Crynodeb

  • Menyw 29 oed wedi ei thrywanu ac roedd swyddogion arfog yn chwilio am berson a adawodd lleoliad y digwyddiad yn Aberfan

  • Roedd swyddogion arfog o Heddlu De Cymru yn ymateb i "ymosodiad difrifol" ar Heol Moy am 09:10 fore Mawrth

  • Nid yw anafiadau'r fenyw gafodd ei thrywanu yn rhai sy'n peryglu ei bywyd ar hyn o bryd, meddai'r heddlu

  • Roedd Heddlu'r De wedi galw ar bobl i gadw draw, a bu sawl ysgol leol ynghau

  1. Dyn wedi'i arestio ar ôl i ddynes gael ei thrywanuwedi ei gyhoeddi 19:40 Amser Safonol Greenwich 5 Rhagfyr 2023

    Dyn 28 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i ddynes 29 oed gael ei thrywanu yn Aberfan.

    Read More
  2. Diolch am ddilyn ein llif bywwedi ei gyhoeddi 15:55 Amser Safonol Greenwich 5 Rhagfyr 2023

    Mae ein llif byw ar fin dod i ben - diolch am ymuno â ni ar gyfer y diweddaraf o Aberfan.

    I'ch atgoffa, mae menyw 29 oed wedi ei thrywanu ac mae swyddogion arfog yn chwilio am berson a adawodd lleoliad y digwyddiad.

    Nid yw anafiadau'r fenyw gafodd ei thrywanu yn rhai sy'n peryglu ei bywyd ar hyn o bryd, meddai'r heddlu.

    Bu sawl ysgol leol ynghau wrth i swyddogion geisio dod o hyd i'r dyn sydd ar ffo, sy'n dal heb ei ganfod.

    Bydd unrhyw ddatblygiadau pellach yn yr erthygl ar ein hafan.

  3. 'Cymaint o heddlu ar y stryd'wedi ei gyhoeddi 15:50 Amser Safonol Greenwich 5 Rhagfyr 2023

    Mae Marilyn Morris yn byw ar y stryd hefyd.

    "Fe welson ni’r hofrenyddion a doedden ni ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd ac yna fe ffoniodd fy merch a dweud: 'Mam, ti’n iawn?' oherwydd bod rhywun wedi cael ei drywanu ar Heol Moy.

    "Dwi wedi byw yma ers 50 mlynedd ac heb weld dim byd fel hyn - roedd cymaint o heddlu ar y stryd," meddai.

    "Dwi wedi clywed bod y fenyw yn feichiog. Mae'n drueni - dwi'n gobeithio eu bod nhw'n iawn."

    Marilyn Morris
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Marilyn Morris wedi byw ar Heol Moy ers dros hanner canrif, meddai

  4. 'Sgrech fy merch wedi tynnu sylw cymdogion'wedi ei gyhoeddi 15:38 Amser Safonol Greenwich 5 Rhagfyr 2023

    Mae mam wedi dweud bod sgrech ei merch wedi tynnu sylw cymdogion at y digwyddiad.

    Dywedodd Lynne Terrett, o Ferthyr Tudful, wrth asiantaeth newyddion PA fod ei merch yn mynd â'i chi am dro ger ei chartref yn Aberfan pan welodd y digwyddiad.

    Dywedodd fod ei merch wedi edrych o gwmpas ar ôl iddi glywed sŵn y fenyw yn rhedeg tuag ati.

    "Syrthiodd [y fenyw]," meddai. "Sgrechiodd fy merch, a daeth pobl allan o bobman.

    "Pe na bai [fy merch] wedi sgrechian, ni fyddai pobl wedi mynd allan."

    Ychwanegodd fod ei merch wedi dychryn yn dilyn y digwyddiad, a dywedodd fod y fenyw yn feichiog.

  5. Ysgol leol yn ailagorwedi ei gyhoeddi 15:25 Amser Safonol Greenwich 5 Rhagfyr 2023

    Dywed Ysgol Greenfield gerllaw nad yw bellach dan glo - neu mewn 'lockdown'.

