Crynodeb

  • Meddygon iau ar draws y wlad yn ymuno â'r linell biced fel rhan o ymdrech i sicrhau cyflogau uwch

  • Streic wedi dechrau am 07:00 fore Llun, ac yn parhau am dridiau nes fore Iau

  • Bron i 4,000 o feddygon iau yng Nghymru - o flwyddyn gyntaf eu gyrfa i'r rhai sydd ar fin bod yn ymgynghorwyr

  • Llywodraeth yn dweud eu bod yn cydnabod rhwystredigaeth meddygon iau, ond nad oes rhagor o arian i'w gynnig

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 10:15 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Mae hi wedi bod yn ddiwrnod hanesyddol wrth i feddygon iau yng Nghymru streicio am y tro cyntaf erioed. Dyma'r manylion:

    • Meddygon iau ar streic dridiau fel rhan o ymdrech i sicrhau cyflogau uwch;
    • Fe ddechreuodd y streic am 07:00 ddydd Llun ac fe fydd yn para tan 07:00 fore Iau;
    • Mae miloedd o lawdriniaethau ac apwyntiadau wedi'u gohirio, a phenaethiaid iechyd yn rhybuddio y bydd cryn aflonyddu ar y drefn arferol;
    • Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog o 5% ond mae hyn wedi'i wrthod gan gymdeithas feddygol y BMA;
    • Y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn dweud na all Llywodraeth Cymru, fforddio rhoi mwy o arian.

    Bydd y diweddaraf am y streic dridiau a'i heffaith i'w gweld ar wefan BBC Cymru Fyw.

    Diolch am eich cwmni bore 'ma - hwyl am y tro.

    Ysbyty Glangwili
    Disgrifiad o’r llun,

    Meddygon iau yn streicio tu allan i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ddydd Llun

  2. Llinell biced Ysbyty Glangwili 'yn emosiynol ar brydiau'wedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Sara Rowlands, ein gohebydd ni sydd wedi bod yn siarad gyda'r rheiny ar y linell biced yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, sy'n rhannu ei hargraffiadau hi o'r bore.

    Disgrifiad,

    Ein gohebydd Sara Rowlands ar y linell biced yn Ysbyty Glangwili

  3. Y linell biced yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdyddwedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Mae'r meddygon ar y linell biced tu allan i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd i'w gweld mewn hwyliau da, er gwaethaf yr oerfel!

    Disgrifiad,

    Golygfa o'r linell biced tu allan i Ysbyty Athrofaol Caerdydd

  4. 'System ar ei bengliniau'wedi ei gyhoeddi 09:58 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    BBC Radio Cymru

    Ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru yn gynharach fe wnaeth un meddyg iau egluro sut brofiad ydi gweithio yn yr uned frys yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ar hyn o bryd.

    Dywedodd Catrin Davies, oedd yn streicio tu allan i'r ysbyty: “Ma’ fe’n brysur iawn, ond ma' fe’n brysur trwy’r flwyddyn - ma’ fe’n system sydd ar ei bengliniau, yn rili stryglo drwy’r flwyddyn.

    "Ma' colli doctoriaid achos dyw pobl ddim yn teimlo bod nhw’n cael eu training, a ddim yn teimlo bod nhw’n cael eu parchu yn y system yma, yn meddwl bod cleifion yn cael triniaeth sydd ddim cystal ag oedd e o’r blaen.

    "Mae e am gario 'mlaen fel hynny tan mae rhywbeth yn cael ei wneud.”

  5. Ydy'r streic wedi effeithio arnoch chi?wedi ei gyhoeddi 09:49 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Ydy'r streic wedi effeithio arnoch chi o gwbl?

    Oedd gennych apwyntiad yn ystod y tridiau nesaf a hwnnw wedi ei ohirio?

    Gadewch i ni wybod drwy e-bostio cymrufyw@bbc.co.uk

    meddyg iauFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Strei-ci-o yng Nghaerdyddwedi ei gyhoeddi 09:42 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Mae rhai o'r meddygon iau wedi cael cwmni wrth streicio tu allan i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd y bore 'ma.

    Ci ar y llinell biced
    Meddygon efo ci
    Streicwyr efo ci
  7. Faint mae meddygon iau yn cael eu talu?wedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Cyflog cychwynnol meddyg iau yng Nghymru yw £28,471.

    Yn ôl dogfennau diweddaraf y GIG yng Nghymru ar gyflogau, yr uchafswm all meddyg iau ennill - fel cofrestrydd arbenigol - yw £59,336.

    Ond mae meddygon iau, fel staff eraill yn y gwasanaeth iechyd, yn gallu ennill mwy o gyflog am weithio oriau ychwanegol neu oriau anghymdeithasol.

