a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr a haf braf i chi

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog tan fis Medi.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd Cymru
  2. Prydau ysgol am ddim

    Mark Drakeford
    Image caption: Mark Drakeford

    Mae Mark Drakeford yn cadarnhau na fydd prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn dros wyliau'r ysgol.

    Daw ar ôl i Gyngor Caerffili gyhoeddi y bydd yn defnyddio ei gronfeydd wrth gefn i fwydo’r plant mwyaf bregus dros wyliau’r haf.

    Roedd y prif weinidog yn ymateb i gwestiwn gan Aelod o'r Senedd Caerffili Hefin David a alwodd ar gynghorau eraill i ystyried dilyn esiampl yr awdurdod lleol. Gofynnodd hefyd a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ariannu'r cynllun ledled Cymru, fel y gwnaeth y llynedd.

    Yn ôl Mr Drakeford roedd llawer o gynlluniau ar gael i helpu plant dros y gwyliau, a oedd yn darparu cyfleoedd o ran bwyd a chwarae, gan gynnwys gan grwpiau ffydd, yr Urdd ac Undeb Rygbi Cymru.

    Dywedodd y prif weinidog "er nad ydym wedi gallu gwneud mwy nag yr oeddem wedi addo ei wneud yn wreiddiol, mewn perthynas â chinio ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol, nid yw hynny'n golygu nad oes cefnogaeth yno i bobl ifanc sydd ei angen".

    Ymestynodd Llywodraeth Cymru y cynllun prydau ysgol am ddim i wyliau'r haf yn flaenorol oherwydd "tanwariant" yn y gyllideb, "sy'n rhan o'r cytundeb cydweithio" gyda Phlaid Cymru, yn ôl Mr Drakeford.

    Ychwanegodd, er "nad oes unrhyw danwariant ar ôl yn y gyllideb honno i'w ddefnyddio at y diben hwnnw", roedd y llywodraeth "bob amser yn cael trafodaethau" gyda Phlaid Cymru i ddod o hyd i'r ffordd orau o ddefnyddio'r gyllideb oedd ar gael iddynt.

    Bwyd ysgol
  3. GIG Cymru yn 'sgandal cenedlaethol'

    Tom Giffard
    Image caption: Tom Giffard

    Mae'r Ceidwadwr Tom Giffard yn honni bod staff y GIG "yn cael eu siomi yn gyson gan Lywodraeth Cymru".

    Mae'n dweud bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn "sgandal cenedlaethol".

    Mae’n ymhelaethu, “Mae gennym ni fwy na 31,000 o bobl yng Nghymru yn treulio dros ddwy flynedd ar restrau aros y GIG, ond yn Lloegr maen nhw wedi cael eu dileu i bob pwrpas. Dyna un o bob 1,278.

    "A thra bod Llywodraeth Cymru yn cael £1.20 am bob £1 sy'n cael ei gwario yn Lloegr i ariannu'r GIG, mae Llywodraeth Cymru yn dewis gadael ein gwasanaeth iechyd yn fyr drwy roi £1.05 iddo.

    "Mae Cymru o dan y llywodraeth Lafur hon yn tanberfformio'n gyson o gymharu â gweddill Prydain".

    Mae'r prif weinidog yn ateb yn ddig mai dim ond un neges sydd gan y Ceidwadwyr - "os yw yng Nghymru mae'n waeth".

    Mae'n parhau, "nid yw'n syndod bod y blaid Geidwadol yn y llanast y mae ynddi.

    "Yn y pôl piniwn diwethaf a gynhaliwyd gan you.gov, a ydych chi’n cofio pa ganran o bobl o dan 45 oed sy’n bwriadu pleidleisio dros eich plaid yn yr etholiad nesaf? Ydych chi'n cofio hynny? Roedd yn 7 y cant."

    GIG
  4. Mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus

    Mae Sioned Williams o Blaid Cymru yn cyfeirio at broblemau y mae rhai pobl ag anableddau dysgu wedi'u cael wrth adnewyddu eu tocynnau bws.

