Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau gan arweinwyr y gwrthbleidiau ac ASau eraill.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mehefin 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Mynediad cyfartal i ddarpariaeth gofal iechyd?wedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mehefin 2023

    Altaf Hussain
    Disgrifiad o’r llun,

    Altaf Hussain

    Mae'r Ceidwadwr Altaf Hussain yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o "fethu" a sicrhau mynediad cyfartal i ddarpariaeth gofal iechyd i'r gymuned BAME [Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol].

    Meddai, “yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi cael adroddiad gan y grŵp trawsbleidiol ar ganser, wedi’i ategu gan dystiolaeth gan Cancer Research UK a Tenovus, sy’n amlygu profiad y gymuned ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig o gael mynediad at ofal. Nid yw data ethnigrwydd wedi'i gynnwys mewn ystadegau canser, sy'n arwain at ragdybiaethau ynghylch sut y bydd cleifion yn ymateb, er bod gwahaniaethau clir yn y ffordd y mae rhai mathau o ganser yn effeithio ar wahanol grwpiau hiliol.

    "Cawsom hefyd yr adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn dangos tystiolaeth glir o fenywod du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu trin yn wahanol yn Ysbyty Athrofaol Cymru."

    Atebodd y prif weinidog, "rwyf am ei sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y pwyntiau hynny o ddifrif. Roeddwn i'n meddwl bod yr adroddiad ar wasanaethau mamolaeth yng Nghaerdydd yn adroddiad gwirioneddol dorcalonnus, ac rwy'n siŵr y bydd wedi bod yn ofidus i lawer o bobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth hwnnw."

    Ychwanegodd, “mae gan gynllun gweithredu gwrth-hiliaeth Cymru adran gyfan wedi’i neilltuo i ofal iechyd, a hynny oherwydd bod y cynllun wedi’i gynhyrchu gan bobl a adroddodd eu profiadau eu hunain o ddefnyddio’r gwasanaeth hwnnw, ac o weithio ynddo hefyd.”

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  3. Apwyntiadau gyda deintyddion y GIGwedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mehefin 2023

    Jane Dodds
    Disgrifiad o’r llun,

    Jane Dodds

    Mewn ymateb i Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol, dywed y prif weinidog y rhoddwyd 1.3m o gyrsiau triniaeth i tua 1 miliwn o gleifion gyda deintyddion y GIG yn 2022-23. Roedd bron i 174,000 o'r cleifion hyn yn gleifion newydd.

    Dywed Ms Dodds fod "problem wirioneddol" o hyd gyda mynediad i ddeintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd. “Mae llawer o bobl yn dweud wrthyf na allant gael mynediad at ddeintydd GIG o hyd, neu eu bod yn cael eu troi i ffwrdd oddi wrth ddeintydd y GIG, ac mewn gwirionedd nid ydynt yn gwybod pryd maen nhw'n mynd i gael triniaeth nesaf.”

    Deintydd
  4. 'Dyletswydd ddinesig i bleidleisio'wedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mehefin 2023

    Mae Adam Price yn gofyn pa asesiad mae'r prif weinidog wedi ei wneud o'r manteision o gyflwyno dyletswydd sifig i bleidleisio mewn etholiadau Cymreig.

    Atebodd y prif weinidog "rydym ni’n benderfynol o leihau’r diffyg democrataidd yng Nghymru drwy ddiwygio gweinyddiaeth etholiadol, gwella mynediad at etholiadau ac annog pobl i gymryd rhan yn ein democratiaeth. Yn fy marn i, cyn cyflwyno dyletswydd sifig ffurfiol, byddai angen i bobl Cymru gefnogi newid o’r fath drwy’r broses maniffesto".

    Yfory yn y Senedd bydd Mr Price yn cynnig Bil ar gyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio, gan nodi mai diben y Bil fyddai:

    "a) ceisio efelychu llwyddiant democratiaethau eraill sydd wedi cyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio o ran cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau a thrwy hynny wella lefel yr ymgysylltiad a'r cynrychioldeb ar draws pob oedran, dosbarth a chymuned;

    b) cyflwyno dyletswydd ddinesig ar bawb sy'n gymwys i bleidleisio i gymryd rhan yn etholiadau'r Senedd ac etholiadau cyngor sir;

    c) caniatáu i'r rhai sy'n dymuno nodi eu hanfodlonrwydd gydag ymgeisydd, plaid neu wleidyddiaeth yn ehangach i wneud hynny drwy opsiwn o ymatal yn gadarnhaol ar y papur pleidleisio;

    d) caniatáu cyflwyno cosb briodol am beidio â chydymffurfio â'r rhwymedigaeth ddinesig i bleidleisio neu ymatal yn gadarnhaol, gydag eithriadau cyfreithlon; ac

    e) darparu ar gyfer cyflwyno cyfnod peilot ar gyfer cyflwyno'r ddyletswydd ar sail oedran benodol."

    PleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Trafnidiaeth Cymruwedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mehefin 2023

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhun ap Iorwerth

    Yn ei ail sesiwn o Gwestiynau i’r Prif Weinidog fel arweinydd Plaid Cymru, dywed Rhun ap Iorwerth fod "materion difrifol" gyda gwasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, "pedwar o bob 10 trên yng Nghymru wedi'u gohirio, a'r ffigurau 12 mis diweddaraf yn dangos darlun sy'n gwaethygu".

    Mae'n gofyn a yw Mr Drakeford yn derbyn bod gwasanaethau rheilffordd yn annerbyniol a "pryd gall teithwyr ddisgwyl gweld gwelliannau gwirioneddol a pharhaus yn y gwasanaeth?"

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod yr "heriau sy'n wynebu Trafnidiaeth Cymru yn golygu nad yw'r gwasanaeth sydd wedi ei ddarparu mewn rhai rhannau o Gymru wedi bod o safon y mae gan deithwyr hawl i'w ddisgwyl".

    Ychwanegodd, "Nid wyf am ddweud wrth yr aelod y bydd llwybr hawdd at y gwelliannau hynny... mae Network Rail wedi cyhoeddi prosbectws buddsoddi sy'n rhoi Cymru ar waelod y gynghrair fuddsoddi, ac y maent hwy eu hunain yn dweud y bydd yn arwain at fwy o ganslo a mwy o oedi yn y dyfodol o ganlyniad i gynllun y maent wedi'i gyhoeddi. Dyna'r cyd-destun y mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu ynddo."

    Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
  6. Rhestrau aroswedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mehefin 2023

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn codi mater amseroedd aros y GIG.

    Meddai, “ychwanegwyd 6,000 o bobl ar y rhestr o lwybrau; erbyn hyn, mae bron i 750,000 o bobl yng Nghymru ar y llwybr. Gwelsom hefyd ostyngiad bychan yn y rhai sy’n aros am ddwy flynedd neu fwy; mae mwy na 30,000 o bobl yn aros am ddwy flynedd neu fwy. Mae un o bob pump o bobl sydd ar lwybr y GIG yma yng Nghymru yn aros am flwyddyn neu fwy - blwyddyn neu fwy i weld eu hunain yn symud ymlaen ar y rhestrau aros hynny. Pa obaith allwch chi ei roi i'r unigolion hynny sy'n aros dwy flynedd neu fwy, neu am flwyddyn, ac i'r bobl sydd wedi cael eu hychwanegu at y rhestrau aros?"

    Mae'r prif weinidog yn ateb, "y gobaith yr ydym yn ei gynnig i bobl yw cydnabod yr ymdrechion enfawr y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wneud a'r llwyddiant y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei weld yn yr ymdrechion hynny. Felly, gostyngodd arosiadau dwy flynedd eto fis diwethaf am y trydydd ar ddeg mis yn olynol; gostyngodd amseroedd aros pum deg dwy wythnos ar gyfer cleifion allanol eto fis diwethaf; gwellodd perfformiad adrannau achosion brys fis diwethaf."

    GIGFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Taliadau morgais uwchwedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mehefin 2023

    Mae Peredur Owen Griffiths, AS Plaid Cymru yn cynrychioli Dwyrain De Cymru, yn gofyn sut mae'r llywodraeth yn cefnogi perchnogion tai sy'n wynebu taliadau morgais uwch.

    Daw ar ôl penderfyniad gan Fanc Lloegr i godi cyfraddau llog i 5%, i fyny o 4.5%, wrth iddo geisio mynd i’r afael â chwyddiant.

    Mae cyfraddau morgeisi wedi bod yn codi ers misoedd. Ar hyn o bryd mae morgais cyfradd sefydlog dwy flynedd ar gyfartaledd yn 6.19%, tra bod y gyfradd pum mlynedd yn 5.82%, yn ôl cwmni data ariannol Moneyfacts. Ym mis Mehefin y llynedd roedd y cyfraddau hynny'n agosach at 3%.

    Mae Mr Drakeford yn ateb bod Llywodraeth Cymru yn "darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer y rhai sydd ei angen fwyaf".

    Mae'n dweud bod £40m wedi'i ddyrannu "wedi'i anelu at anawsterau morgais cyfnod cynnar, lle mae'n bosibl cymryd camau a fydd yn caniatáu i bobl aros yn eu cartrefi eu hunain".

    Tai
  8. Croesowedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mehefin 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.