    Mae eu cytundebau hefyd yn dweud y gallen nhw gael eu gofyn i weithio hyd at 48 awr yr wythnos, yn hytrach na'r 40 arferol.

    meddygonFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Plaid Cymru: 'Y streic ddim yn syndod'wedi ei gyhoeddi 09:27 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Plaid Cymru

    Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd Mabon ap Gwynfor AS: “Mae cyflogau meddygon iau bron draean yn llai mewn termau real na'r hyn yr oeddent 15 mlynedd yn ôl.

    "Dyw'r GIG yn ddim heb eu gweithlu ymroddedig, ac mae'r gweithlu hwnnw yn haeddu cael ei dalu'n iawn ac i gael yr amgylchedd iawn i weithio ynddo er mwyn darparu'r gofal gorau posib.

    "Gyda chwyddiant bron yn 6%, mae codiad cyflog o 5% yn ostyngiad arall mewn termau real a dyw e ddim yn syndod bod aelodau'r BMA wedi penderfynu gweithredu.

    "Mae'n siom nad yw Llywodraeth Lafur Cymru yn deall difrifoldeb y sefyllfa wrth i'r streic ddechrau heddiw.

    "Y rheswm am hyn yw nad yw Cymru yn cael ei hariannu'n iawn, sy'n golygu na allwn dalu yr hyn y mae gweithwyr yn y sector gyhoeddus yn ei haeddu.

    "Rhaid buddsoddi yn y GIG a sicrhau nad ydyn ni'n ddibynnol ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn Lloegr."

  9. Ceidwadwyr: 'Sefyllfa rwystredig wedi'i hachosi gan Lafur'wedi ei gyhoeddi 09:21 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Ceidwadwyr Cymreig

    "Mae pobl Cymru yn rhannu fy rhwystredigaeth yn sgil streic y meddygon iau sydd wedi'i hachosi gan lywodraeth Lafur Cymru, a hynny pan mae gennym y rhestrau aros hwyaf yn y DU," meddai Russell George, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd.

    "Yn Lloegr, o dan lywodraeth Geidwadol, mae meddygon iau wedi cael cynnig dwbl y codiad cyflog - mae Llafur wastad wedi rhoi'r cynnig gwaethaf yn y DU.

    "Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwario yr hyn a roddwyd gan fformiwla Barnett ar gyfer iechyd ar iechyd.

    "Rhaid i Lafur roi codiad cyflog sy'n unol ag argymhellion y corff annibynnol sy'n adolygu cyflogau. Hyd yma mae gwenidogion Llafur wedi methu â gwneud hynny."

  10. 'Streicio ar gyfer ein cleifion'wedi ei gyhoeddi 09:14 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    BBC Radio Cymru

    Tu allan i Ysbyty Gwynedd, Bangor, fe wnaeth Lowri Thomas, 26, o Bwllheli egluro pam ei bod hi a’r meddygon iau eraill yno yn streicio.

    “Dydi’r penderfyniad i streicio ddim yn un hawdd o gwbl," meddai ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

    "‘Dan ni’n dallt bod o’n mynd i achosi disruption - ‘dan ni’n cymryd hynny o ddifri'.

    "Ond dydan ni ddim yn gofyn am gynnydd taliad, ond adferiad tâl gyda’r gobaith y bydd hynny yn golygu bydd yr amodau yn well a bod mwy o bobl yn aros fel meddygon, ac oherwydd hynny y bydd y gofal fydd y cleifion yn ei gael yn well.

    "Gwneud hyn ar ddiwedd y dydd ar gyfer ein cleifion ydan ni.”

    Catrin Davies a Lowri Thomas
    Disgrifiad o’r llun,

    Streicio er lles cleifion mae'r meddygon iau yn y bon, meddai Lowri Thomas (dde)

  11. 'Mae fy merch yn cael ei thalu'n well gan Network Rail'wedi ei gyhoeddi 09:07 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Mae Gaynor Barrett, meddyg iau o Fynwy, ymhlith y rheiny sydd ar y linell biced tu allan i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

    "Fel rhiant sengl ifanc dwi ddim yn feddyg iau ifanc," meddai. "Mae wedi bod yn anodd.

    "Rwy’n gwybod bod pobl yn meddwl bod doctoriaid yn cael eu talu’n dda, ond pan fyddwn ni'n dechrau arni, mewn gwirionedd mae’n gyflog is na llawer o swyddi.

    "Mae fy merch hynaf newydd ddechrau yn Network Rail ar gyflog uwch na'r hyn a ddechreuais i fel F1.

