Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau, ar y GIG, trafnidiaeth a’r economi ymhlith pynciau eraill.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:27 Amser Safonol Greenwich+1 24 Hydref 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Ymunwch â ni eto ar ôl toriad hanner tymor yr hydref.

    Oherwydd argyfwng Israel-Gaza, mae'r goleuadau yn y Senedd yn parhau i gael eu pylu bob nos.

    Dywedodd y Llywydd Elin Jones ei fod er mwyn “adlewyrchu’r teimlad bod ymosodiadau o’r fath yn cynrychioli cyfnod tywyll arall i ddynoliaeth yn y Dwyrain Canol.

    "Mae’n destun tristwch mawr i sefydliad democrataidd fel ein un ni.

    "Yn ogystal ag adlewyrchu’r tristwch, bydd y tywyllwch hefyd yn ddatganiad o undod â phawb sy’n dioddef o ganlyniad i’r ymosodiadau.”

    Senedd
  2. Cynefin Cymru yn 'draed moch'wedi ei gyhoeddi 14:15 Amser Safonol Greenwich+1 24 Hydref 2023

    Dywed y Ceidwadwr Samuel Kurtz fod Cynefin Cymru - cynllun amaeth-amgylcheddol dros dro a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru "i gynnal a chynyddu'r arwynebedd o dir cynefin sydd o dan fesurau rheoli ledled Cymru" - wedi bod yn "draed moch".

    Mae'n dweud bod "tir cynefin wedi'i farcio gan ddefnyddio data sy'n 30 mlwydd oed" ac "o ganlyniad i'r gwallau mapio mawr hyn, mae'r cynllun yn mynd yn hynod gymhleth a dirdynnol i ffermwyr".

    Atebodd y prif weinidog, "nid wyf yn cytuno â'r aelod ei fod yn gynllun sy'n methu. Mae wedi cael dros 500 o geisiadau".

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  3. 'Anghyfartaledd rhwng ariannu bysiau a threnau'wedi ei gyhoeddi 14:09 Amser Safonol Greenwich+1 24 Hydref 2023

    Mae Sioned Williams o Blaid Cymru yn dweud bod "anghyfartaledd yn y lefelau ariannu rhwng bysiau a threnau".

    Meddai: “Rwy’n croesawu buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, ond mae’n siomedig gweld na chafodd unrhyw fuddsoddiad ychwanegol i ddiogelu llwybrau bysiau ei gynnwys yn natganiad diweddar y gweinidog cyllid, er bod tri chwarter y teithiau trafnidiaeth gyhoeddus yn digwydd ar fws yn hytrach na thrên.”

    Atebodd y prif weinidog, "mae arian ychwanegol ar gyfer bysiau, ac mae arian ychwanegol ar gyfer trenau, ac mewn gwirionedd nid wyf yn meddwl ei fod yn synhwyrol i osod y naill yn erbyn y llall".

    Yr wythnos diwethaf dyfarnwyd £125m yn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru.

    Dywed y prif weinidog fod £46 miliwn eisoes wedi'i gyhoeddi'n gynharach eleni ar gyfer gwasanaethau bysiau.

    Sioned Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Sioned Williams

  4. Gwariant y GIGwedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich+1 24 Hydref 2023

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhun ap Iorwerth

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn gofyn pa dargedau arbedion sy’n cael eu gosod ar gyfer byrddau iechyd Cymru, ac yn beirniadu y gwariant ar staff asiantaeth.

    Meddai, "mae'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi methu'n llwyr i fynd i'r afael ag ef yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gyda bron i 7,000 o swyddi gwag yn y GIG yng Nghymru, fe wnaeth bil asiantaeth y llynedd gyrraedd record o £325 miliwn.

    "Dylai adeiladu gweithlu cynaliadwy, a gyflogir yn uniongyrchol, fod yn flaenoriaeth.”

    Atebodd Mr Drakeford bod trafodaethau gyda'r byrddau iechyd yn parhau.

    Ychwanegodd, “ynghylch staffio asiantaeth, roedd hyn yn rhan o’r trafodaethau a gynhaliwyd yn ofalus iawn yn gynharach eleni gyda’n cydweithwyr nyrsio yn yr undebau llafur yn arbennig, ac mae cynlluniau penodol ar waith i wneud yn siŵr y gallwn leihau dibyniaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar staff asiantaeth.

    "Gyda llaw, mae staffio asiantaeth yn rhan bwysig iawn o’r ffordd y mae’r gwasanaeth iechyd yn darparu gwasanaethau. Nid wyf am syrthio i iaith sy’n sôn am staff asiantaeth fel petaent yn rheidrwydd anffodus."

    Mae'n bosib y bydd y GIG yng Nghymru wedi gorwario o fwy na £800m erbyn gwanwyn 2024, yn ôl dadansoddiad BBC Cymru.