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “rwyf innau hefyd wedi clywed hanesion pobl sy’n dweud bod arfer wedi newid yn y ffordd y mae’r tocynnau bws wedi’u rhoi. Gadewch imi fod yn glir iawn gyda’r aelod: nid yw’r polisi wedi newid; mae polisi Llywodraeth Cymru yn parhau fel y bu erioed."

    Dywed ei fod wedi gofyn i swyddogion gael trafodaethau pellach gyda Thrafnidiaeth Cymru i sicrhau “eu bod nhw’n gweinyddu’r cynllun yn y ffordd yr hoffen ni iddo gael ei weinyddu, yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru a heb unrhyw symudiadau sy’n ymddangos i’w wneud yn anos i bobl ag anableddau dysgu gael eu hawliau”.

    Sioned Williams
    Image caption: Sioned Williams
  5. 'Bys ar y pwls?'

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi dangos “diffyg ymgysylltu” dro ar ôl tro gyda chwmnïau fel Zimmer Biomet i gadw llygad am “arwyddion rhybudd” y gallen nhw gau safleoedd yng Nghymru.

    Meddai, "dwi'n meddwl bod hi’n eithaf clir bod bys Llywodraeth Cymru ddim ar y pwls o ran cwmni a chyflogwr oedd mor bwysig. Ac mae'n digwydd yn rhy aml. Yn llythrennol o Fôn i Fynwy - o'r 2 Sisters i Avara Food, a rŵan Zimmer Biomet - rydyn ni'n gweld cyflogwyr mawr yn tynnu allan a gadael creithiau economaidd dwfn, ac mae'r ffigurau diweithdra heddiw yn cadarnhau patrwm pryderus iawn".

    Dywed Mr Drakeford nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw rybudd ymlaen llaw gan Zimmer Biomet o'u penderfyniad.

    Meddai, "gwnaeth y cwmni ei benderfyniad i gyhoeddi ei fwriad heb yr un gair i Lywodraeth Cymru, i'w weithwyr ei hun, i Lywodraeth y DU. Does dim bys ar unrhyw bwls sy'n mynd i ganfod cyhoeddiad bod cwmni yn benderfynol o wneud ar ei delerau ei hun a heb hysbysu neb arall.

    “Ac i awgrymu, rywsut, fod yna wybodaeth i’w chasglu os oedd rhywun yn effro iddo - yn syml, nid yw’n adlewyrchu o gwbl yr hyn a ddigwyddodd yn yr achos hwn.

    “Wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru, trwy ei threfniadau economaidd rhanbarthol, bobl ym mhob rhan o Gymru sy’n siarad bob dydd â chwmnïau ledled Cymru, weithiau am yr anawsterau y maent yn eu profi, weithiau am y cynlluniau ehangu sydd ganddynt.”

    Rhun ap Iorwerth
    Image caption: Rhun ap Iorwerth
  6. Ymchwiliad Covid-19 y DU

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at gyfaddefiad y cyn weinidog iechyd Vaughan Gething i Ymchwiliad Covid-19 y DU nad oedd wedi darllen dogfennau, canllawiau a chynlluniau yn edrych ar argyfyngau sifil a ffliw pandemig nes iddo baratoi ar gyferyr ymchwiliad.

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb na fydd yn rhoi sylwebaeth barhaus ar yr ymchwiliad.

    Ond mae’n penderfynu ateb y cwestiwn mewn ffordd fwy cyffredinol: "Mae'r holl weinidogion, pan fyddant yn dod yn gyfrifol am bortffolio newydd, yn derbyn llawer iawn o wybodaeth gan eu gweision sifil. Mae'n crynhoi llawer iawn o'r hyn y bydd angen iddynt ei wybod.

    "Mae unrhyw awgrym y gallai gweinidog gychwyn ar ôl-gatalog o ddogfennau a gynhyrchwyd dros gyfnod o 15 mlynedd, ac ar yr un pryd gyflawni eu cyfrifoldebau bob dydd, nid yw’n adlewyrchu’r ffordd y mae llywodraeth yn cael ei rhedeg yng Nghymru neu mewn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig”.