    Yn gynharach, cyhoeddodd yr ysgol ddatganiad i rieni yn dweud ei bod yn cadw'r disgyblion yn ddiogel y tu mewn i'r adeilad a bod y giatiau wedi'u cloi.

  6. Crynodeb o'r hyn sydd wedi digwydd hyd ymawedi ei gyhoeddi 15:11 Amser Safonol Greenwich 5 Rhagfyr 2023

    Alun Thomas
    Gohebydd BBC Cymru yn Aberfan

  7. 'Gobeithio ei bod hi a'r babi yn iawn'wedi ei gyhoeddi 14:52 Amser Safonol Greenwich 5 Rhagfyr 2023

    Ychwanegodd Katie Roberts - a welodd y digwyddiad - fod y fenyw a gafodd ei thrywanu yn "ddewr iawn".

    "Rwy'n gobeithio ei bod hi a'r babi yn iawn," meddai.

    "Roedd hi mewn sioc ac yn ddewr iawn, iawn.

    "Rwy' ddim o fan hyn yn wreiddiol - mae fy mhartner i o fan hyn. Mae e wedi byw yma ar hyd ei fywyd a dyw hyn ddim yn digwydd mewn pentref bach fel hyn."

    katie roberts
  8. Y ddynes gafodd ei thrywanu 'yn feichiog'wedi ei gyhoeddi 14:38 Amser Safonol Greenwich 5 Rhagfyr 2023

    Mae llygad-dystion wedi dweud wrth ohebwyr y BBC bod y ddynes 29 oed gafodd ei thrywanu yn Aberfan y bore 'ma yn feichiog.

  9. 'Ysgol y ferch dal mewn 'lockdown''wedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich 5 Rhagfyr 2023

    "Mae'n sioc i weld rhywbeth fel hyn yn digwydd - mae hon yn stryd ddistaw," meddai Carys Williams, sy'n byw ar y stryd ble ddigwyddodd yr ymosodiad.

    "Mae plant yn mynd allan yn y stryd i chwarae felly i glywed bod rhywbeth fel hyn wedi digwydd... mae'n sioc.

    "Mae e yn ofnus ond gobeithio bydd nhw'n dal y dyn yn glou.

    "Mae gen i ferch sydd dal yn ysgol - maen nhw dal yn lockdown ar y funud a ni dal yn aros am wybodaeth."

    stryd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae presenoldeb y wasg yn amlwg ar Heol Moy erbyn hyn

  10. Y gwleidyddion yn cydymdeimlowedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich 5 Rhagfyr 2023

    Mae rhai gwleidyddion blaenllaw wedi mynegi eu pryder ynghylch y digwyddiad yn Aberfan yn y Senedd ddydd Mawrth.

    Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae'r digwyddiad yn parhau i ddatblygu, ond ar hyn o bryd rydym yn meddwl am y rheiny sydd ynghlwm â'r digwyddiad."

    Ategodd sylwadau arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, a ddywedodd: "Rwy'n siŵr bod pawb yn meddwl am y gymuned a'r rheiny sy’n delio gyda’r sefyllfa yn Ysgol Gynradd Aberfan."

    Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Rwyf innau hefyd yn mynegi fy mhryder i'r gymuned ac yn diolch i'r holl bobl sydd wedi ymateb ar frys i'r digwyddiad."

  11. 'Llawer o bobl wedi helpu'wedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich 5 Rhagfyr 2023

    Katie Roberts
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywedodd Katie Roberts ei bod wedi gweld y digwyddiad

    Gwelodd Katie Roberts, sy'n byw gerllaw, yr ymosodiad fore Mawrth.

    "Nes i glywed y sgrechiadau, ro'n i'n meddwl mai plant oedd yn chwarae i ddechrau, yna edrychais allan o'r ffenest," meddai.

    "Ceisiodd llawer o bobl helpu, daeth llawer o bobl allan.

