Crynodeb

  • Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb cwestiynau ASau, am y tro cyntaf ers toriad yr haf.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 12 Medi 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Adeiladau Cymruwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 12 Medi 2023

    Hyd yn hyn "dim ond achosion ynysig" sydd wedi bod o RAAC (concrit awyrog awtoclaf cyfnerth) yn adeiladau Cymru, meddai'r prif weinidog.

    Mae'n dweud y dylai llywodraeth y DU dalu am filiau atgyweirio oherwydd bod "rhwymedigaethau sy'n cael eu hysgwyddo oherwydd penderfyniadau a wnaed cyn datganoli yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i lywodraeth y DU".

    Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol David HughesFfynhonnell y llun, Google
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol David Hughes eu cau dros dro oherwydd pryderon RAAC

  3. Parc Antur Eryriwedi ei gyhoeddi 14:21 Amser Safonol Greenwich+1 12 Medi 2023

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

    Mae'r Ceidwadwr Janet Finch-Saunders yn gofyn "pa drafodaethau y mae'r prif weinidog wedi'u cael ynglŷn â chau Parc Antur Eryri?"

    Caeodd morlyn syrffio mewndirol cyntaf y byd yn gynharach y mis hwn. Agorodd yn 2015 gyda £4m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

    Mae'r prif weinidog yn ateb nad yw wedi cael unrhyw drafodaethau ffurfiol ond bydd ei swyddogion "yn gweithio gydag eraill i sicrhau dyfodol amgen i'r safle eithriadol hwn".

    Dywed Janet Finch-Saunders "fel rhan o'ch cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru, mae yna deimlad gwirioneddol yn y diwydiant o agenda gwrth-dwristiaeth erbyn hyn. Mae adroddiadau diweddar yn dangos bod yna 30 y cant yn llai o ymwelwyr i Gymru, ac mae yna fygythiad gwirioneddol y bydd mwy o fusnesau yn dilyn oni bai eich bod chi a Phlaid Cymru yn deffro i'r ffaith y gallai'r dreth dwristiaeth fod yn hoelen olaf yn arch ein diwydiant gwerthfawr."

    Yn ôl y prif weinidog, "mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr â Chymru: cynnydd o 13 y cant rhwng Ebrill a Rhagfyr 2021 ac Ebrill a Rhagfyr 2022, a chynnydd o 35 y cant yn y gwariant ar gyfer twristiaid sy'n dod i Gymru".

    Cyhoeddodd Parc Antur Eryri ei fod yn cau ar unwaithFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Cyhoeddodd Parc Antur Eryri ei fod yn cau ar unwaith

  4. Ffos y Frânwedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich+1 12 Medi 2023

    Mae Delyth Jewell o Blaid Cymru yn mynegi pryder bod mwyngloddio glo yn parhau yn Ffos y Frân ac am ddiffyg arian i wneud gwaith adfer.

    Dywed Mr Drakeford "y cyflwynwyd hysbysiad gorfodi cynllunio i weithredwr y safle gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae'r cwmni wedi cyflwyno apêl yn erbyn yr hysbysiad i Weinidogion Cymru. Yn ogystal, mae gan Coal Action Network achos cyfreithiol parhaus, a thrafodaeth gyda'r llysoedd yn cael eu cynnal ar hyn o bryd."

    Ychwanegodd bod perygl y bydd y safle'n cael ei adael mewn cyflwr peryglus gan y cwmni.

    Bydd gwaith glo brig mwyaf y DU yn cau ar 30 Tachwedd eleni, yn ôl ei weithredwr Merthyr (South Wales) Ltd.

    Daw ar ôl i’w ganiatâd cynllunio ddod i ben ym mis Medi 2022 a chafodd ei apêl am fwy o amser ei gwrthod gan y cyngor lleol.

    Bydd holl weithwyr y safle, tua 180 ohonynt, yn cael eu diswyddo.

    Dechreuwyd cloddio am lo yng ngwaith Ffos-y-Frân ym Merthyr Tudful yn 2007Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Dechreuwyd cloddio am lo yng ngwaith Ffos-y-Frân ym Merthyr Tudful yn 2007

  5. Colli 100 o swyddi mewn ffatriwedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich+1 12 Medi 2023

    Mae colli 100 o swyddi mewn ffatri wedi cael ei feio ar lywodraeth y DU gan y prif weinidog Mark Drakeford.

    Meddai, "ar ôl cyhoeddi cyfarwyddyd dadfuddsoddi, mae llywodraeth y DU wedi cerdded i ffwrdd. Nawr, gadewch inni dybio am eiliad bod ganddyn nhw reswm da dros y penderfyniad hwnnw; yr hyn na allant fod wedi meddwl ei fod yn rhesymol yw gosod yr holl swyddi hynny mewn perygl ac yna i weithredu fel pe bai eu penderfyniad wedi cael dim byd i'w wneud â'r hyn sydd wedi digwydd ers hynny.

    "A dyna sut y maent wedi gweithredu. Yn syml, maent wedi gadael y llanast ar eu hôl, ac mae hynny bellach yn cael ei deimlo yn y 100 o swyddi a fydd yn cael eu colli ar y safle."

    Cafodd Nexperia, sy'n eiddo i Tsieina, orchymyn gan weinidogion y DU i werthu ei gyfran o 86% yn y safle yng Nghasnewydd oherwydd pryderon diogelwch cenedlaethol.

    Mae lled-ddargludyddion a wneir yn Wafer Fab Casnewydd yn cael eu defnyddio mewn miliynau o gynhyrchion electronig, o ffonau clyfar i offer cartref a cheir.

    Mae llywodraeth y DU wedi dweud eu bod wedi ymrwymo i ddod o hyd i berchennog safle newydd.

