Crynodeb

  • Ymhlith y cwestiynau i Mark Drakeford yn y Senedd mae gofal mamolaeth, amaethyddiaeth a chostau byw.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich 28 Tachwedd 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Oherwydd argyfwng Israel-Gaza, mae'r goleuadau yn y Senedd yn parhau i gael eu pylu bob nos.

    Dywedodd y Llywydd Elin Jones ei fod er mwyn “adlewyrchu’r teimlad bod ymosodiadau o’r fath yn cynrychioli cyfnod tywyll arall i ddynoliaeth yn y Dwyrain Canol.

    "Mae’n destun tristwch mawr i sefydliad democrataidd fel ein un ni.

    "Yn ogystal ag adlewyrchu’r tristwch, bydd y tywyllwch hefyd yn ddatganiad o undod â phawb sy’n dioddef o ganlyniad i’r ymosodiadau.”

    mae'r goleuadau yn y Senedd yn parhau i gael eu pylu bob nos
  2. 'Meddygon teulu fel penaethiaid tîm clinigol ehangach'wedi ei gyhoeddi 14:21 Amser Safonol Greenwich 28 Tachwedd 2023

    Gan gydnabod pwysau ar bractisau meddygon teulu, mae'r prif weinidog yn dweud mai meddygon teulu fel penaethiaid tîm clinigol ehangach yw dyfodol gofal sylfaenol.

    Meddai, "yn y ffordd honno, rwy’n meddwl bod dyfodol cryf a llwyddiannus iawn i ofal sylfaenol yng Nghymru—ac yng Nghymru, rydym wedi arwain y datblygiad hwnnw, sydd bellach yn cael ei ailadrodd mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.”

    Mae'r tîm ehangach, meddai, yn cynnwys ffisiotherapyddion, fferyllwyr, uwch ymarferwyr fel parafeddygon, a nyrsys practis.

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  3. 'Polisïau gwrth-dwristiaeth'wedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich 28 Tachwedd 2023

    Mae'r Ceidwadwr Tom Giffard yn beirniadu "treth dwristiaeth wenwynig" Llywodraeth Cymru a "pholisïau gwrth-dwristiaeth niweidiol" eraill.

    Mae'r prif weinidog yn ateb drwy ganolbwyntio ar fuddsoddiadau yn Y Mwmbwls, Bae Abertawe, fel enghraifft o gefnogaeth y llywodraeth i'r diwydiant.

    Mae’n tynnu sylw at “y £2 filiwn sydd wedi’i ddarparu i greu llety a bwyty o ansawdd uchel yn Y Mwmbwls ei hun, gan greu rhyw 29 o swyddi; buddsoddiad pellach o £70,000 yn yr hen gronfa busnesau micro a bach ar gyfer datblygu gwesty pum seren gerllaw; £2.7 miliwn ar gyfer creu canolfan ymwelwyr a distyllu wisgi Cymreig ym Morfa Hafod yn Abertawe.

    "Pethau ymarferol yw’r rhain; mae’r rhain yn fuddsoddiadau gwirioneddol; dyma sut yr ydych yn dangos eich cefnogaeth i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru."

    Y MwmbwlsFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Mwmbwls

  4. Effaith andwyol ar amaethyddiaeth?wedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich 28 Tachwedd 2023

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn dweud, "allwn ni ddim gwneud heb ein sector amaeth ni, o ran bwyd, yr amgylchedd, ein cymunedau gwledig, ein hiaith ac yn y blaen. Mae Cymru wledig ac amaeth angen llywodraeth ar eu hochr nhw.

    "Mae'r cyhoedd yn cytuno â mi: 82 y cant o bobl yn dweud wrth arolwg YouGov eu bod nhw'n cefnogi rhoi cymorth ariannol i ffermwyr gynhyrchu bwyd; 72 y cant yn dweud bod cefnogi ffermwyr Cymru yn ddefnydd da o arian cyhoeddus."

