Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau ASau yn y Senedd, ar iechyd a HS2 ymhlith pynciau eraill.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:38 Amser Safonol Greenwich+1 10 Hydref 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Oherwydd argyfwng Israel-Gaza, bydd y goleuadau yn y Senedd yn cael eu pylu bob nos tan ddiwedd yr wythnos, fel yr oedden nhw neithiwr.

    Dywedodd y Llywydd Elin Jones ei fod er mwyn “adlewyrchu’r teimlad bod ymosodiadau o’r fath yn cynrychioli cyfnod tywyll arall i ddynoliaeth yn y Dwyrain Canol.

    "Mae’n destun tristwch mawr i sefydliad democrataidd fel ein un ni.

    "Yn ogystal ag adlewyrchu’r tristwch, bydd y tywyllwch hefyd yn ddatganiad o undod â phawb sy’n dioddef o ganlyniad i’r ymosodiadau.”

    Goleuadau'r Senedd wedi eu pylu
    Disgrifiad o’r llun,

    Goleuadau'r Senedd wedi eu pylu

  2. Iechyd meddwlwedi ei gyhoeddi 14:31 Amser Safonol Greenwich+1 10 Hydref 2023

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

    Ar ddiwrnod iechyd meddwl y byd, mae'r Ceidwadwr Janet Finch-Saunders yn dweud bod "diffyg mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn aml yn arwain y rhai sy'n dioddef i droi at gyffuriau, alcohol, neu'r ddau, i leddfu eu symptomau".

    Mae hi’n codi pryderon am fynediad at welyau dadwenwyno ac adsefydlu, fel yn Hafan Wen yn Wrecsam.

    Mae’r prif weinidog yn cytuno â hi bod yr alwad am wasanaethau iechyd meddwl wedi codi yn y cyfnod ers y pandemig.

    Ychwanegodd, "o ran Hafan Wen, a gwelyau dadwenwyno, y peth pwysig yw bod y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud gan glinigwyr ac ymarferwyr yn y maes hwnnw.

    "Weithiau, byddant yn cyfeirio pobl o etholaeth yr aelod a gogledd Cymru at wasanaethau arbenigol ar ochr arall y ffin.

    "Weithiau i bobl sy’n byw yn Lloegr, Hafan Wen fydd y gwasanaeth gorau sydd ar gael iddynt.”

    Janet Finch-Saunders
    Disgrifiad o’r llun,

    Janet Finch-Saunders

  3. E-sigarétswedi ei gyhoeddi 14:16 Amser Safonol Greenwich+1 10 Hydref 2023

    Mae’r prif weinidog yn gofidio bod bil iechyd cyhoeddus a oedd yn cynnwys gwaharddiad ar ddefnyddio e-sigaréts mewn rhai mannau cyhoeddus wedi’i wrthod yn y Senedd yn 2016, pan oedd yn weinidog iechyd.

    Meddai, "rydym wedi colli tir yn y cyfamser. Mae yna blant sy'n gaeth i nicotin heddiw a fyddai wedi cael eu hachub rhag y caethiwed hwnnw pe bai'r Senedd hon wedi cymryd y camau a oedd ar gael iddi.

    "Ond allwn ni ddim unioni'r darn hwnnw o hanes; gallwn wneud gwahaniaeth yn y dyfodol. Mae'r cynigion a wnaed gan y prif weinidog [Rishi Sunak] yn rhai y byddwn yn eu cefnogi, a byddwn yn unioni ein hunain gyda'r ymgynghoriad yr ydym yn disgwyl i Lywodraeth y DU ddatblygu i wneud yn siŵr y gallwn nawr o’r diwedd gymryd y camau a fydd yn atal ein plant rhag dioddef yr ymgais fwriadol i’w caethiwo i nicotin.”

    e-sigarétsFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. HS2wedi ei gyhoeddi 14:04 Amser Safonol Greenwich+1 10 Hydref 2023

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhun ap Iorwerth

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn tynnu sylw at y ffaith nad yw Llafur wedi ymrwymo i arian ychwanegol i Gymru ar ôl i ail gymal rheilffordd cyflym HS2 gael ei ddileu.

    Roedd wedi'i ystyried gan lywodraeth y DU fel prosiect Cymru a Lloegr oherwydd bod gogledd Cymru yn cael ei wasanaethu gan arhosfan yng ngorsaf Crewe.

    Oherwydd rheolau datganoli, cafodd yr Alban a Gogledd Iwerddon arian o ganlyniad i HS2, ond nid Cymru - o dan fformiwla Barnett, amcangyfrifir ei fod yn werth £2bn o gymal cyntaf y prosiect.

    Mae Mr Drakeford yn ateb bod "Cymru yn haeddu ein cyfran ni o'r cyllid sydd wedi ei fuddsoddi yn HS2. Dylai hynny fod wedi bod yn wir o'r dechrau, pe na bai'r Trysorlys wedi penderfynu dehongli'r rheolau mewn ffordd nad oes neb arall yn gallu deall" .

