Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau gan arweinwyr y gwrthbleidiau ac ASau eraill.

  • Os bydd Rhun ap Iorwerth yn cael ei ethol yn arweinydd Plaid Cymru yn ddiwrthwynebiad ar 16 Mehefin, dyma sesiwn olaf Llyr Gruffydd fel arweinydd dros dro.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mehefin 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Deallusrwydd artiffisialwedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mehefin 2023

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod swyddogion Llywodraeth Cymru "wedi bod mewn deialog gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ynghylch rheoleiddio deallusrwydd artiffisial".

    Dywed ei fod yn cefnogi'r angen am reoleiddio yn y maes hwn, er mwyn "sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd cyfrifol, moesegol, cynhwysol a diogel.”

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  3. Bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwywedi ei gyhoeddi 14:27 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mehefin 2023

    O ran dynodi ardal o harddwch naturiol eithriadol Bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy yn barc cenedlaethol, mae’r prif weinidog yn dweud bod y prosiect ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau yn ystod tymor y Senedd hon sy’n dod i ben yn 2026.

    “Gyda thîm prosiect wedi’i sefydlu a dadansoddiad cychwynnol wedi’i gwblhau, mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wedi symud ymlaen i gasglu’r dystiolaeth fanwl sydd ei hangen, ac ymgysylltu â thrigolion, defnyddwyr a rhanddeiliaid allweddol y parc cenedlaethol newydd hwnnw,” meddai.

    Rhaeadr y BedolFfynhonnell y llun, STEPHEN CRAVEN / GEOGRAPH
  4. Treth ar ymwelwyrwedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mehefin 2023

    Mae'r Ceidwadwr Paul Davies yn mynegi pryderon am gynlluniau ar gyfer treth dwristiaeth ar ymwelwyr yng Nghymru.

    Mae’n dweud bod “y busnesau rydw i’n siarad â nhw, ar draws Preseli Sir Benfro, yn llethol yn erbyn cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer treth dwristiaeth ac yn erbyn newidiadau i gyfraddau defnydd hunanddarpar”.

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ardoll ymwelwyr yng Nghymru, ac os caiff ei chefnogi ar lawr y Senedd yna ewyllys ddemocrataidd y Senedd ei hun fydd hynny.

    "Fy nghyngor i fusnesau yn ei gymuned yw, yn lle cwyno wrtho am yr hyn sy'n mynd i fod yn digwydd, i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddylunio'r ardoll mewn ffordd, fel y credwn y bydd yn ei wneud, yn cefnogi'r sector yn ei etholaeth ac mewn mannau eraill.”

    Yr olygfa dros Fae Porth Mawr, Tyddewi, Sir BenfroFfynhonnell y llun, MICHAEL ROBERTS | GETTY IMAGES
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr olygfa dros Fae Porth Mawr, Tyddewi, Sir Benfro

  5. Swyddi gwag ym maes oncolegwedi ei gyhoeddi 14:04 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mehefin 2023

    Gan fod Rhun ap Iorwerth ar fin dod yn arweinydd Plaid Cymru yn ddiwrthwynebiad ar 16 Mehefin, dyma drydedd sesiwn a sesiwn olaf Llyr Gruffydd o Gwestiynau i’r Prif Weinidog fel arweinydd dros dro.

    Mae’n dweud bod ffigurau diweddar gan Goleg Brenhinol y Radiolegwyr yn dangos bod gan Gymru ar hyn o bryd gyfradd swyddi gwag oncoleg o 11%, gydag 80% o’r swyddi gwag hyn wedi aros yn wag ers dros chwe mis.

    Mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed ar gyfer diagnosis a thriniaeth canser ond mae'n gofyn, "sut ar y ddaear ydych chi'n disgwyl cyrraedd y targed hwn yng ngoleuni'r ffigurau brawychus hyn ynghylch lefelau staffio oncoleg yng Nghymru?"

    Dywed y prif weinidog "ers mis Awst 2021, rydym wedi cael rhaglen ehangu pum mlynedd o ran hyfforddi oncolegwyr meddygol ac oncolegwyr clinigol. Bob blwyddyn, bydd mwy o bobl yn dechrau hyfforddiant yng Nghymru.

    “Byddwn wedi gweld cynnydd o 34 y cant mewn radiograffeg ddiagnostig rhwng 2017 a 2023, a byddwn yn mynd ymlaen i ehangu’r gweithlu i wneud yn siŵr bod y galw ychwanegol am wasanaethau canser – y gwyddom y bydd yno yn y dyfodol oherwydd demograffeg a ffactorau eraill - y byddwn mor barod ar gyfer hynny yng Nghymru ag y gallwn fod."