    Gan fod Mr Gething bellach yn weinidog yr economi, mae Mr Davies yn dweud "heddiw, rydym wedi cael y niferoedd diweithdra. Gweinidog yr economi sy'n gyfrifol, yn amlwg, am wneud penderfyniadau allweddol yn y portffolio hwnnw a fydd yn effeithio ar y rhagolygon economaidd a rhagolygon cyflogaeth pobl ar hyd a lled Cymru. Os yw'n cael ei ddangos mewn portffolios eraill nad yw ar draws ei friff, sut y gallwn fod yn hyderus ei fod yn mynd i allu ymdrin â'r darlun economaidd sy'n datblygu yma yng Nghymru?"

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu o economi’r Deyrnas Unedig yw bod y Torïaid wedi chwalu’r economi."

    Andrew RT Davies
    Image caption: Andrew RT Davies
  7. Ynni adnewyddadwy tra'n gwarchod cynefinoedd

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod "cydbwysedd" i'w daro rhwng datblygu ynni adnewyddadwy tra'n gwarchod cynefinoedd a chynyddu bioamrywiaeth.

    Mae’n ymhelaethu, “nid oes bygythiad mwy i rywogaethau o bob math na newid hinsawdd ei hun, a dyma weithred gydbwyso anodd.

    “Mae’n rhaid i ni greu dyfodol ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru oherwydd dyna’r ffordd rydyn ni’n gwneud ein cyfraniad mwyaf at fynd i’r afael â’r risgiau y mae newid yn yr hinsawdd yn eu cyflwyno i bob rhywogaeth, gan gynnwys dynolryw.

    "Yr hyn rydyn ni'n bwriadu ei wneud yma yng Nghymru yw taro'r cydbwysedd hwnnw yn y ffordd fwyaf gofalus."

  8. Zimmer Biomet

    Mae'r AS Llafur Huw Irranca-Davies yn gofyn pa sylwadau fydd y prif weinidog yn eu gwneud i Lywodraeth y DU i gefnogi'r achos dros gadw swyddi Zimmer Biomet ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

    Mae'r cwmni gweithgynhyrchu meddygol Americanaidd wedi datgan bwriad i gau ei ffatri yn ne Cymru, gan beryglu 540 o swyddi.

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb bod cyfarfod yn cael ei drefnu rhwng gweinidog yr economi Vaughan Gething a'i gyfatebydd yn yr Adran Busnes a Masnach.

    Mae'n dweud mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw "diogelu cymaint o swyddi â phosib".

    Ychwanegodd, "mae ein ffocws ar gyfer y dyfodol agos ar sgyrsiau uniongyrchol gyda'r cwmni, gwell dealltwriaeth o'u sefyllfa, ac yna'r ymdrech i symud pethau i gyfeiriad gwahanol."

    Zimmer Biomet
    Image caption: Gadawodd cannoedd o weithwyr safle Zimmer Biomet ar fore y cyhoeddiad y byddai'n cau
  9. 'Nid wyf wedi arfer ag atebion mor fyr'

    Yr wythnos ddiwethaf, pan atebodd y Trefnydd Lesley Griffiths gwestiynau yn lle’r Prif Weinidog Mark Drakeford, dywedodd y Llywydd Elin Jones “nid wyf wedi arfer ag atebion mor fyr yn y sesiwn hon”.

    Roedd hynny’n dilyn sesiwn flaenorol pan oedd y Trefnydd yn lle'r prif weinidog, a arweiniodd at y Llywydd yn awgrymu bod Lesley Griffiths yn rhoi “tiwtorial i’r Cabinet ar sut i roi atebion cryno mewn cwestiynau llafar”.

    A fydd y prif weinidog wedi ystyried yr awgrym?

    Mae'r Llywydd yn gwerthfawrogi "atebion cryno"
    Image caption: Mae'r Llywydd yn gwerthfawrogi "atebion cryno"
  10. Croeso

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.