Crynodeb

  • Y Trefnydd Lesley Griffiths yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog Mark Drakeford, sy'n rhoi tystiolaeth i Ymchwiliad Covid-19 y DU.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. GIG Cymruwedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf 2023

    “Mae angen i ni barhau â’r sgwrs honno gyda’r cyhoedd ynglŷn â nad y meddyg teulu sydd angen i chi weld bob amser,” meddai Lesley Griffiths.

    “Gwn fod meddygon teulu yn fy etholaeth fy hun yn cyflogi nifer o staff yn y feddygfa, er enghraifft fferyllwyr a ffisiotherapyddion, fel bod ganddynt staff eraill i gymryd rhywfaint o'r pwysau oddi ar feddygon teulu... Mae gofal sylfaenol, yn union fel gofal eilaidd, yn wynebu gofynion digynsail ar hyn o bryd,” ychwanega.

    Lesley Griffiths
    Disgrifiad o’r llun,

    Lesley Griffiths

  3. Gorddefnyddio meddyginiaethwedi ei gyhoeddi 14:09 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf 2023

    Mae sawl AS yn mynegi pryder ynghylch gorddefnyddio meddyginiaeth ar bresgripsiwn ac aml-fferylliaeth (rhagnodi neu gymryd gormod o feddyginiaethau).

    Mae Rhys ab Owen yn nodi bod BBC Panorama wedi adrodd yn ddiweddar bod mwy nag wyth miliwn o bobl yn Lloegr ar gyffuriau gwrth-iselder - sy'n cael eu rhagnodi ar gyfer iselder, gorbryder ac anhwylder obsesiynol cymhellol a chyflyrau eraill.

    Dyna filiwn yn fwy o bobl na phum mlynedd ynghynt.

    Mae mwy na chwarter cleifion ar gyffuriau gwrth-iselder yn Lloegr - tua dwy filiwn o bobl - wedi bod yn eu cymryd ers pum mlynedd.

    Atebodd Lesley Griffiths, "rhaid cymryd yn ganiataol bod meddygon teulu wedi ymchwilio i therapïau amgen, er enghraifft, pan fydd claf yn dod ger eu bron cyn rhagnodi cyffur gwrth-iselder, ond mae'n rhaid i ni gymryd hynny fel penderfyniad clinigol gan y meddyg teulu."

    TablediFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Ymchwiliad Covid-19wedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf 2023

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhun ap Iorwerth

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn dweud ei bod hi eisoes yn amlwg o Ymchwiliad Covid-19 y DU “nad oedd Llywodraeth Cymru yn barod ar gyfer y pandemig”.

    Mae'n galw eto am ymchwiliad Covid yn benodol i Gymru. “Does bosib y gall Llywodraeth Cymru weld nawr beth rydw i a’r ymgyrchwyr mewn profedigaeth Covid wedi galw amdano ers tro, sef bod angen yr ymchwiliad Covid Cymreig llawn hwnnw, os ydym am gael unrhyw obaith o gyrraedd y gwir go iawn a dysgu gwersi,” meddai.

    Mae’r Trefnydd yn dweud mai ymchwiliad y DU yw’r lle iawn ar gyfer cwestiynau ar sut y gwnaeth Cymru baratoi ar gyfer y pandemig.

    Dywed Rhun ap Iorwerth fod Plaid Cymru wedi "cyhoeddi nifer o gynigion sy'n edrych ar sut i gryfhau'r gweithlu [GIG] drwy fynd i'r afael â'r mater o gyflog, mynd i'r afael â'r mater o golli miliynau o bunnoedd mewn elw i asiantaethau preifat."

    Mae’r Trefnydd yn ateb, “Rwyf wedi gweld y cynllun pum pwynt y mae Plaid Cymru wedi’i gyflwyno, ac mae’n rhaid i mi ddweud nad wyf yn meddwl ein bod yn anghytuno ag unrhyw beth yr ydych wedi’i gyflwyno. Ond hoffwn weld rhai manylion y tu ôl i hynny, ac rwy’n siŵr y byddai’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud hynny. Yn amlwg, nid yw iechyd yn rhan o’r cytundeb cydweithredu, ond nid yw hynny’n golygu na fyddai gennym ddiddordeb mewn clywed eich barn i weld beth allwn ni ei wneud."

