a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Diolch o galon am eich cwmni a llongyfarchiadau!

    A dyna'r cyfan o lif byw Cymru Fyw ar ddiwrnod canlyniadau TGAU.

    Ry'n ni wedi clywed gan ddisgyblion ledled Cymru sydd wedi gwneud yn arbennig.

    Llongyfarchiadau i bob un ar eu llwyddiant! ☺👋

    Hwyl am y tro ☺

    Teulu yn Ysgol Ffynone, Abertawe
    Image caption: Teulu yn Ysgol Ffynone, Abertawe, yn falch iawn o ganlyniadau eu mab
  2. Dadansoddiad ein gohebydd addysg, Bethan Lewis

    Bethan Lewis

    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Ar lefel Cymru gyfan, yr un stori â'r arholiadau Safon Uwch yr wythnos ddiwethaf yw hi – graddau yn is na'r llynedd, ond yn dal yn uwch nag yn 2019.

    Roedd gan ddisgyblion TGAU, fel myfyrwyr Safon Uwch, rywfaint o wybodaeth ymlaen llaw cyn arholiadau a ffiniau graddau is.

    Gofynnais i’r Gweinidog Addysg Jeremy Miles, a oedd yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, a fyddai’r cymorth ychwanegol hwnnw’n cael ei ollwng y flwyddyn nesaf.

    Dyna beth roedd yn ei “ddisgwyl”, meddai’r Gweinidog, wrth gydnabod na fydd effeithiau Covid wedi diflannu.

    Mae dull mwy graddol o fynd yn ôl i ‘normal’ o'i gymharu â Lloegr yn golygu bod gostyngiad sylweddol mewn graddau yng Nghymru yn debygol y flwyddyn nesaf hefyd.

  3. Penderfyniad i fod yn hael wrth osod ffiniau graddau eto

    Ar ôl i arholiadau gael eu canslo yn 2020 a 2021 ac i raddau gael eu pennu gan athrawon, cafodd mesurau eu cyflwyno i gefnogi disgyblion pan gafodd arholiadau eu cynnal yn 2022.

    Roedd y canlyniadau'n parhau i fod yn uwch na chyn y pandemig felly cafodd y penderfyniad ei wneud i fod yn hael wrth osod ffiniau graddau eleni eto wrth ddechrau dychwelyd i'r broses cyn Covid.

    Eithne Hughes
    Image caption: Eithne Hughes, cyfarwyddwr undeb arweinwyr ysgolion a cholegau ASCL Cymru

    Dywedodd Eithne Hughes, cyfarwyddwr undeb arweinwyr ysgolion a cholegau ASCL Cymru bod disgyblion wedi wynebu sawl her.

    Mae absenoldeb yn parhau'n broblem, a chyn yr arholiadau roedd lefelau presenoldeb yn isel iawn ymhlith plant o gefndiroedd mwy difreintiedig, meddai.

    Ar ben hynny roedd yr argyfwng costau byw wedi achosi problemau ychwanegol i rai disgyblion.

    Dywedodd Ms Hughes mai'r penderfyniad cywir oedd cadw mesurau i gefnogi disgyblion eleni, a bod hynny'n fwy "caredig".

    Ond fe rybuddiodd y byddai angen ystyried mesurau y flwyddyn nesaf hefyd mewn rhai pynciau pe bai disgyblion yn parhau i'w chael hi'n rhy anodd.

    "Beth dy'n ni ddim eisiau gweld yw methiant llwyr mewn rhai pynciau i blant sy'n gwneud eu gorau, ond ble mae'r methiannau tu hwnt i'w rheolaeth nhw," meddai.

  4. Wynebau balch yn Abertawe

    Criw hapus iawn yn Ysgol Ffynone, Abertawe, y bore 'ma!

    Canlyniadau yn Abertawe
  5. Edrych ymlaen at Flwyddyn 11 😎

    Mae Paige ac Elen ym mlwyddyn 10 yn Ysgol Morgan Llwyd.

    Derbyniodd Elen 3C, B a 2D a dau Merit.

    Mae Paige yn teimlo ychydig yn rhy nerfus i agor yr amlen ar hyn o bryd ac am aros ychydig cyn gwneud!