    Ychwanegodd, “mae llywodraeth Lafur sy’n dod i mewn, fel yr esboniais droeon ar lawr y Senedd, yn mynd i etifeddu set economaidd o amgylchiadau sy’n golygu nad oes unrhyw blaid gyfrifol, yn y cyfnod cyn etholiad, yn mynd i fod yn cynnig llofnodi sieciau ar gyfer y llawer iawn o achosion a fydd ger bron y llywodraeth honno".

    Ond mae'n cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn ystyried camau cyfreithiol yn erbyn llywodraeth Geidwadol y DU dros HS2.

    Mae’n dweud bod llywodraeth Cymru yn ystyried pob opsiwn, “gan gynnwys yn gyfreithiol”, i herio penderfyniad llywodraeth y DU i beidio â rhoi cyfran o gyllid i Gymru ar gyfer HS2.

    Cyhoeddodd Rishi Sunak yr wythnos diwethaf na fyddai HS2 yn cael ei adeiladu y tu hwnt i Birmingham.

    Dywed Rhun ap Iorwerth “mae yna risg wirioneddol mai’r hyn rydyn ni’n ei weld yw y byddai llywodraeth Lafur newydd yn gwneud yn union yr un peth â’r Torïaid, wrth siarad gêm dda, ond nid yn gweithredu er lles gorau cyfiawnder economaidd i Gymru.

    "Bydd Plaid Cymru bob amser yn sefyll dros degwch i Gymru dros HS2."

    HS2Ffynhonnell y llun, HS2
  5. Glasbrint ar gyfer grym?wedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich+1 10 Hydref 2023

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn tynnu sylw at y ffaith bod arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, wedi gwrthod mewn cyfweliad gyda’r BBC i ailadrodd ei honiad blaenorol mai Llafur Cymru oedd ei “glasbrint” ar gyfer grym.

    Wrth siarad cyn cynhadledd y Blaid Lafur, fe gyfaddefodd Syr Keir na all "smalio” nad oes heriau yn ei berthynas â llywodraeth Lafur Cymru.

    Atebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, "Rwy'n falch iawn o'r ffaith bod arweinydd y Blaid Lafur yn edrych i Gymru am enghreifftiau o'r hyn y gall Llafur ei gyflawni mewn grym."

    Ar y gwasanaeth iechyd, mae Mr Davies yn dweud bod yng Nghymru "un o bob pedwar o bobl ar restr aros, neu 25 y cant o'r boblogaeth; yn Lloegr mae'n 14 y cant. Yn Lloegr, mae ychydig dros 250 o bobl yn aros am ddwy flynedd neumwy; yng Nghymru mae 28,000 o bobl yn aros".

    Dywed y prif weinidog "cyn belled ag y mae'r gwasanaeth iechyd yn y cwestiwn, rwy'n hapus, unrhyw ddiwrnod, i roi ein record ni o flaen pobl Cymru a gofyn iddyn nhw gyda phwy fyddan nhw'n ymddiried dyfodol y gwasanaeth iechyd."

    Mae Mr Davies yn tynnu sylw at bolisi dadleuol Llywodraeth Cymru sydd wedi newid y terfyn cyflymder preswyl rhagosodedig yng Nghymru o 30mya i 20mya sydd, meddai, "yn bolisi na fydd mewn gwirionedd yn lleihau nifer y damweiniau yma yng Nghymru ac a fydd yn niweidio cynhyrchiant economaidd".

    Atebodd y prif weinidog, "byddwn yn gweld budd ohono yn y ffordd bwysicaf; bydd bywydau'n cael eu hachub, bydd damweiniau a fyddai wedi digwydd fel arall yn cael eu hosgoi, ac mae'r pris y gofynnir i ni ei dalu yn un bach iawn - gyrru ychydig yn arafach yn y mannau hynny lle mae’r damweiniau hynny’n fwyaf tebygol o ddigwydd”.

    20myaFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Effaith busnesau cydweithredol ar economi Cymruwedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1 10 Hydref 2023

    Mae Luke Fletcher o Blaid Cymru yn gofyn pa asesiad y mae'r llywodraeth wedi'i wneud o effaith busnesau cydweithredol ar economi Cymru.

    Ymateb y Prif Weinidog Mark Drakeford yw bod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod 520 o fusnesau mewn perchnogaeth gydweithredol yng Nghymru.

    Dywed Mr Fletcher fod "ymchwil diweddar gan Co-operatives UK yn dangos bod gan gwmnïau cydweithredol Cymreig y trosiant blynyddol isaf yn y DU, gan gyfrif am ddim ond 0.6 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru".

    Mae'n galw am fwy o "waith rhagweithiol gan y llywodraeth, gyda'r cyllid i'w gefnogi."

    Dywed y prif weinidog "rydym yn debygol iawn, nawr, o gyrraedd y targed cychwynnol hwnnw o ddyblu nifer y busnesau ble ceir perchenogaeth ar y cyd. Ond, rwy'n cytuno ag ef, mae mwy y gellir ac y dylid ei wneud".

    Luke Fletcher
    Disgrifiad o’r llun,

    Luke Fletcher

  7. Croesowedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich+1 10 Hydref 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.