Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 3 Hydref 2023
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.
Da boch chi.
Mark Drakeford yn ateb cwestiynau ASau, gan gynnwys ar HS2 a ffigurau absenoldeb o’r ysgol.
Alun Jones
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.
Da boch chi.
Mae'r Ceidwadwr Janet Finch-Saunders yn gofyn a oes gan y prif weinidog gynlluniau i gyflwyno taliadau defnyddwyr ffyrdd ar fodurwyr, rhywbeth y mae hi'n ei wrthwynebu'n gryf.
Mae'r prif weinidog yn ateb mai "Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU sy’n dal pwerau i godi tâl ar ffyrdd cyffredinol ac i gadw refeniw. Gall gweinidogion Cymru roi pwerau i awdurdodau lleol roi cynlluniau lleol ar waith. Nid oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno taliadau ar gyfer modurwyr ar gefnffyrdd a reolir gan Lywodraeth Cymru"
O ran dyfodol cyllid rheilffyrdd yng Nghymru, mae Delyth Jewell o Blaid Cymru yn dweud bod Cymru wedi ei gadael yn “gywilyddus o fyr o arian” gan lywodraeth y DU.
Mae'r prif weinidog yn cytuno, gan ychwanegu "gyda'r arian a ddylai fod wedi dod i Gymru, gallem fod wedi gwneud hyd yn oed mwy i weld trydaneiddio gwasanaethau rheilffordd yma yng Nghymru... mae 35 y cant o'r rheilffyrdd wedi cael eu trydaneiddio ar draws y Deyrnas Unedig, mae'n debycach i 45 y cant yn Lloegr, a 2 y cant yng Nghymru".
Mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn canolbwyntio ar yr hyn y mae'n ei alw'n "anghyfiawnder economaidd" HS2 sy'n amlwg yn brosiect i Loegr yn unig meddai.
Gan fod llywodraeth y DU yn ystyried HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr mae'n golygu nad oes arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru.
Mae’r prif weinidog yn ateb, “os nad oes cysylltiad y tu hwnt i Birmingham, yna mae’r achos simsan dros ystyried hyn fel datblygiad Cymru a Lloegr yn dymchwel yn llwyr, a bryd hynny, bydd yr achos dros wneud yn siŵr bod arian canlyniadol i Gymru yn gryfach fyth. Mae Cymru eisoes wedi colli allan ar £270 miliwn o ganlyniad i gamddosbarthu HS2 yn y cyfnod adolygu gwariant presennol. Ni fydd hynny ond yn tyfu oni bai, a hyd nes, y caiff y camddosbarthiad hwn ei unioni."
Mae Rhun ap Iorwerth wedyn yn troi at "anghyfiawnder arall, y diffyg rheolaeth sydd gennym ni dros ddŵr".
Meddai, "mae diffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru yn ein dal ni nôl yn fan hyn, a'r cais ddim wedi cael ei wneud i gael y pwerau yma, ac yn y cyfamser, a’r oedi ddim yn helpu, y cwsmer sydd allan o boced: cymaint â £120 yn fwy ar filiau erbyn 2030".
Mae'r prif weinidog yn ateb bod Llywodraeth Cymru "wedi dweud rydyn ni yn mynd ar ôl y pwerau sydd yna yn Neddf 2017. Mae swyddogion yn gwneud y gwaith nawr. Mae'n waith manwl, achos mae'n eithaf cymhleth i dynnu'r pwerau yna lawr i Gymru, ond mae'r broses wedi dechrau".
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn mynegi pryderon am ddisgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru yn gyson absennol o'r ysgol.
"Mae diwrnod a gollwyd o'r ysgol yn ddiwrnod a gollwyd o gyfle," meddai.
Mae data Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod 16.3% o ddisgyblion 11-15 oed wedi disgyn i’r categori hwn yn 2022-23, deirgwaith yn uwch na’r lefelau cyn-bandemig.
Ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, roedd y ffigur hwn fwy na dwywaith yn uwch, sef 35.7%.
Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai "tasglu" yn edrych yn fanwl ar y rhesymau dros ddiffyg presenoldeb.
Mae'r prif weinidog yn cytuno ag arweinydd yr wrthblaid y dylai dirwyo rhieni fod yn "ddewis olaf".
Mae Natasha Asghar o'r Ceidwadwyr yn galw am gronfa teithio i gleifion canser ifanc, "i gefnogi plant â chanser, a'u teuluoedd, sy'n mynd trwy'r annychmygol".
Mae'r prif weinidog yn ateb bod "gan Lywodraeth Cymru eisoes, drwy'r GIG, gynllun ad-dalu costau teithio. Mae'n rhaid i chi fodloni'r meini prawf cymhwyso ar ei gyfer, ond mae'r cynllun yn bodoli".
Ond mae'n ymrwymo i "barhau i archwilio rhai o'r materion y mae'r ymgyrchwyr yn eu codi, ac y mae'r aelod wedi tynnu sylw atynt y prynhawn yma."
Mae tua 113 o ddiagnosau newydd o ganser bob blwyddyn ymhlith pobl o dan 25 oed yng Nghymru.
Mae’r Ceidwadwr Darren Millar yn codi mater diogelwch ar ffyrdd gwledig.
Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau ymgynghoriad ar strategaeth ffyrdd newydd i Gymru ym mis Tachwedd.
"Bydd canllawiau wedi'u diweddaru ar osod terfynau cyflymder lleol, gan gynnwys ffactorau sy'n arbennig o berthnasol ar ffyrdd gwledig, yn dilyn yn 2024" meddai.
Dywed Mr Millar, "yn y rhannau gwledig o Sir Ddinbych yr wyf yn eu cynrychioli, mae tair ardal ar gefnffordd yr A494 sydd angen sylw brys".
Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.
Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.