddo yn ei 60 mlynedd a mwy o wasanaeth cyhoeddus oedd cyfle cyfartal i'r unigolyn, a chreu sefydliadau cenedlaethol Cymreig".

    Diolchodd i John Morris "am oes o wasanaeth i'w bobl, i'w iaith a'i wlad, ac ar ysgwyddau pobl fel John Morris mae'r Cardi yma, a phob un ohonom yn etholedig i'r Senedd yma, yn eistedd heddiw.

    "Pob cydymdeimlad, felly, gyda Margaret ei wraig, a'i deulu a'i gyfeillion oll."

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford mai "ef oedd y person olaf yn fyw i fod wedi mynychu cinio ymddiswyddiad Harold Wilson yn Downing Street".

    Ychwanwgodd Mr Drakeford fod yr Arglwydd Morris wedi ysgrifennu ato o'i wely ysbyty yn ystod y dyddiau diwethaf "yn bryderus fel erioed y dylai mater sy'n peri pryder i Gymru gael ei graffu yn Nhŷ'r Arglwyddi".

    "Roedd ei gefnogaeth i Gymru, ac i ddatganoli, yn ddiflino. Mae fy mhlaid wedi colli cysylltiad uniongyrchol ymhell yn ôl i hanner cyntaf y ganrif Lafur yng Nghymru, mae ein cenedl wedi colli un o'i lleisiau mwyaf ffyddlon ac effeithiol.

    “Pa mor falch ydoedd fod Senedd bellach yn bodoli yng Nghymru, a pha mor addas ein bod yn gallu talu ein teyrngedau iddo yn y Senedd heddiw.”

    John Morris
    John Morris
  9. Croeso

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.