a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Oherwydd argyfwng Israel-Gaza, mae'r goleuadau yn y Senedd yn parhau i gael eu pylu bob nos.

    Dywedodd y Llywydd Elin Jones ei fod er mwyn “adlewyrchu’r teimlad bod ymosodiadau o’r fath yn cynrychioli cyfnod tywyll arall i ddynoliaeth yn y Dwyrain Canol.

    "Mae’n destun tristwch mawr i sefydliad democrataidd fel ein un ni.

    "Yn ogystal ag adlewyrchu’r tristwch, bydd y tywyllwch hefyd yn ddatganiad o undod â phawb sy’n dioddef o ganlyniad i’r ymosodiadau.”

    mae'r goleuadau yn y Senedd yn parhau i gael eu pylu bob nos
  2. Tlodi plant

    Mark Drakeford
    Image caption: Mark Drakeford

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod y Ceidwadwyr yn "gwadu cyfrifoldeb yn llwyr" am dlodi plant.

    “Yma yng Nghymru, bob dydd, rydyn ni’n gwneud pethau i amddiffyn plant yng Nghymru rhag polisïau eich plaid chi,” meddai.

    Roedd yn ymateb i’r Ceidwadwr Natasha Asghar, a ddywedodd “mae’r ffigurau diweddaraf wedi dangos bod 28 y cant o holl blant Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol, sy’n cyfateb i tua wyth o blant mewn dosbarth o ddeg ar hugain.

    "Cyhoeddodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd adroddiad damniol yn ddiweddar yn dweud nad oes gan Lywodraeth Cymru gynllun nac uchelgais clir i fynd i'r afael â thlodi plant.

    "Nawr, mae Llafur wedi bod yn uniongyrchol gyfrifol am drechu tlodi ers tua dau ddegawd, ond eto mae'n amlwg bod llywodraethau Llafur olynol wedi methu yn anffodus."

    Mae tua 28% o blant Cymru yn byw mewn tlodi cymharol - mwy na'r Alban a Gogledd Iwerddon.

    Cafodd targed i ddileu tlodi plant yng Nghymru erbyn 2020 ei ddileu yn 2016.

    Yn ôl ffigurau a ddyfynnwyd gan bwyllgor Senedd Cymru, roedd 28% o blant sy’n byw yng Nghymru yn byw mewn cartrefi lle roedd incwm eu haelwyd yn llai na 70% o gyfartaledd y DU rhwng 2019 a 2022.

    Natasha Asghar
    Image caption: Natasha Asghar
  3. 'Trychineb i wasanaethau cyhoeddus'

    Mae'r prif weinidog yn disgrifio datganiad yr hydref gan lywodraeth y DU fel "trychineb i wasanaethau cyhoeddus y mae trigolion Cymru gyfan yn dibynnu arnynt".

    Mewn ymateb, mae’r Ceidwadwr James Evans yn nodi ymhlith y cynlluniau a gyhoeddwyd gan Ganghellor y DU Jeremy Hunt, y bydd Yswiriant Gwladol sy'n cael ei dalu gan weithwyr yn cael ei dorri o 12% i 10%, ac y bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi o £10.42 i £11.44 yr awr.

    y Canghellor Jeremy Hunt
    Image caption: Datgelodd y Canghellor Jeremy Hunt gynlluniau treth a gwariant llywodraeth y DU yn Natganiad yr Hydref
  4. Awtistiaeth

    Mae Heledd Fychan o Blaid Cymru yn ceisio sicrwydd bod “pob person yng Nghymru sydd yn derbyn diagnosis o awtistiaeth neu ADHD yn derbyn gwybodaeth safonol am ffynhonnellau cefnogaeth, effaith y ddiagnosis, a beth yw eu hawliau o safbwynt gwasanaethau a budd-daliadau”.

    Dywed y prif weinidog bod Llywodraeth Cymru "yn cynnal gwerthusiad o’r cod ymarfer ar gyflawni gwasanaethau awtistiaeth. Mae'r adroddiad diweddaraf yn nodi meysydd o arfer da, ond mae hefyd yn awgrymu bod angen safoni gwybodaeth a bod angen gwella mynediad at y wybodaeth honno cyn ac ar ôl diagnosis."

