a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Newydd dorriFfordd Blaenau'r Cymoedd wedi ailagor

    Mae ffordd Blaenau'r Cymoedd bellach wedi ailagor.

    Yn gynharach roedd hi ar gau ger Cefncoedycymer wedi i goeden ddisgyn - mae'r goeden bellach wedi'i symud.

  2. Pa rybuddion sydd mewn grym?

    Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer y DU gyfan tan 12:00 heddiw.

    Fe ddaeth y rhybudd oren am wyntoedd cryfion a'r rhybudd melyn am law trwm i ben am 06:00 fore Llun.

  3. Y ffordd rhwng Bala a Llandderfel ar gau

    Ar y cyfryngau cymdeithasol mae rhai wedi bod yn rhoi adroddiadau am y ffyrdd o'u cwmpas.

    Mae'r ffordd rhwng Bala a Llandderfel wedi cau yn sgil y tywydd garw, fel y noda Sioned Webb.

    View more on twitter
  4. Dros 30 rhybudd llifogydd 'llai difrifol hefyd'

    Cyfoeth Naturiol Cymru

    Mae Rhybudd Llifogydd yn golygu bod disgwyl llifogydd a bod angen gweithredu.

    Fore Llun am 07:30 dywed Cyfoeth Naturiol Cymru bod yna dros 30 rhybudd arall mewn grym - rhai sy'n llai difrifol.

    Yn gynharach roedd yna rybudd i bobl sy'n cerdded ar lwybrau i fod yn ofalus "gan y gallai gwyntoedd cryfion achosi i goed a changhennau ddisgyn".

    View more on twitter
  5. Pedwar rhybudd llifogydd fore Llun

    Cyfoeth Naturiol Cymru

    Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod pedwar rhybudd llifogydd mewn grym fore Llun sef ar

    • Afon Nedd yn Aberdulais;
    • Afon Wysg o Aberhonddu hyd at Langrwyne;
    • Afon Conwy ger Ffordd Gwydir;
    • ac Afon Clydach Isaf wrth Bont Clydach.
  6. 'Cael fy nargyfeirio i Gaeredin!'

    Cafodd hediadau o Amsterdam a Chaeredin oedd i fod i lanio ym Maes Awyr Caerdydd nos Sul eu canslo wrth i'r tywydd waethygu.

    Ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd un o gyflwynwyr y BBC - Jennifer Jones - na fydd hi'n cyflwyno ddydd Llun gan ei bod yng Nghaeredin yn lle Bryste!

    Cafodd yr awyren yr oedd hi'n teithio ynddi ei dargyfeirio ond ychwanegodd ei bod hi a'i ffrindiau yn ddiogel.

    Jennifer Jones
  7. Trafferthion ar ffordd Blaenau'r Cymoedd

    Mae ffordd Blaenau'r Cymoedd wedi ei rhwystro i'r ddau gyfeiriad yng Nghefncoedycymer ger Merthyr am fod coeden wedi cwympo.

    Y cyngor yw i osgoi'r ardal.

  8. Pont Britannia bellach wedi ailagor

    Dywed Traffig Cymru bod Pont Britannia bellach wedi ailagor i draffig ac eithrio beiciau, beiciau modur a charafanau.

    Mae cyfyngiad cyflymder 30mya yn parhau i'r holl draffig.

    Nos Sul bu'n rhaid cau'r bont rhwng Gwynedd a Môn rhwng 16:00 a hanner nos oherwydd y pryderon am wyntoedd cryfion.

    Pont Britannia
  9. 200 eiddo yn y de yn parhau heb drydan

    Yn ôl gwefannau'r National Grid a Scottish Power, roedd nifer o gartrefi ledled Cymru heb bŵer nos Sul.

    Ar un adeg roedd hyd at 3,000 o gartrefi heb drydan.

    Fore Llun mae'n ymddangos mai rhyw 200 eiddo sydd heb drydan yn y de - a hynny yn ardaloedd Abertawe, cymoedd de Cymru ac o gwmpas Castellnewydd Emlyn.

  10. Storm Isha yn taro Cymru

    Storm Isha yw'r ddiweddaraf i daro Cymru a'r DU.

    Dros nos roedd yna wyntoedd cryfion a chawodydd trymion ar draws Cymru gyda nifer heb drydan.

    Y diweddaraf a'r ymateb i'r storm ar ein llif byw - croeso aton ni.

    tywydd