a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Oherwydd argyfwng Israel-Gaza, mae'r goleuadau yn y Senedd yn parhau i gael eu pylu bob nos.

    Dywedodd y Llywydd Elin Jones ei fod er mwyn “adlewyrchu’r teimlad bod ymosodiadau o’r fath yn cynrychioli cyfnod tywyll arall i ddynoliaeth yn y Dwyrain Canol.

    "Mae’n destun tristwch mawr i sefydliad democrataidd fel ein un ni.

    "Yn ogystal ag adlewyrchu’r tristwch, bydd y tywyllwch hefyd yn ddatganiad o undod â phawb sy’n dioddef o ganlyniad i’r ymosodiadau.”

    Goleuadau yn y Senedd wedi eu pylu
  2. 'Casineb at fenywod'

    Dywed y prif weinidog fod “awyrgylch ceg budr, misogynistaidd, paranoiaidd a oedd yn treiddio trwy 10 Stryd Downing [wedi’i] amddiffyn wythnos ar ôl wythnos yma ar lawr y Senedd yn ystod argyfwng Covid”.

    Wrth gyfeirio at arweinydd y grŵp Ceidwadol Andrew RT Davies, mae'r prif weinidog yn dweud ei fod ef "yn dal i amddiffyn y math o drygioni ceg budr - wel, mae'n rhannu'r casineb at fenywod, rydyn ni'n gwybod".

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn ymyrryd, "na, na. Rwy'n siŵr y bydd y prif weinidog am fyfyrio ar y cyhuddiad uniongyrchol a wnaeth i arweinydd yr wrthblaid. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw beth misogynistaidd yng nghyfraniad Andrew RT Davies heddiw".

    Mae'r prif weinidog yn ateb, "Byddaf yn cytuno â hynny, Lywydd. Ni chlywais i ddim byd misogynistaidd heddiw".

    Ychwanegodd y Llywydd yn ddiweddarach, "Mae sylwadau misogynistaidd yn cael eu gwneud gan aelodau yn y siambr hon. Rwyf wedi bod yn destun un ohonyn nhw fy hun ddim yn rhy bell yn ôl."

    Llywydd Elin Jones
    Image caption: Llywydd Elin Jones
  3. A fydd llywodraeth y DU yn 'parchu' confensiwn Sewel?

    Ynglŷn ag effaith araith ddiweddar y Brenin ar Gymru, mae'r prif weinidog yn mynegi pryderon ynghylch a fydd llywodraeth y DU "yn parchu confensiwn Sewel".

    Beth yw Confensiwn Sewel?

    Ym mis Gorffennaf 1998, cyhoeddodd llywodraeth y DU y byddai confensiwn yn cael ei sefydlu fel na fyddai San Steffan fel arfer yn deddfu ar faterion datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon heb ganiatâd Senedd yr Alban, Cynulliad Cymru fel y’i gelwid bryd hynny (nawr y Senedd) neu Gynulliad Gogledd Iwerddon.

    Mark Drakeford
    Image caption: Mark Drakeford
  4. Canser y geg

    Mae Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella mynediad i ofal deintyddol i'r henoed yng Nghymru er mwyn helpu i frwydro yn erbyn lefelau cynyddol o ganser y geg.

    Yn ôl arolwg gan Age Cymru, adroddodd 80% o gleifion oedrannus brofiadau negyddol o gael mynediad at ofal deintyddol, cynnydd o 10% ers y flwyddyn flaenorol.

    Dywed y prif weinidog, "Yn anffodus, er ei fod yn glefyd y gellir ei atal i raddau helaeth, mae cyfraddau canser y geg wedi bod yn codi yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae cysylltiad cryf rhwng canser y geg ac ysmygu ac yfed llawer o alcohol."

    Mae'n ychwanegu bod prif swyddog deintyddol Cymru wedi dweud wrtho "nad oedd yn meddwl mai deintyddion oedd y gwasanaeth rheng flaen gorau o reidrwydd, o ran canser y geg. Mae canser y geg yn cynnwys tri math gwahanol o ganser—canser gwefus, canser y geg a chanser y gwddf - a dim ond y canol o'r tri hynny y mae deintyddion wedi'u hyfforddi i'w hadnabod neu adrodd arnynt."