    "Mae'n eitha' ysgytwol ac rwy'n gobeithio ei bod hi'n iawn.

    "Doeddwn i ddim yn ei hadnabod, roedd hi wedi symud yma yn ddiweddar."

  12. 'Angen i bobl aros tu fewn'wedi ei gyhoeddi 13:29 Amser Safonol Greenwich 5 Rhagfyr 2023

    Dywedodd yr Aelod Seneddol lleol, Gerald Jones: "Mae Aberfan yn gymuned glos iawn ac rwy'n gwybod bydd y gymuned mewn sioc ac yn bryderus iawn am yr hyn sy'n datblygu.

    "Ond mae angen i bobl aros tu fewn, osgoi'r ardal a gadael i'r heddlu wneud yr hyn y maen nhw yno i'w wneud."

    mapFfynhonnell y llun, Google Maps
  13. Datganiad yr heddluwedi ei gyhoeddi 13:20 Amser Safonol Greenwich 5 Rhagfyr 2023

    Heddlu De Cymru

    Dywed Heddlu De Cymru eu bod wedi'u galw toc cyn 09:10 bore 'ma yn dilyn adroddiad bod dynes 29 oed wedi cael ei thrywanu ar Heol Moy.

    Ychwanegodd llefarydd fod dyn wedi gadael y lleoliad yn syth ar ôl y digwyddiad ac mae ymholiadau’n parhau i ddod o hyd iddo.

    "Mae swyddogion arfog yn cynnal chwiliad o'r ardal gyfagos.

    "Mae ysgolion lleol wedi gweithredu eu protocolau cloi i gadw disgyblion yn ddiogel tra bod y digwyddiad yn parhau.

    "Rydym yn parhau i ofyn i bobl osgoi'r ardal fel y gallwn ymdrin yn effeithiol â'r digwyddiad hwn.

    "Mae’r ddynes wedi’i chludo i’r ysbyty gydag anafiadau na chredir eu bod yn rhai sy’n peryglu ei bywyd ar hyn o bryd."

  14. 'Tawel iawn'wedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich 5 Rhagfyr 2023

    Alun Thomas
    Gohebydd BBC Cymru yn Aberfan

    Mae’n dawel iawn ar Heol Moy yn Aberfan ychydig oriau ers y digwyddiad y bore 'ma.

    Mae’r heddlu ar ddyletswydd yma - mae 'na fan yr heddlu a nifer o swyddogion a thâp wedi’i osod ar y cyffordd rhwng Plas y Coroni a Heol Moy.

    Does neb yn cael teithio ar hyd Plas y Coroni ar hyn o bryd.

  15. Menyw 29 oed wedi'i thrywanu - heddluwedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich 5 Rhagfyr 2023
    Newydd dorri

    Mae menyw 29 oed wedi cael ei thrywanu ac mae swyddogion arfog yn chwilio am berson a adawodd lleoliad y digwyddiad, meddai Heddlu De Cymru.

  16. Beth ydyn ni'n ei wybod hyd yn hyn?wedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich 5 Rhagfyr 2023

    Mae heddlu arfog yn ymateb i ymosodiad difrifol ar Heol Moy, Aberfan am 09:10 bore 'ma.

    Mae un person yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad.

    Mae Heddlu'r De yn galw ar y cyhoedd i gadw draw am y tro, ac mae sawl ysgol leol hefyd wedi cau.

    Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod ambiwlans brys ac un ambiwlans awyr ar leoliad, "lle darparwyd cymorth gofal critigol".

    "Cafodd un claf ei gludo gan ambiwlans ffordd i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd am driniaeth bellach."

    aberfan
  17. Croesowedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich 5 Rhagfyr 2023

    Diolch am ymuno gyda ni ar Cymru Fyw.

    Byddwn ni'n dod â'r diweddaraf i chi o Aberfan yn dilyn yr hyn y mae'r heddlu yn ei alw yn "ymosodiad difrifol" fore Mawrth.