    Dywed hefyd eu bod wedi sefydlu rhaglen gwella gwasanaethau niwrowahaniaeth.

    Heledd Fychan
    Image caption: Heledd Fychan
  5. Rheolau fisa llymach

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn mynegi pryderon am effaith mesurau y mae llywodraeth y DU wedi addo fyddai’n sicrhau’r toriad mwyaf erioed mewn mudo net.

    Mae Mr Drakeford yn ateb ei fod yn rhannu'r pryderon am recriwtio i wasanaethau cyhoeddus hanfodol.

    Gofynna Rhun ap Iorwerth “a yw’r prif weinidog yn cefnogi galwadau Plaid Cymru i Gymru allu gosod ei pholisi mewnfudo ei hun, ac a fydd yn eiriol dros hynny gydag arweinydd ei blaid ei hun, neu a ddylid gadael tynged GIG Cymru ar drugaredd polisi mudo'r Torïaid, neu hyd yn oed weinidogion Llafur sy'n hoffi'r syniad?"

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “mae hwn yn syniad cymhleth, ac mae yna lawer o anfanteision iddo yn ogystal â manteision—ac mae yna fanteision iddo, a gwn hynny oherwydd i mi fod yn rhan o drafodaethau manwl iawn ochr yn ochr â chymheiriaid yn yr Alban yn ystod y trafodaethau Brexit, lle’r oedd posibilrwydd difrifol ar un adeg y byddai set o fisas wedi’i dyrannu i Gymru a’r Alban y byddem wedi gallu eu defnyddio ar ein telerau ein hunain, ac archwiliwyd y syniad hwnnw’n drylwyr iawn.

    "Yn y diwedd, fe’i gwrthodwyd, ac rwy’n meddwl iddo gael ei wrthod gan ein cyd-Aelodau yn yr Alban hefyd, ar y telerau y’i cynigiwyd, oherwydd byddech wedyn yn y pen draw yn cystadlu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig sydd hefyd â fisas ac sy’n gallu eu defnyddio mewn ffordd sy'n cystadlu'n erbyn lleoedd o fewn yr un wlad."

    Roedd y newidiadau a gyhoeddwyd ddoe gan yr Ysgrifennydd Cartref James Cleverly yn cynnwys codi’r isafswm cyflog sydd ei angen ar weithwyr tramor medrus o £26,200 i £38,700.

    Mae Mr Cleverly wedi honni na fyddai 300,000 o bobl oedd yn gymwys i ddod i’r DU y llynedd yn gallu gwneud hynny yn y dyfodol.

    Mae'r isafswm incwm ar gyfer fisas teulu hefyd wedi codi i £38,700.

    Rhun ap Iorwerth
    Image caption: Rhun ap Iorwerth
  6. Galw am ymddiheuriad am ganlyniadau Cymru ym mhrofion Pisa

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at y ffaith bod perfformiad Cymru wedi gostwng i'w lefel isaf erioed mewn profion rhyngwladol sy'n cael eu sefyll gan ddisgyblion 15 oed.

    Sgôr Cymru ym mhrofion Pisa - sy'n canolbwyntio ar ddarllen, mathemateg a gwyddoniaeth - ydy'r isaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig.

    Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb bod y canlyniadau yn “siomedig” ond “dim syndod”.

    Dywedodd Mr Drakeford nad oedd “dim byd yn y canlyniadau hyn ddylai fod yn adlewyrchiad” ar y disgyblion a gymerodd ran “nac yn wir, ar eu hysgolion”.

    Meddai hefyd, “rydyn ni’n rhannu’r un patrwm â 71 o’r 81 gwlad a ymunodd â chyfundrefn Pisa.”

    Ychwanegodd: “Nid yw Pisa yn syndod o ystyried yr hyn yr ydym eisoes wedi’i ddysgu am effaith Covid yn ein hysgolion.

    “Mae gan Lywodraeth Cymru eisoes gynllun llythrennedd, cynllun rhifedd, a chynllun i ddod ag arweinwyr addysg o amgylch y bwrdd ym mis Ionawr i fyfyrio ar y set hon o ganlyniadau ac yna i wneud yn siŵr bod y llwybr o welliant yr oeddem ni arno y tro diwethaf i ganlyniadau Pisa gael eu cyhoeddi yn llwybr y byddwn yn dychwelyd ato ar gyfer y dyfodol.”