    Covid
  5. Cynhyrchiant bwyd lleolwedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn galw ar y llywodraeth i wella cynhyrchiant bwyd lleol yn dilyn pasio Bil Amaethyddiaeth (Cymru).

    Dywed, "ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, o'r cynnyrch y gallem ei dyfu, roedden ni'n arfer bod 75 y cant yn hunangynhaliol. Yr ydym yn awr o dan 60 y cant yn hunangynhaliol - y bwyd y gallwn ei gynhyrchu o fewn y wlad hon."

    Atebodd Trefnydd Lesley Griffiths, “byddwch yn ymwybodol mai ffocws Bil amaethyddiaeth Cymru, yr holl ffordd drwodd, o’r adeg yr aethom allan i ymgynghoriad gyntaf yn ôl yn 2018, oedd gwneud yn siŵr bod ffermwyr gweithgar yn cael eu gwobrwyo. Yn amlwg, mae cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn mynd i fod yn rhan bwysig iawn o'r cynllun ffermio cynaliadwy."

    Mae Mr Davies yn galw ar Lywodraeth Cymru i "fabwysiadu targed ar gyfer hunangynhaliaeth yn y bwyd y gallwn ei gynhyrchu fel bod y diwydiant, y llunwyr polisi ac, yn bwysig, chi, fel gweinidog, neu bwy bynnag sy'n dod ar eich ôl, yn cael targed i anelu ato a gallwn gyflawni’r nod hwnnw o 75 y cant y mae amaethyddiaeth Cymru ac amaethyddiaeth y DU wedi’i gyflawni yn hanesyddol.”

    Atebodd Lesley Griffiths, "Rwy'n hoffi targedau am y rheswm bod gennych rywbeth i'w fesur, ond mae'n rhaid iddynt fod yn bragmatig ac mae'n rhaid iddynt fod yn realistig".

    Ychwanegodd, "ni fyddwn yn ei ddiystyru, ond nid wyf yn mynd i benderfynu ar bolisi o'r fath yma yn y siambr heddiw".

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  6. Zimmer Biometwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf 2023

    Mae'r Ceidwadwr Tom Giffard yn cyfeirio at benderfyniad y cwmni gweithgynhyrchu meddygol Americanaidd Zimmer Biomet i gau ei ffatri yn ne Cymru, gan roi 540 o swyddi mewn perygl.

    Dywed Lesley Griffiths bod "Llywodraeth Cymru nawr yn ymgysylltu â'r cwmni i ddeall y rhesymeg dros y penderfyniad maen nhw wedi'i wneud, ac i archwilio unrhyw opsiynau sy'n bodoli i ddiogelu swyddi."

    Mae'n pwysleisio, "dylwn fod yn glir iawn na chafodd Llywodraeth Cymru unrhyw rybudd ymlaen llaw gan y cwmni o'r penderfyniad hwn. Yr unig ffordd yr oeddem yn gwybod amdano oedd pan oeddem wedi clywed sïon."

    Gadawodd cannoedd o weithwyr Zimmer Biomet yn dilyn y cyhoeddiad y byddai'n cau fore Iau
    Disgrifiad o’r llun,

    Gadawodd cannoedd o weithwyr Zimmer Biomet yn dilyn y cyhoeddiad y byddai'n cau fore Iau

  7. Y Trefnydd yn mynychu ar ran y prif weinidogwedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf 2023

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn rhoi tystiolaeth i Ymchwiliad Covid-19 y DU heddiw.

    Y Trefnydd Lesley Griffiths sy'n mynychu sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ar ei ran.

    Pan atebodd y Trefnydd gwestiynau ar ran y prif weinidog y llynedd, atebodd hi 10 cwestiwn mewn 45 munud. “Da iawn” ymatebodd y Llywydd Elin Jones, a awgrymodd fod y Trefnydd yn rhoi “tiwtorial i’r Cabinet ar sut i roi atebion cryno mewn cwestiynau llafar”.

    Mae'r Llywydd yn gwerthfawrogi "atebion cryno"Ffynhonnell y llun, Thinkstock/BBC
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Llywydd yn gwerthfawrogi "atebion cryno"

  8. Croesowedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich+1 4 Gorffennaf 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o unfed sesiwn ar hugain y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.