    Mae'n galw am "sicrwydd na fydd y gyllideb ddrafft yn effeithio'n andwyol ar amaethyddiaeth".

    Atebodd Mr Drakeford, "allai ddim dweud hynny am unrhyw agwedd ar y gwaith y mae'r llywodraeth yn ei wneud".

    Eglura, “rydym £1.3 biliwn yn brin o’r hyn sydd ei angen arnom y flwyddyn nesaf; hynny yw effaith chwyddiant a methiant llywodraeth y DU i gynnal gwir werth y gyllideb y dywedasant yr oedd ei hangen arnom pan osododd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant ein cyllidebau am dair blynedd."

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhun ap Iorwerth

  5. Gwasanaethau mamolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawewedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich 28 Tachwedd 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn codi pryderon am wasanaethau mamolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

    Mae’n cyfeirio at honiadau gan deulu Gethin Channon, sy’n dair oed, fod pryderon difrifol am ei ofal mamolaeth, a nodwyd gan un o brif ymchwilwyr meddygol y DU, wedi cael eu “cuddio” gan y bwrdd iechyd.

    Ganed Gethin Channon â niwed sylweddol i’r ymennydd ar ôl cymhlethdodau yn ystod ei eni yn Ysbyty Singleton yn 2019.

    Mae Mr Davies yn gofyn, "a yw'r bwrdd iechyd wedi cyrraedd lefelau staffio gofynnol y GIG yn y gwasanaethau mamolaeth, ac os nad ydyn nhw, a yw gwasanaethau mamolaeth yn Abertawe'n ddiogel?"

    Atebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, "Rwy'n credu bod gwasanaethau mamolaeth ym Mae Abertawe yn cael eu goruchwylio'n rheolaidd iawn gan y rhai sydd â'r cyfrifoldeb hwnnw.

    "Nid oes amheuaeth—nid wyf yn awgrymu fel arall—y bu rhai digwyddiadau anodd yn y gwasanaethau a ddarperir.

    "Ond mae'r trefniadau a roddwyd ar waith o ganlyniad i'r gwaith a wnaed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r gwersi hynny wedi'u trosglwyddo i'r gwasanaeth ym Mae Abertawe."

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  6. Yr argyfwng costau bywwedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich 28 Tachwedd 2023

    Mae Heledd Fychan o Blaid Cymru yn gofyn pa gynnydd sydd wedi'i wneud i weithredu'r 29 argymhelliad a wnaed gan grŵp arbenigol Llywodraeth Cymru ar yr argyfwng costau byw, dolen allanol.

    Lluniodd Llywodraeth Cymru y grŵp o 18 o arbenigwyr i gynghori ar effaith yr argyfwng costau byw ar bobl yng Nghymru a'r camau y dylid eu cymryd i leihau yr effaith.

    Ymatebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, "dyma rai o’r meysydd lle mae cynnydd wedi cael ei wneud—tai a digartrefedd, sicrhau’r incwm gorau i bobl, a lleihau cost y diwrnod ysgol.

    "Ond, gadewch i ni fod yn glir: does dim cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflawni pob un o’r 29 o argymhellion. Mae dewisiadau anodd yn cael eu gwneud, gyda chymorth adroddiad y grŵp arbenigol."

    Dywed Heledd Fychan fod rhai o'r argymhellion â "dim cost yn gysylltiedig â nhw, megis argymhellion 4, 24 a 25 ynglŷn â chasglu a chyhoeddi data, argymhelliad 10 o ran blaenoriaethu teuluoedd incwm isel ar gyfer y rhaglen Bwyd a Hwyl, a rhan gyntaf argymhelliad 23, o ran cymryd rhan mewn marchnata mwy gweithredol ar gyfer MyTravelPass i bobl ifanc 16 i 24 mlwydd oed."

    Heledd Fychan
    Disgrifiad o’r llun,

    Heledd Fychan

  7. Croesowedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich 28 Tachwedd 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.