Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau yn y siambr wrth i feddygon iau - sy'n parhau â'u streic dros gyflogau - brotestio y tu allan i'r Senedd.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich 16 Ionawr

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

  2. Streic y meddygon iau dros gyflogauwedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich 16 Ionawr

    Meddygon iau mewn rali y tu allan i'r Senedd ddydd Mawrth
    Disgrifiad o’r llun,

    Meddygon iau mewn rali y tu allan i'r Senedd ddydd Mawrth

    Mae Mabon ap Gwynfor o Blaid Cymru yn cyfeirio at streic y meddygon iau dros gyflogau.

    Meddai, "dwi wedi siarad â nifer fawr o feddygon y tu allan i'r Senedd yma heddiw, ddoe yn Wrecsam Maelor, er enghraifft, ac mae nifer cynyddol yn sôn eu bod nhw am ddilyn eu ffrindiau i weithio yn Awstralia neu Seland Newydd neu du hwnt. Gyda chi'n dweud fel llywodraeth na allwch chi fforddio talu mwy, all yr NHS a Chymru fforddio i golli mwy o feddygon?"

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb "wrth gwrs rydym am weld gweision cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu talu’n iawn am y gwaith y maent yn ei wneud, ond mae’r cynnig yr ydym wedi’i wneud ar derfyn y cyllid sydd gennym at y diben hwn."

    Dechreuodd y streic am dridiau fore Llun yn dilyn anghydfod dros gyflogau gyda Llywodraeth Cymru, gyda channoedd o lawdriniaethau a miloedd o apwyntiadau wedi'u gohirio.

    Maen nhw eisoes wedi cael codiad o 5% gan Lywodraeth Cymru sy'n is na'r 6% sy'n cael ei argymell gan y corff taliadau annibynnol.

    Yn Lloegr, mae meddygon iau eisoes wedi cael codiad cyflog o 8.8%, ond wedi gwrthod cynnig ychwanegol gwerth 3% ar gyfartaledd. Yn yr Alban, mae cynnig gwell o 12.4% wedi’i dderbyn, tra bod pleidlais ar y gweill yng Ngogledd Iwerddon.

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  3. Mynediad at gyfiawnder: 'Sgandal' Swyddfa'r Postwedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich 16 Ionawr

    Dywed y prif weinidog fod "sgandal" Horizon yn “dangos ffactorau ehangach o ran mynediad at gyfiawnder”.

    Ychwanega’r prif weinidog, “mae gennym ni ymdeimlad o’r raddfa gan ein bod ni’n gwybod bod unigolion ym mhob rhan o Gymru – o Hwlffordd yn y de i’r gogledd – wedi cael eu heffeithio’n ddrwg gan y sgandal yma. Ond nid oes gennym niferoedd diffiniol oherwydd ein bod yn gwybod mai rhan o'r sgandal yw bod yna bobl ddieuog o unrhyw ddrwgweithredu wedi teimlo rheidrwydd i bledio'n euog i drosedd."

    Rhwng 1999 a 2015, cafodd mwy na 900 o is-bostfeistri Swyddfa’r Post eu herlyn am ladrad a chyfrifo ffug ar ôl i arian ymddangos fel petai ar goll o’u canghennau, ond roedd yr erlyniadau’n seiliedig ar dystiolaeth o feddalwedd diffygiol Horizon.

    Aeth rhai is-bostfeistri i garchar ar gam, a chafodd llawer eu difetha'n ariannol. Mae rhai wedi marw ers hynny.

    Mr Bates vs Swyddfa'r PostFfynhonnell y llun, ITV
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae drama ITV Mr Bates vs The Post Office wedi adnewyddu diddordeb y cyhoedd yn y sgandal fel erioed o'r blaen

  4. Terfyn cyflymder 20myawedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich 16 Ionawr

    Dywed y Ceidwadwr Gareth Davies fod y terfyn cyflymder rhagosodedig newydd 20mya mewn ardaloedd adeiledig yng Nghymru eisoes yn arwain at ddileu gwasanaethau bysiau ac mae’n beirniadu anghysondeb rhwng awdurdodau lleol wrth weithredu eithriadau.

    Mae'r prif weinidog yn ateb "yn ogystal â llai o farwolaethau ac anafiadau, gallwn ddisgwyl cynnydd mewn beicio a cherdded, a gwelliannau yn iechyd y cyhoedd".

    Ychwanegodd y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y canllawiau'n glir.

    20myaFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Rhyddhad ardrethi busneswedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich 16 Ionawr

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl am gynlluniau i dorri rhyddhad ardrethi busnes o 75% i 40%, dolen allanol.

    "Mae Cymru angen llywodraeth sy'n cefnogi busnes er mwyn trio creu ffyniant economaidd a thegwch cymdeithasol, ac mae'n cymunedau ni angen stryd fawr sydd yn ffynnu," meddai.

