a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog em eleni.

    Ymunwch â ni eto yn y flwyddyn newydd.

    Nadolig Llawen!

    Nadolig
  2. Gwasanaethau bws

    Meddai’r Aelod o'r Senedd Llafur Mike Hedges, "gwyddom o ddata a gyhoeddwyd bod elw gweithredu addasedig First Group wedi cynyddu i £100.6 miliwn yn 2023. Rydym hefyd yn gwybod bod gwasanaethau bysiau wedi lleihau'n sylweddol yn Abertawe, gydag amseroedd teithio i'r gwaith a'r coleg yn cael eu heffeithio, er bod rhai wedi'u dychwelyd erbyn hyn.

    "O ddata a gyhoeddwyd gan y llywodraeth rydym yn gwybod bod £52.8 miliwn wedi'i roi i gwmnïau bysiau eleni. Sut y bydd y Bil bysiau yn helpu gyda'r diwygio y mae mawr ei angen fel y gall pobl fynd o gwmpas ar fysiau?"

    Mae'r prif weinidog yn ateb, "Mae'n tynnu sylw'n uniongyrchol at un o'r rhesymau pam mae'r Bil bysiau mor bwysig - oherwydd bod y rhain yn gwmnïau preifat... bydd y Bil bysiau, pan gaiff ei gyflwyno, yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir gan gwmnïau bysiau yn cael eu rhedeg gyda budd y cyhoedd yn ganolog, a bydd hynny’n newid sylfaenol yn y ffordd y mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu a’u dylunio drwy ein gwasanaethau lleol.

    "Bydd yn gwrthdroi'r difrod enfawr a wnaed gan ddadreoleiddio bysiau, sydd wedi caniatáu mynd ar drywydd elw preifat ar draul budd y cyhoedd."

    Bws
  3. Twristiaeth

    Mae'r ystadegau ar dwristiaeth yng Nghymru yn "ddychrynllyd" ac yn "enbyd" meddai'r Ceidwadwr Gareth Davies.

    Dywed bod y “ffigurau diweddaraf ar ymweliadau rhyngwladol â Chymru yn dangos, rhwng Ionawr a Mehefin 2023, fod 403,000 yn llai o ymweliadau â Chymru, i lawr 12 y cant o gymharu â’r un cyfnod yn 2019. Ar yr un pryd, mae’r swm o arian y gwariodd ymwelwyr wedi gostwng 24 y cant syfrdanol o gymharu â 2019."

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod twristiaeth yng Nghymru yn "stori o lwyddiant" a bod ei lywodraeth yn cymryd "camau i ymestyn y tymor twristiaeth yng Nghymru, i annog ymwelwyr i fwynhau'r ystod ehangach o atyniadau sydd gennym i'w cynnig, ac i wario mwy o arian".

    Llandudno
    Image caption: Llandudno
  4. Gwasanaethau gofal sylfaenol dan bwysau

    Mae gwasanaethau gofal sylfaenol "dan bwysau gwirioneddol" ledled Cymru, meddai'r prif weinidog.

    "Ond, o amgylch Cymru gyfan, mae mwy nag 1.5 miliwn o gysylltiadau â’r gwasanaeth yn cael eu cynnal bob mis. Mae amrywio’r gweithlu wedi bod yn allweddol i gynnal gofal sylfaenol mewn cyfnod estynedig o gyni ariannol".

  5. Pam mae wedi cymryd hyd hyn?

    Dawn Bowden yn eistedd y tu ôl i'r prif weinidog wrth iddo ateb cwestiynau am ei hymddygiad
    Image caption: Dawn Bowden yn eistedd y tu ôl i'r prif weinidog wrth iddo ateb cwestiynau am ei hymddygiad

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn gofyn “o ystyried bod y gwrthdaro yn sylwadau Tonia Antoniazzi a’r dirprwy weinidog [Dawn Bowden] yr un fath heddiw ag yr oeddent bron i flwyddyn a hanner yn ôl ac y bu galw am gael y gwir am fisoedd lawer, pam ar y ddaear y mae wedi cymryd hyd hyn i'r mater gael ei gyfeirio fel hyn?"

    Mae Mr Drakeford yn ateb ei fod wedi lansio ymchwiliad i weld a wnaeth ei weinidog chwaraeon dorri'r cod gweinidogol nawr oherwydd "mae rhai safbwyntiau newydd wedi'u mynegi gan yr Aelod Seneddol dros Gŵyr [Tonia Antoniazzi]. Ac, ar ôl mynegi'r safbwyntiau hynny, rydw i wedi cymryd camau".

    Ni wnaeth Ms Bowden gwrdd â phenaethiaid Undeb Rygbi Cymru i drafod materion tan ar ôl i raglen ddogfen BBC Wales Investigates, a amlygodd "ddiwylliant gwenwynig" o rywiaeth a homoffobia, gael ei darlledu ym mis Ionawr 2023.