    Ond mae'r ddwy yn edrych ymlaen at fynd i Flwyddyn 11 ym mis Medi.

    Paige ac Elen
    Image caption: Paige ac Elen yn hapus wrth fynd ymlaen i flwyddyn 11 Ysgol Morgan Llwyd
  6. Cerdd arbennig gan fardd y mis Radio Cymru

    BBC Radio Cymru

    Mae cerdd arbennig Bardd y Mis Radio Cymru Buddug Roberts yn pwysleisio bod yna bethau pwysicach na chanlyniadau TGAU.

    Darllenwch y gerdd yma.

  7. 'Dw i mor falch 'mod i wedi cael y canlyniadau yma'

    Mae Gwawr o Ysgol Llangefni wedi cael 13 A* TGAU.

    Dywedodd ei bod "mor falch" o gael y canlyniadau.

    "Dw i'n teimlo'n amazing," meddai.

    'Do'n i bron a methu cysgu neithiwr yn poeni.

    "Dw i mor falch bod o drosodd rŵan".

    Video content

    Video caption: TGAU: 'Do'n i bron a methu cysgu neithiwr yn poeni'
  8. 'Canlyniadau'r oedden ni'n eu disgwyl' - Gweinidog Addysg

    "Mae'n ddiwrnod pwysig i bobl ifanc sy'n cael eu canlyniadau heddi ac i'r athrawon a'r staff a'u teulueodd," dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles.

    "Felly'r peth cyntaf i wneud yw eu llongyfarch nhw am eu canlyniadau."

    Jeremy Miles

    Ychwanegodd: "Ar draws Cymru mae'r canlyniadau'n debyg i'r hyn oedden ni'n disgwyl gweld... ro'n ni'n cynllunio ar y sail y byddai canlyniadau ryw hanner ffordd rhwng lle'r oedden nhw yn 2019 cyn Covid a'r canlyniadau gafon ni llynedd.

    "Dyna beth ry'n ni wedi gweld ar y cyfan."

    Dywedodd ei fod yn disgwyl y bydd yr amgylchiadau fel yr arfer, cyn y pandemig, erbyn y flwyddyn nesaf.

    "Beth y'n ni'n ceisio gwneud yw mynd ar lwybr sydd yn adlewyrchu profiad pobl yn y system addysg o Covid.

    "Un o'r pethau ni wedi gwneud eleni fel Llywodraeth yw darparu adnoddau ar-lein i gefnogi pobl ifanc gyda'u harholiadau gyda thechnegau adolygu ond hefyd gyda iechyd meddwl a phryder."

  9. 'Dylech fod yn falch iawn o'r hyn rydych chi wedi ei gyflawni'

    "Llongyfarchiadau i bawb yng Nghymru sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw," meddai Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru.

    "Rydych chi wedi dangos yr hyn rydych chi'n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud, a dylech fod yn falch iawn o'r hyn rydych chi wedi ei gyflawni.

    “Diolch i’r holl ysgolion a cholegau am eu gwaith caled yn cefnogi dysgwyr wrth i ni gymryd y cam nesaf ar ein taith yn ôl i drefniadau asesu cyn y pandemig.

    "Mae'r daith yn ôl yn bwysig wrth ystyried tegwch hirdymor i ddysgwyr."

    Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru
    Image caption: Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru

    Os yw rhai dysgwyr ddim yn cyflawni’r graddau roedden nhw wedi gobeithio amdanyn nhw, ei gyngor ef yw "peidio â phoeni os nad wyt ti wedi cael y graddau sydd eu hangen arnat ti ar gyfer y llwybr cynnydd rwyt ti wedi’i ddewis.

    "Mae llawer o opsiynau ar gael a llwybrau gwahanol y mae modd i ti eu hystyried, a bydd cefnogaeth ar gael os byddi di angen arweiniad.”

  10. Gwenu ym Maes y Gwendraeth!

    Roedd digon o gyffro yn Sir Gaerfyrddin wrth i ddisgyblion Ysgol Maes y Gwendraeth gael eu canlyniadau 👏👇

    View more on twitter
  11. Methu a chysgu ond wedi cael 13A*!

    “Doeddwn i methu a chysgu neithiwr yn poeni am y canlyniadau,” dywedodd Gwawr (dde) o Ysgol Gyfun Llangefni.