    Atebodd Mr Drakeford ei fod yn "gynllun rhyddhad dros dro; mae bellach yn ei bumed flwyddyn. Mae wedi rhoi mwy na £1 biliwn mewn rhyddhad ardrethi ychwanegol i'r sector y mae arweinydd Plaid Cymru yn cyfeirio ato, ac yng Nghymru, bydd y rhyddhad hwnnw'n parhau, nid ar 75 y cant, ond ar lefel a fydd, yn ein barn ni, yn caniatáu i’r sector fynd ymlaen i gael budd buddsoddiad cyhoeddus pellach, ar lwybr, fel y mae’n anochel yn gorfod bod, i’r diwrnod pan ddaw’r cynllun dros dro hwn i ben."

    Wedi pwyso pellach gan Rhun ap Iorwerth, mae’r prif weinidog yn dweud “ni fyddwn yn ailystyried y penderfyniad hwnnw oni bai y gall Plaid Cymru ddweud wrthyf o ble mae’r arian sydd wedi’i ddargyfeirio o ryddhad ardrethi busnes i gefnogi llawer o raglenni eraill, gan gynnwys llawer o’r rhaglenni y mae aelodau Plaid Cymru yn dweud wrthyf wythnos ar ôl wythnos fod yn rhaid i ni ddod o hyd i fwy o arian ar eu cyfer - os bydd yn dweud wrthyf o ble mae'r arian hwnnw i ddod."

    Yn y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, yn ogystal â chyhoeddi cynlluniau i dorri rhyddhad ardrethi busnes o 75% i 40%, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai ardrethi busnes yn codi 5%.

    Yn Lloegr bydd rhyddhad ardrethi yn parhau i fod yn 75%.

    Mae UK Hospitality wedi dweud y gallai tafarn neu fwyty Cymreig nodweddiadol nawr dalu £6,800 yn fwy ar gyfartaledd na busnesau tebyg yn Lloegr.

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhun ap Iorwerth

  6. Pwysau’r gaeaf yn y GIGwedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich 16 Ionawr

    Wrth gael ei holi gan Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, am adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a phwysau’r gaeaf yn y GIG, mae’r prif weinidog yn dweud bod "GIG Cymru wedi dangos, mewn rhai mesurau allweddol, bod pethau wedi bod yn well eleni, er gwaethaf y ffaith bod y galw yn sylweddol uwch. Felly, mae amseroedd aros ambiwlansys y tu allan i ysbytai yn is eleni nag oeddent y llynedd, a pherfformiad yn ein hadrannau achosion brys wedi bod yn well yn y ffigurau diwethaf a gyhoeddwyd na'r un adeg y llynedd".

    Mae Mr Davies yn gofyn, “sut y byddwch yn mynd i’r afael â’r her i wneud yn siŵr bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cael adnoddau priodol fel y gall ymgymryd â’i gwaith—ei gwaith hanfodol—yn cefnogi byrddau iechyd a gofal iechyd sylfaenol yn benodol i ddarparu’r ystod o wasanaethau ar draws Cymru, ac yn y pen draw ymateb i bryderon sydd gan bobl pan fyddant yn dod o hyd i ddiffygion yn y gwasanaethau a ddarperir?"

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “y gyllideb sydd wedi’i gosod o flaen y Senedd yw’r gyllideb anoddaf i ni erioed orfod ei gosod, ac mae yna ddewis i’w wneud, ac yma gallwch chi weld y dewis sydd o’ch blaen chi. Y Ceidwadwyr, drwy eu harweinydd, yn dweud y byddent yn buddsoddi mwy yng ngwasanaethau'r arolygiaeth. Rydym wedi penderfynu buddsoddi mwy yn y gwasanaethau eu hunain."

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  7. Brexitwedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich 16 Ionawr

    Laura Anne Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Laura Anne Jones

    Wrth gael ei holi gan ei gydweithiwr Llafur Jayne Bryant am effaith Brexit, mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn ateb bod "gadael y farchnad sengl wedi gwaethygu amodau masnachu gydag Ewrop, er anfantais i fusnesau a defnyddwyr ledled Cymru".

    Mae hefyd yn beirniadu “methiant llywodraeth y DU i gyfateb mwy na £1 biliwn o gyllid yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, tra bod dadansoddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dod i’r casgliad y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn crebachu economi’r DU 4 y cant.”

    Mae'r Ceidwadwr Laura Anne Jones yn ateb bod y "mwyafrif o bobl wedi pleidleisio dros Brexit yng Nghymru" a bod "Brexit wedi cyflawni myrdd o gytundebau masnach".

    Yn ei dro, mae'r prif weinidog yn ateb "mae'r myrdd o gytundebau masnach y mae'r aelod yn cyfeirio atynt, yn bennaf, yn rhai oedd eisoes ar gael i ni ar delerau gwell tra roeddem y tu mewn i'r Undeb Ewropeaidd".

    Baneri Cymru/UEFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Croesowedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich 16 Ionawr

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.