    Nexperia
  6. Beth fyddai llywodraeth Lafur yn y DU yn ei wneud i Gymru?wedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 12 Medi 2023

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn dweud bod ganddi £900m yn llai nag yr oedd yn disgwyl i dalu am wasanaethau cyhoeddus.

    Mae'n gofyn beth fyddai llywodraeth Lafur y DU yn ei wneud i fynd i'r afael â'r sefyllfa. “Rwy’n meddwl y bydd pobl Cymru yn chwilio am sicrwydd y byddai llywodraeth Lafur yn adfer cyllid… a all y prif weinidog yn awr addo, ar HS2 ac ar gyflogau’r sector cyhoeddus, y bydd Keir Starmer nawr yn cyflawni ei ddymuniadau fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru?"

    Mae Mr Drakeford yn ateb "mae arweinydd Plaid Cymru yn gwybod yn iawn nad yw'r rheini'n addewidion i mi eu gwneud".

    Ond mae'n dweud y byddai llywodraeth Lafur y DU yn ceisio cryfhau'r Senedd ac yn dod â "rhagolygon gwahanol iawn ar gyfer y dyfodol" i bobl Cymru.

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhun ap Iorwerth

  7. O 30mya i 20mya yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 12 Medi 2023

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn parhau i fynegi pryder am y gyfraith newydd a ddaw i rym ddydd Sul y bydd cyfyngiadau cyflymder mewn ardaloedd adeiledig yn cael eu gostwng o 30mya i 20mya yng Nghymru.

    Mae'n cyfeirio at "bryderon a fynegwyd gan y rhai yn y gwasanaethau brys" ac yn dweud "y gallai hyn gael sgil-effaith o £8.9 biliwn ar weithgaredd economaidd."

    "Pam ydych chi'n parhau i ddilyn y polisi pan mae'n amlwg nad yw'n cael ei dderbyn gan fwyafrif mawr pobl Cymru?" mae'n gofyn.

    Mae’r prif weinidog yn ateb “byddwn yn parhau gyda’r polisi, oherwydd pleidleisiwyd dros y polisi gan bobl yng Nghymru mewn etholiad, a gallaf ddweud wrthych fod unrhyw newid – unrhyw newid – yn y maes hwn yn aml yn cael ei wrthwynebu gan bobl cyn i’r newid ddod.

    "Dwi'n ddigon hen i gofio cyflwyno'r anadlydd, pan oedd pobl yn teimlo ei fod yn berffaith iawn iddyn nhw dreulio y diwrnod yn y dafarn ac yna gyrru adref yn y car pan oedden nhw'n hollol anffit i wneud hynny."

    Dywed y prif weinidog y bydd tua 10 o fywydau'r flwyddyn yn cael eu hachub, yn ogystal ag arbed adnoddau'r GIG.

    Bydd y rhan fwyaf o ffyrdd Cymru sydd ar hyn o bryd yn 30mya yn troi’n 20mya, er bod cynghorau wedi gallu gosod eithriadau ac wedi gwneud hynny.

    20 myaFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Sefyllfa ariannol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladrwedi ei gyhoeddi 13:38 Amser Safonol Greenwich+1 12 Medi 2023

    Mae Llyr Gruffydd o Blaid Cymru yn gofyn am ddatganiad am sefyllfa ariannol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb, "ar ôl dros ddegawd o gyni, mae effaith chwyddiant rhemp wedi lleihau gwerth y gyllideb sydd ar gael i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fel pob corff cyhoeddus arall yng Nghymru. Yn y flwyddyn ariannol hon, mae'r bwrdd yn darogan bwlch o £134 miliwn rhwng yr adnoddau sydd ar gael a'r gwariant a ragwelir."

    Yr wythnos diwethaf, dywedodd Archwilio Cymru: "Er i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr adrodd ei fod wedi cyflawni ei ddyletswydd i fantoli ei gyfrifon dros gyfnod o dair blynedd, ceir ansicrwydd o hyd ynghylch yr alldro a adroddwyd yn deillio o effaith gweddilliol yr amodau a’r gwallau nas cywirwyd yng nghyfrifon 2021-22. Yn sgil hyn, ni fu modd i’r Archwilydd Cyffredinol ddod i’r casgliad, ym mhob agwedd perthnasol, bod gwariant yn 2022-23 wedi ei ddatgan yn deg a rhoddodd amod ar ei farn ‘gwir a theg’ ar gyfer y Bwrdd Iechyd yn 2022-23. Rhoddodd amod hefyd ar ei farn ‘rheoleidd-dra’ oherwydd i'r Bwrdd Iechyd ysgwyddo gwariant afreolaidd a thorri ei gyfarwyddyd ariannol sefydlog wrth wneud taliadau i gyn aelod gweithredol interim o’r Bwrdd."

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  9. Isafbris uned am alcoholwedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich+1 12 Medi 2023

    Mae'r Ceidwadwr Russell George yn cwestiynu manteision isafbris uned am alcohol.

    Ymatebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod Ymddiriedolaeth Afu Prydain wedi dod i’r casgliad mai isafbris uned oedd un o’r ffyrdd gorau o atal niwed a achosir gan alcohol.

    Mae Mr George yn tynnu sylw at ddata sy'n awgrymu bod "pobl yn yfed yn amlach, a dwywaith cymaint o bobl yn goryfed mewn pyliau" o gymharu â chyn cyflwyno isafbris.

    Daeth y gyfraith sy’n cyflwyno isafswm pris alcohol yng Nghymru i rym ym mis Mawrth 2020, gan orfodi manwerthwyr i ddefnyddio fformiwla ar gyfer cyfrifo isafswm pris.

    alcoholFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Croesowedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 12 Medi 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn - y cyntaf yn y tymor Seneddol newydd - ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.