    Ond doedd dim angen poeni, fe gafodd 13 A*!

    Roedd canlyniadau Greta hefyd yn ardderchog - rhes o’r graddau uchaf.

    Greta a Gwawr
  12. 'Bach yw llythyren o'i gymharu â'th fawredd di'

    Geiriau pwysig gan Sioned Erin wrth i filoedd gael canlyniadau TGAU ☺👇

    View more on twitter
  13. 'Dymuniade fi wedi dod yn wir'

    BBC Radio Cymru

    Wrth siarad ar Dros Frecwast Radio Cymru y bore 'ma, dywedodd Arwen Jones o Gaerdydd ei bod eisoes wedi cymryd ei chamau cyntaf i'r byd gwaith.

    Penderfynodd fynd ar brentisiaeth gyda chwmni marchnata a chysylltiadau, er iddi sicrhau lle yn y brifysgol ar ôl derbyn ei chanlyniadau Safon Uwch.

    Fe ddechreuodd ymchwilio i'r posibilrwydd yn dilyn sesiwn ar ran Llywodraeth Cymru yn ei hysgol, a nawr ei bod ar ganol ei phrentisiaeth mae'n dweud bod "dymuniade fi wedi dod yn wir" o ymuno â'r byd gwaith go iawn.

    "O'n i'n gallu dysgu wrth i mi weithio ac yn gallu dysgu o bobol yn y gwaith sydd 'di bod yna am flynyddoedd.

    "O'dd popeth yn wych."

  14. Yn Sir Fôn, mae dathlu hefyd!

    Megan a Rhodri

    Mae Megan a Rhodri o Ysgol Gyfun Llangefni yn bwriadu mynd i’r chweched dosbarth.

    Mae'r ddau yn gobeithio mynd i’r byd meddygaeth yn y tymor hir.

  15. 'Mae heddiw am ddyfodol pobl ifanc'

    BBC Radio Cymru

    Video content

    Video caption: Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor sy'n cynnig cyngor ac arweiniad

    Wrth siarad ar Dros Frecwast Radio Cymru y bore 'ma, fe wnaeth pennaeth Coleg Menai a Meirion-Dwyfor, Aled Jones-Griffiths, atgoffa mai dyfodol pobl ifanc sy'n bwysig heddiw.

    Fe wnaeth atgoffa pobl fod cyngor ac arweiniad ar gael er mwyn eu cynorthwyo i wneud y cam nesaf yn eu gyrfa.

  16. Ymlaen i'r chweched

    Mae Charlotte, Rhys a Bethan o Ysgol Morgan Llwyd yn falch o'u canlyniadau ac am barhau yn y chweched dosbarth ym mis Medi.

    Charlotte, Rhys a Bethan
    Image caption: Charlotte, Rhys a Bethan
  17. 'Mae'n ysbrydoledig gweld beth mae ein dysgwyr wedi'i gyflawni'

    Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi llongyfarch pobl ifanc ledled Cymru wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau.

    Meddai Mr Miles, "Llongyfarchiadau i bawb sy’n cael eu canlyniadau heddiw. Dylech i gyd fod yn falch o gyrraedd y garreg filltir bwysig hon yn eich addysg.

    Jeremy Miles

    "Rwy'n croesawu'r canlyniadau hyn wrth i'n taith yn ôl at drefniadau cyn y pandemig barhau.

    "Mae'n ysbrydoledig gweld beth mae ein dysgwyr wedi'i gyflawni. Bu'n rhaid i'r dysgwyr yma wynebu heriau anferth a wnaeth effeithio ar eu cyfleoedd dysgu dros y blynyddoedd diwethaf wrth iddynt symud drwy eu haddysg uwchradd ac ymlaen i'w TGAU."

    Ond roedd ganddo gyngor hefyd: "Peidiwch â bod yn rhy siomedig nac yn rhy feirniadol ohonoch chi’ch hun os nad aeth pethau fel yr oeddech yn ei ddisgwyl heddiw.

    "Mae Cymru'n Gweithio yn fan gwych i weld y dewisiadau sydd ar gael i chi i gynllunio'ch camau nesaf, neu gallwch gael cyngor a chefnogaeth gan eich ysgol."