    Jane Dodds
    Image caption: Jane Dodds
  5. Gwasanaethau gofal cartref

    Mae Heledd Fychan o Blaid Cymru a'r Ceidwadwr Joel James yn mynegi pryderon am benderfyniad Cyngor Rhondda Cynon Taf i breifateiddio'r gwasanaethau gofal cartref sy'n weddill o dan ei reolaeth.

    Meddai'r prif weinidog, "mater i bob awdurdod lleol yw penderfynu’r ffordd orau o ddarparu neu drefnu gwasanaethau gofal i’w ddinasyddion, o fewn ei ddyletswyddau statudol. Nid oes angen i unrhyw awdurdod lleol gael caniatâd o Lywodraeth Cymru er mwyn gweithredu'r cyfrifoldebau sydd yn dod o dan ei fandad democrataidd."

    Ychwanegodd, "bydd y 10 y cant o ofal hirdymor a ddarperir gan yr awdurdod lleol yn ymuno â'r 90 y cant o'r gofal hwnnw a ddarperir eisoes gan y sector annibynnol. Ni fydd unrhyw swyddi'n cael eu colli, ni fydd unrhyw newid yn lefel y gwasanaeth neu ofal a ddarperir i breswylwyr."

    Roedd undebau llafur yn gwrthwynebu'r newidiadau i ofal cartref
    Image caption: Roedd undebau llafur yn gwrthwynebu'r newidiadau i ofal cartref
  6. Addewid ariannu teg i Gymru?

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn beirniadu "penderfyniad ymddangosiadol" arweinydd Llafur y DU, Syr Keir Starmer "i beidio â gwneud addewid ariannu teg i Gymru".

    Mae Mr Drakeford yn ateb bod gan arweinydd Plaid Cymru "obsesiwn gyda chael ei siomi gan lywodraeth Lafur sydd heb ei hethol eto".

    Mae Rhun ap Iorwerth hefyd yn dweud mai "un ffordd o sicrhau nad yw teuluoedd yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta yn ystod y gaeaf hwn fyddai cyflwyno tariff cymdeithasol newydd ar ynni. Mae rhywfaint o gefnogaeth i'r rhai sydd ar fudd-daliadau prawf modd, ond mae 6.3 miliwn o gartrefi yn y DU mewn tlodi tanwydd; mae hynny i fyny 2 filiwn mewn dwy flynedd yn unig."

    Dywed y prif weinidog fod "Llywodraeth Cymru wedi bod ar gofnod ers misoedd lawer o alw am dariffau cymdeithasol; mae yno yn y llythyrau a ysgrifennwyd gan fy nghyd-Aelodau, y gweinidog cyfiawnder cymdeithasol a'r gweinidog cyllid".

    Rhun ap Iorwerth
    Image caption: Rhun ap Iorwerth
  7. Cyfyngiadau cyflymder 20mya

    20 mya

    Mae'r prif weinidog yn gwadu bod AS Llafur y Rhondda, Chris Bryant wedi disgrifio gweithredu terfyn cyflymder 20mya Cymru fel rhywbeth "boncyrs".

    Wrth ymateb i gwestiwn gan arweinydd grŵp y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, dywedodd Mr Drakeford ei bod yn amlwg bod ei gydweithiwr Llafur yn gefnogol i'r polisi.

    Dywed Mr Drakeford wrth ASau, "Gallaf eich sicrhau na ddywedodd yr hyn y mae Arweinydd yr Wrthblaid yn ei ddweud."

    Wrth siarad ar Question Time y BBC ddydd Iau diwethaf dywedodd Mr Bryant: "Mae yna rai leoedd lle mae hi ychydig, a dweud y gwir, yn boncyrs. Rydych chi'n mynd o 20 i 30 yn ôl i 20."