    Mae chwyddiant wedi arwain at gostau cynyddol tanwydd, staff a chyffuriau, tra bod y galw am driniaeth wedi codi oherwydd Covid.

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan fis diwethaf ei bod am i fyrddau iechyd ddod o hyd i doriadau sy'n achosi "y difrod lleiaf i gleifion".

    Ond rhybuddiodd hi y byddai angen gwneud "dewisiadau anodd" i fynd i'r afael â'r gorwariant "enfawr".

    GIG
  5. Gwasanaeth Ambiwlans Cymruwedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich+1 24 Hydref 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at y ffaith bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi datgan "digwyddiad anghyffredin" oherwydd oedi dros y penwythnos.

    Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod 16 ambiwlans yn aros y tu allan i'r adran achosion brys yn Ysbyty Treforys, Abertawe, ar un adeg.

    Meddai Mr Davies, "rydym ar ddechrau tymor y gaeaf. Pa hyder allwch chi ei roi inni am fesurau gan Lywodraeth Cymru, ar y cyd â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i amseroedd ymateb ambiwlansys yma yng Nghymru, ac yn y pen draw yn cael y llif drwy'r system ysbytai, fel nad yw'r sefyllfa honno a welsom ledled Cymru yn digwydd wythnos ar ôl wythnos drwy fisoedd y gaeaf?"

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb bod Llywodraeth Cymru yn trafod gyda bwrdd iechyd Abertawe pa wersi y gellir eu dysgu.

    “Bydd y gweinidog yn ymweld â Threforys yr wythnos hon, unwaith eto, i drafod yn uniongyrchol gyda’r bwrdd sut mae’n mynd i’r afael â’r heriau y mae’n eu hwynebu”, meddai.

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  6. Galw am fwy o amddiffyniad rhag aflonyddwch i forloiwedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich+1 24 Hydref 2023

    Ar ôl ymweld â bae Ceibwr yn ei etholaeth yn sir Benfro yn ddiweddar, mae’r Ceidwadwr Paul Davies yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno deddfwriaeth i roi mwy o amddiffyniad rhag aflonyddwch i forloi, yn enwedig yn ystod y tymor geni lloi (mis Hydref i ddechrau Tachwedd).

    Mae'r prif weinidog yn ateb "does dim dwywaith fod gweld morloi o amgylch arfordir Sir Benfro yn un o ogoniannau mawr y rhan honno o Gymru, ac yn denu llawer, llawer o ymwelwyr, sy'n mynd yno am y rheswm hwnnw.

    "Mae gwneud yn siŵr bod morloi ddim yn cael eu haflonyddu yn ystod y tymor geni yn amcan sy'n cael ei rannu gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n hapus iawn i roi ymrwymiad y byddwn yn mynd ar drywydd y pwyntiau y mae'r aelod wedi'u codi."

    MorloFfynhonnell y llun, HANNE SIEBERS/YMDDIRIEDOLAETH GENEDLAETHOL
  7. Gwasanaeth trên rhwng gogledd a de Cymruwedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich+1 24 Hydref 2023

    Mae Llyr Gruffydd o Blaid Cymru yn codi mater capasiti’r gwasanaeth trên rhwng gogledd a de Cymru, yn arbennig "yr anrhefn llwyr oedd ar y trenau wrth i gefnogwyr pêl-droed o ogledd Cymru geisio teithio lawr i wylio Cymru yn chwarae Croatia yn ddiweddar."

    Meddai Mr Gruffydd, "mi oedd hi'n shambles llwyr, ac mi roedd yna drên arbennig, gyda llaw, i gefnogwyr o'r de oedd eisiau mynd i Wrecsam i weld Cymru yn chwarae Gibraltar, ond dim trên ychwanegol cyfatebol i gefnogwyr o'r gogledd oedd eisiau dod lawr i weld y tîm cenedlaethol yn chwarae yng Nghaerdydd.

    "Roedd rhai o'r trenau mor llawn, mi roedd yna bobl ar y platfform yn y Fenni, ac yn y gorsafoedd ar ôl hynny, yn llythrennol yn methu cael ar y trenau. Mi roedd pobl oedd ar y trenau yn llythrennol yn methu cyrraedd y tai bach."

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd yn sicrhau bod mater penodol trafnidiaeth i gemau chwaraeon yn cael ei godi gyda Trafnidiaeth Cymru.

    Yn fwy cyffredinol dywed bod Trafnidiaeth Cymru "yn mynd i gyflwyno mwy o wasanaethau tri-cherbyd ar y llwybr hwn. Bydd y trenau hyn yn cymryd lle’r hen gerbydau a gafodd eu defnyddio am y tro olaf yr wythnos ddiwethaf."

    Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
  8. Croesowedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich+1 24 Hydref 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.