    Roedd Ms Antoniazzi wedi codi pryderon am faterion o fewn URC y mis Mawrth blaenorol yn Nhŷ'r Cyffredin.

    Ond dywedodd Ms Bowden nad oedd yr hyn yr oedd Ms Antoniazzi wedi'i ddweud yn Nhŷ'r Cyffredin na'r pryderon a godwyd ganddi mewn cyfarfodydd ac mewn llythyrau swyddogol yn ddigon iddi weithredu.

    Rhun ap Iorwerth
    Image caption: Rhun ap Iorwerth
  6. A ydyw Dawn Bowden wedi torri cod y gweinidogion?

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at alwad gan AS Llafur ar i weinidog chwaraeon Llywodraeth Cymru ystyried ymddiswyddo oherwydd y modd yr ymdriniodd â honiadau o gasineb tuag at fenywod o fewn Undeb Rygbi Cymru

    Mae Tonia Antoniazzi wedi cyhuddo Dawn Bowden o "ymdrech sinigaidd i ailysgrifennu hanes" mewn cyfweliad gyda'r BBC ble wnaeth y gweinidog amddiffyn ei hun.

    Mae'r Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn ateb ei fod wedi lansio ymchwiliad i weld a ydyw Dawn Bowden wedi torri cod y gweinidogion.

    Mae'n dweud bod Ms Bowden wedi gofyn am yr ymchwiliad ac mai gwas sifil fydd yn cynnal yr ymchwiliad.

    Dywed Mr Drakeford fod gan URC "lawer i'w brofi o hyd, ond dwi'n meddwl eu bod wedi gwneud cychwyn ar y daith honno".

    Mae'n dweud mai "y dirprwy weinidog oedd yn ystyried bod yr honiadau a wnaed yn ei herbyn mor ddifrifol fel ei bod yn dymuno i'w henw gael ei glirio, neu beidio, yn dibynnu ar yr ymchwiliad".

    Byddai'r ymchwiliad yn cael ei gynnal yn y lle cyntaf gan y cyfarwyddwr moeseg, meddai Mr Drakeford, sef David Richards.

    Ychwanegodd Mr Drakeford na fydd yn gosod amserlen ar gyfer yr ymchwiliad.

    Andrew RT Davies
    Image caption: Andrew RT Davies
  7. Datganiad hydref y Canghellor

    Dywed y prif weinidog fod datganiad hydref y Canghellor yn “ddychwelyd i lymder llawn”.

    Mae lliniaru'r gyllideb yn "anoddach fyth" meddai.

    Ymhlith y cynlluniau a gyhoeddwyd gan Ganghellor y DU Jeremy Hunt, y bydd Yswiriant Gwladol sy'n cael ei dalu gan weithwyr yn cael ei dorri o 12% i 10%, ac y bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi o £10.42 i £11.44 yr awr.

    Datgelodd y Canghellor Jeremy Hunt gynlluniau treth a gwariant llywodraeth y DU yn Natganiad yr Hydref
    Image caption: Datgelodd y Canghellor Jeremy Hunt gynlluniau treth a gwariant llywodraeth y DU yn Natganiad yr Hydref
  8. Hyfywedd gwasanaethau bysus cyhoeddus

    Mae Mabon ap Gwynfor yn gofyn am ddiweddariad am hyfywedd gwasanaethau bysus cyhoeddus yn ei etholaeth, Dwyfor Meirionnydd.

    Ymatebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod "gwasanaethau bysiau dan bwysau ym mhobman. Mae llai o deithwyr yn golygu llai o refeniw i gefnogi'r rhwydwaith blaenorol o lwybrau. Ond, yn ardal Dwyfor Meirionnydd, bydd Cyngor Gwynedd yn dechrau gwasanaeth T22 newydd yn gynnar yn 2024, a fydd yn gwella cysylltiadau rhwng Porthmadog, Blaenau Ffestiniog a Chaernarfon".

    Dywed Mabon ap Gwynfor, "fe wnes i ymweld â chyflogwr sydd yn gorfod cau ym Mlaenau Ffestiniog yn ddiweddar. Mae'n nhw'n talu cyflog da wrth ystyried cyflogaeth y sector, ac mae gyda nhw lefydd gwaith eraill yn y gogledd hefyd.

    "Ond, yn anffodus, dydy'r gweithlu profiadol a dawnus presennol sydd ym Mlaenau Ffestiniog ddim yn gallu ffeindio cyflogaeth arall, oherwydd nad oes ganddyn nhw ffordd o gyrraedd y mannau gwaith hynny. Does ganddyn nhw ddim car preifat, a does dim bysiau yn teithio ar amser i'w cymryd i rannau eraill o'r gogledd. Mae diffyg bysiau, felly, yn effeithio'n uniongyrchol ar ein heconomi, ac yn arwain at broblemau eraill, problemau megis rhai cymdeithasol ac iechyd meddwl, er enghraifft."

  9. Croeso

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm - sesiwn olaf y flwyddyn.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.