    Galwodd Mr Bryant am adolygiad llawn.

    Dywedodd y prif weinidog mai dyna'r "union fath o fater y byddwn yn edrych arno unwaith y byddwn wedi cael rhai misoedd pellach o'i weithredu'n ymarferol."

    Cyfeiriodd Mr Drakeford hefyd at sylwadau eraill gan Mr Bryant, a darllenodd yr hyn a ddywedodd oedd yn drawsgrifiad ohonynt: “Mae pawb yn credu y dylai fod yn 20mya y tu allan i ysgol ac ysbyty, a chlinig, a fferyllfa ac mewn rhai ardaloedd preswyl. Y peth yw, dyna bron bob heol yn y Rhondda."

    Cyhuddodd Mr Davies y prif weinidog o "gael clyw dethol."

    Meddai Mr Davies, "rydym yn anghytuno ynghylch y polisi fel Ceidwadwyr a Llafur yn y siambr hon. Dywedais wrthych fod yr Aelod dros y Rhondda wedi dweud bod gweithredu'r polisi yn foncyrs, ac, a dweud y gwir, mae llawer o bobl ar hyd a lled Cymru yn credu ei fod yn foncyrs".

    Cadarnhaodd Mark Drakeford hefyd fod ganddo WhatsApp ar ei ffôn, a'i fod yn gwneud defnydd ohono, mewn ymateb i gwestiwn gwahanol gan Mr Davies.

    Mae’n dilyn ei sylwadau i’r Senedd yr wythnos diwethaf yn mynegi na ddefnyddiodd yr ap, ar ôl datgelu y gallai rhai o swyddogion y llywodraeth fod wedi dileu negeseuon yn ystod y pandemig.

    Roedd eisoes wedi ysgrifennu at y Llywydd i egluro bod ganddo WhatsApp ar ei ffôn symudol a ddarparwyd iddo gan y Senedd.

    Andrew RT Davies
    Image caption: Andrew RT Davies
  8. Pryderon am ansawdd data arolwg marchnad lafur y Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Wrth ymateb i gwestiwn gan yr Aelod Seneddol Llafur Vikki Howells, mae'r prif weinidog yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon am ansawdd data arolwg marchnad lafur y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru ers nifer o fisoedd.

    Ni chyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddata arolwg o'r farchnad lafur ym mis Hydref.

    Ychwanega'r prif weinidog, "Rwy'n meddwl bod y Financial Times wedi ei grynhoi orau pan ddywedodd yn syml bod ystadegau gwael yn arwain at benderfyniadau gwael.

    "Mae anallu y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddarparu data gweithlu dibynadwy a rhai agweddau eraill ar ei gwaith yn y cyfnod diweddar yn fater sy’n peri gofid i lunwyr polisi.”

  9. Treftadaeth ffydd Cymru

    Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn gofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo treftadaeth ffydd Cymru.

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford bod Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny drwy ddarparu adnoddau, cyngor a grantiau gan Cadw a Croeso Cymru.

    Mae e hefyd yn canmol Addoldai Cymru, elusen a sefydlwyd "i gymryd meddiant a gofalu am ddetholiad o gapeli di-ddefnydd sydd o arwyddocâd hanesyddol a/neu bensaernïol yn hanes codi capeli ac Anghydffurfiaeth yng Nghymru, ac sy’n werthfawr i’w cymunedau lleol".

    Dywed Mr Millar, "cefais gyfarfod yr wythnos diwethaf gyda'r grŵp trawsbleidiol ar ffydd, a gafodd drafodaeth eang ar y cwestiwn 'A yw Cymru'n gwneud digon i hyrwyddo, amddiffyn a dathlu ei threftadaeth ffydd?'

    "Y casgliad y daethom iddo, ar ôl cyflwyniadau gan Nathan Abrams o Brifysgol Bangor am ei waith gyda’r gymuned Iddewig, a Christine Moore o Addoldai Cymru, oedd bod Cymru’n gwneud gwaith rhesymol ond yn gallu gwneud yn well”.

  10. Croeso

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.