    "Rydw i wedi cael rhybudd ar fy nghar i jecio’r injan am y 18 mis diwethaf, a hoffwn gywiro hynny fel mod i'n gwybod mod i'n gallu mynd i’r gwaith yn y bore.

    "Fel hyn mae pethau ar hyn o bryd."

  12. Faint o feddygon iau sydd ar streic?wedi ei gyhoeddi 08:58 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Owain Clarke
    Gohebydd Iechyd BBC Cymru

    "Mae meddygon iau yn feddygon sydd wedi graddio o ysgol feddygol, ac yn hyfforddi i fod yn feddygon ymgynghorol neu'n feddygon teulu - proses all gymryd blynyddoedd lawer," meddai'n gohebydd iechyd Owain Clarke.

    "Mae tua 4,000 o feddygon iau yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a 900 o'r rheiny ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro.

    "Fel mewn unrhyw streic, mae'n amhosib darogan faint yn union o feddygon fydd ddim yn gweithio.

    "Ond fe fydd yr effaith, yn enwedig ar ysbytai, yn sylweddol."

    Ysbyty Athrofaol CymruFfynhonnell y llun, Mick Lobb/Geograph
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae bron i chwarter meddygon iau Cymru'n gweithio ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro

  13. Llais: 'Angen llinell gymorth i gleifion wedi'u heffeithio'wedi ei gyhoeddi 08:47 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Mae Donna Coleman o Llais, y corff cenedlaethol sy'n siarad ar ran cleifion, yn poeni am yr effaith ar adeg pan fo rhestrau aros y gwasanaeth iechyd eisoes yn fwy nag erioed.

    Meddai ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru yn gynharach: “Ni wedi deall bod pobl wedi cael eu hapwyntiad neu eu triniaeth wedi ei ganslo, ac mae’r sefyllfa hyn yn anffodus ac yn achosi pobl i ofidio.

    "Maen nhw wedi gwneud cynlluniau i fynd i’r apwyntiad neu fynd i’r ysbyty, falle mae rhai wedi cymryd gwyliau neu ddiwrnod off y gwaith, neu wedi gwneud trefniadau i rywun gasglu plant o’r ysgol neu ddarparu gofal i rywun yn y teulu.

    "Ac nawr achos y streic mae hyn i gyd lan yn yr aer. Beth sydd yn fwy pwysig yw bod byrddau iechyd yn helpu pobl sydd yn y sefyllfa yma."

    Ychwanegodd: "Mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau bod rhai sydd wedi eu heffeithio yn cael gwybod beth sydd yn digwydd nesaf.

    "Felly mae isie llinell gymorth i sicrhau bod pobl gael ffeindio mas beth sydd yn digwydd yn y dyfodol.

    "Achos mae pobl yn mynd yn grac os mae'n rhaid iddyn nhw aros am oesoedd, ac wedyn cael rhywbeth wedi ei ganslo, ac wedyn dy'n nhw ddim yn gwybod beth sydd yn digwydd nesaf."

    Disgrifiad,

    Donna Coleman: "Gofidio am deuluoedd sydd methu cael triniaeth"

  14. 'Gwastraff talent ifanc'wedi ei gyhoeddi 08:39 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    BBC Radio Cymru

    Fe ddywedodd Ariel, un o'r meddygon ifanc tu allan i Ysbyty Athrofaol Cymru, wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru pam ei bod yno yn protestio.

    “So’r tâl yn ddigon am y gwaith dwi yn gwneud," meddai. "So’r conditions gweithio yn ddigon da.

    "Dwi yn gwybod am lawer o bobl sydd wedi gadael y proffesiwn, ac mae hwnna yn dalent ifanc so ti am gael dod yn ôl. Mae’n wastraff hollol."

    Caerdydd
  15. 'Ni jyst eisiau tâl teg i feddygon'wedi ei gyhoeddi 08:33 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    BBC Radio Cymru

    Bu Dr Deiniol Jones, aelod o bwyllgor meddygon iau y BMA, yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru yn gynharach.

    "Mae'r tâl meddygon wedi gostwng 29% ers 2008, ni jesd eisiau tâl teg," meddai.

    "Ni angen adferio tâl, ni angen stopio meddygon sy'n gadael.

    "Yn anffodus mae meddygon yn gadael y wlad, fi'n nabod meddygon sydd wedi gadael meddygaeth.

    "Ni ddim moyn 'neud hyn, ni ddim moyn streicio. Ni wedi trio siarad efo Llywodraeth Cymru, ac nawr mae rhaid i ni 'neud rhywbeth."