    Llyr Gruffydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Llyr Gruffydd

  6. Ymchwiliad Covidwedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mehefin 2023

    Ar ddiwrnod cyntaf y gwrandawiadau cyhoeddus i ymchwiliad Covid, mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn gofyn dro ar ôl tro a oedd yn iawn i bobl gael eu rhyddhau i gartrefi gofal yn ystod y pandemig, heb iddynt gael eu profi am Covid.

    Mae Mr Drakeford yn ateb ei bod yn amhriodol gwneud sylw tra bod ymchwiliad Covid ar y gweill.

    Dywedodd Mr Davies wrth y prif weinidog fod ymarfer parodrwydd ar gyfer pandemig wedi nodi yn 2016 bod rhyddhau i gartrefi gofal yn risg fawr ac yn bryder mawr. “Ydych chi’n cytuno bod hynny’n risg yn rhy bell ac na ddylai rhyddhau cleifion o ysbytai i gartrefi gofal heb brofion fod wedi digwydd,” gofynnodd.

    Croesawodd Mr Drakeford ddiwrnod cyntaf gwrandawiadau llawn yr ymchwiliad ond dywedodd fod “y materion y mae Arweinydd yr Wrthblaid yn eu codi bellach yn faterion i’r ymchwiliad”.

    Pwysodd Mr Davies eto, gan ofyn: “os yn sydyn iawn, mae hyn i gyd yn mynd i gael ei dynnu oddi ar y bwrdd, beth yw pwynt Senedd Cymru?”

    Ailadroddodd y prif weinidog ei bwynt, a dywedodd ei bod yn “amharchus i’r ymchwiliad i geisio symud y cyfrifoldeb sydd ganddyn nhw i gwestiynau i mi yma”.

    Gofynnodd Mr Davies yr un cwestiwn eto: “Ydych chi’n cuddio rhag rhywbeth, brif weinidog?”

    “Dw i’n meddwl bod Arweinydd yr Wrthblaid wedi siomi ei hun,” meddai Mr Drakeford, gan honni y byddai gweinidogion yn Holyrood a San Steffan yn cael yr un ateb.

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

    Prawf covidFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Gwasanaeth anhwylderau bwytawedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mehefin 2023

    Dywed y Ceidwadwr James Evans bod "trigolion yn fy etholaeth i a ledled Cymru yn gorfod gadael y wlad i gael mynediad at wasanaethau anhwylderau bwyta arbenigol", ac mae'n galw am wasanaeth anhwylderau bwyta arbenigol yng Nghymru.

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “Mae hi wastad wedi bod yn wir ein bod ni yng Nghymru weithiau’n meddwl ei bod hi’n glinigol well i bobl gael mynediad at wasanaethau arbenigol sy’n cael eu darparu dros y ffin. Nid wyf i’n genedlaetholwr yn y ffordd mae’r aelod yn ymddangos."

    Ychwanegodd, “rhoddwyd cyllid ychwanegol o £2.5 miliwn ar gyfer gwella gwasanaethau wedi’i dargedu gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf i gydnabod blaenoriaeth gwasanaethau anhwylderau bwyta, ac mae byrddau iechyd wedi bod yn nodi’r anghenion lleol hynny ac yn gweld a ydynt yn cyfuno i greu achos dros wasanaeth cenedlaethol ar gyfer rhai agweddau ar wasanaethau anhwylderau bwyta."

  8. Ymchwil ac arloesiwedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mehefin 2023

    Mae'r Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Mae Luke Fletcher, AS Plaid Cymru dros orllewin de Cymru, yn gofyn pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer ymchwil ac arloesi.

    Dywed y prif weinidog bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £30 miliwn mewn rhaglenni newydd i hybu arloesedd yng Nghymru.

    Strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru yw Cymru’n Arloesi, dolen allanol.

    Dywed Mr Fletcher, "yn ôl y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU, gwariodd Cynghorau Ymchwil y DU ac Innovate UK dros £5.2 biliwn ledled y DU yn 2020-21. Dim ond £126 miliwn o hwnnw a wariwyd yng Nghymru".

    Mae’r prif weinidog yn ateb “Mater i UKRI yw dangos bod y llythrennau blaen ‘UK’ yn golygu rhywbeth yn ei deitl. Mae angen gwario’r arian sydd ganddo - ac mae'n sylweddol - ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig, gan gyfateb i'r cryfderau niferus iawn sydd i’w cael mewn sefydliadau ymchwil ym mhob rhan o’r DU.”

  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mehefin 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.