    Dywed Mr Davies, “nid wyf wedi clywed gennych heddiw am unrhyw beth sylweddol yr ydych chi a’ch llywodraeth wedi’i ystyried yng ngoleuni’r dirywiad serth hwn mewn perfformiad.

    “Felly, a wnewch chi o leiaf ymddiheuro i’r dysgwyr a’r athrawon... am berfformiad truenus Llywodraeth Cymru ym myd addysg dros 25 mlynedd?"

    Mae'r prif weinidog yn ateb, "byddwn yn eu cymryd o ddifrif ac maent yn rhywbeth i feddwl amdano. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r OECD wedi'i ddweud am hynny. Ond, rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn bwysig cael dealltwriaeth gyflawn o'r hyn y mae ein pobl ifanc yn ei gyflawni yma yng Nghymru."

    Andrew RT Davies
    Image caption: Andrew RT Davies
  7. Plant troseddwyr rhyw

    Mae'r Ceidwadwr Peter Fox yn galw am wasanaethau cymorth emosiynol gwell i blant troseddwyr rhyw a gafwyd yn euog.

    Dywed y prif weinidog fod Llywodraeth Cymru "yn cadeirio grŵp cyswllt teulu Cymru ar y cyd, ynghyd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM. Mae'r grŵp hwnnw'n dod ag arweinwyr ar draws y system gyfiawnder ynghyd o amgylch yr un bwrdd, i wella'r cymorth sydd ar gael i blant pobl sydd yn y carchar".

    Dywed Mr Fox, "Rwy'n gwybod y byddech yn cytuno â mi y dylai dioddefwyr troseddwyr rhyw gael yr holl gefnogaeth sydd ei angen arnynt wrth iddynt fynd trwy sefyllfa anhygoel o wrthun.

    "Fodd bynnag, un grŵp o ddioddefwyr sy'n dueddol o gael eu hanwybyddu yw plant y troseddwyr eu hunain. Daeth hyn i'm sylw trwy waith achos diweddar. Ac, yn aml, gadewir y plant hyn yn teimlo'n anniogel, yn cael eu halltudio, ac yn cael eu cywilyddio gan y gweithredoedd nad oedd ganddynt ddim i'w wneud â hwy o gwbl."

    Peter Fox
    Image caption: Peter Fox
  8. Bil Diwygio Lesddaliadau a Rhydd-ddaliadau

    Mae’r AS Llafur Hefin David yn gofyn beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar Fil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad llywodraeth y DU.

    Mae llywodraeth y DU wedi dweud y byddai'r bil newydd yn gwahardd gwerthu tai lesddaliad newydd yng Nghymru a Lloegr.

    Ymatebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, "er bod cyfrifoldeb dros dai wedi cael ei ddatganoli, mae'r gyfraith eiddo yn fater a gedwir yn ôl. Mae diwygio llesddaliadau yn dibynnu ar y ddwy agwedd. Bydd Llywodraeth Cymru yn gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol sy'n cefnogi'r Bil, a fydd yn gwella hawliau perchnogion tai yng Nghymru."

    Mae lesddaliad yn fath o gontract eiddo sy’n caniatáu i’r perchennog fyw mewn eiddo – fflat fel arfer – am gyfnod penodol. O dan y system hon, yn aml mae’n rhaid i lesddeiliaid dalu rhent tir a thaliadau cynnal a chadw drud i rydd-ddeiliaid, sy’n berchen ar adeiladau a’r tir y cânt eu hadeiladu arno.

    Mae’r bil yn cynnwys camau i gynyddu’r estyniad les safonol o 90 mlynedd i 990, a’i gwneud yn haws ac yn rhatach i lesddeiliaid gymryd drosodd y gwaith o reoli eu heiddo.

    Ond mae rhai yn siomedig nad yw’r gwaharddiad ar werthu lesddaliadau newydd yn cynnwys fflatiau.

    Tai
  9. Croeso

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.