    Wrth siarad am yr heriau sy'n wynebu'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, ychwanegodd ei fod yn "deall" ei bod hi'n wynebu "penderfyniadau anodd".

    "Ond mae ganddyn nhw ddewis, mae ganddyn nhw opsiynau - ni ddim yn gallu parhau fel 'ma," meddai."

    Disgrifiad,

    Dr Deiniol Jones yn siarad ar y linell biced tu allan i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd

  16. Gohirio 80% o lawdriniaethau a 75% o apwyntiadauwedi ei gyhoeddi 08:25 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi gohirio 80% o lawdriniaethau a 75% o apwyntiadau cleifion allanol oherwydd y streic.

    Mae bron i chwarter yr holl feddygon iau yng Nghymru yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sy'n darparu cyfran fawr o driniaethau arbenigol.

    Ysbyty Athrofaol Caerdydd yw'r ysbyty mwyaf yng Nghymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Ysbyty Athrofaol Caerdydd yw'r ysbyty mwyaf yng Nghymru

  17. Cefnogaeth gan yrwyr i'r streic ym Mangorwedi ei gyhoeddi 08:19 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Yn ôl ein gohebydd, Gareth Williams, sydd y tu allan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, mae nifer o yrwyr yn dangos eu cefnogaeth drwy ganu corn wrth basio.

    Mae'n dweud hefyd ei bod hi braidd yn oer i'r picedwyr peth cynta!

    Yn gynharach bu'n siarad gydag un o'r meddygon ar streic yno, Dr Catrin Davies.

    Disgrifiad,

    Dr Catrin Davies ar y linell biced yn Ysbyty Gwynedd Bangor

  18. Meddyg iau: 'Yn aml fi yw'r un mwyaf profiadol ar shift'wedi ei gyhoeddi 08:12 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Y tu allan i Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd bore 'ma dywedodd Ceri Haddon, sy'n gofrestrydd gofal dwys plant, bod angen "symud oddi wrth y teitl 'meddygon iau' gan nad yw'n ddisgrifiad teg" o'r swydd y mae meddygon yn ei chyflawni.

    "Pan ar shift nos dwi'n canfod mai fi yw'r aelod mwyaf profiadol yn yr adran," meddai.

    Dywedodd Chloe Knott, 37, y bydd bylchau yn y rota yr wythnos hon yn cael effaith ar ofal cleifion.

    Dywedodd hefyd mai dim ond ambell i gydweithiwr oedd yn gadael i weithio yn Awstralia pan ddechreuodd yn ei swydd, ond bellach mae grwpiau o feddygon yn cynllunio ar gyfer hynny.

    Ceri Haddon a Chloe Knott
    Disgrifiad o’r llun,

    Ceri Haddon a Chloe Knott y tu allan i Ysbyty Athrofaol Cymru fore Llun

  19. Y sefyllfa yng ngwledydd eraill y DUwedi ei gyhoeddi 08:01 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Er fod meddygon iau yn Lloegr wedi bod ar streic ar sawl achlysur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dyma'r tro cyntaf am flynyddoedd i feddygon iau yng Nghymru weithredu'n ddiwydiannol.

    Mae'r aelodau eisoes wedi cael codiad o 5% gan Lywodraeth Cymru sy'n is na'r 6% sy'n cael ei argymell gan y corff taliadau annibynnol.

    Yn Lloegr, mae meddygon iau wedi derbyn codiad gwerth 8.8% ond wedi gwrthod cynnig ychwanegol gwerth 3% ar gyfartaledd.

    Yn yr Alban mae cynnig gwell o 12.4% wedi'i dderbyn tra bod pleidlais ar y gweill yng Ngogledd Iwerddon.

    meddygonFfynhonnell y llun, PA Media
  20. Meddygon Ysbyty Glangwili hefyd ar streicwedi ei gyhoeddi 07:54 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr

    Mae meddygon yn Ysbyty Glangwili hefyd wedi ymuno â'r streic y bore 'ma, ac yn rhan o'r linell biced tu allan i'r ysbyty yng Nghaerfyrddin.

    Tu allan i'r Adran Cleifion Allanol, mae pump ohonyn nhw wedi bod ar y linell biced ers 06:00.

    'Byddai Bevan yn troi yn ei fedd' yw neges un placard gan y doctoriaid iau, sydd mewn hwyliau da yn ôl ein gohebydd Sara Rowlands, ac yn barod ar gyfer tridiau o streicio.

    Er gwaetha’r oerfel a chawodydd o eirlaw, mae paneidiau o de a choffi yn eu cadw’n gynnes wrth iddi oleuo tu allan i Ysbyty Glangwili.

    Ysbyty Glangwili