Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich 23 Ionawr
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.
Mark Drakeford yn ateb cwestiynau, gan gynnwys ar gynlluniau Tata Steel i gau'r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot.
Alun Jones
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.
Mae Jenny Rathbone o'r blaid Lafur yn gofyn "pa sylwadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i lywodraeth y DU ynghylch canllawiau drafft y Swyddfa Gartref a fyddai'n caniatáu i brotestwyr gwrth-erthyliad fynd at fenywod sy'n mynychu clinigau erthyliad?"
Mae'r prif weinidog yn ateb bod yn rhaid gorfodi'r parthau 150 metr o amgylch clinigau erthyliad yng Nghymru a Lloegr na fyddai protestwyr yn gallu cael mynediad atynt, a gefnogwyd gan ASau yn San Steffan.
Ychwanegodd Jenny Rathbone, "mae’n gwbl arswydus ein bod yn dirwyn y cloc yn ôl i alluogi pobl i gael eu haflonyddu ar yr eiliad anoddaf honno. Mae’n siomedig iawn bod y canllawiau drafft hyn eisoes wedi’u rhoi i heddluoedd ac awdurdodau lleol er gwaethaf y bleidlais yn senedd y DU yn gwahardd hyn. Sut ar y ddaear y gallwn ymddiried yn llywodraeth y DU i ufuddhau i ddymuniadau ei senedd ei hun?"
Mae Mr Drakeford yn nodi bod yr Ysgrifennydd Cartref James Cleverly wedi dweud bod y canllawiau wedi’u drafftio cyn iddo ddod yn Ysgrifennydd Cartref, a’i fod wedi cytuno i gwrdd ag ASau i drafod eu pryderon ag ef, ac wedi ymrwymo y bydd yr holl safbwyntiau hynny’n cael eu hystyried cyn cyhoeddi fersiwn derfynol y canllawiau.
"Rwy'n sicr yn gobeithio y bydd hynny'n wir," meddai Mr Drakeford.
Wythnos ar ôl i’r meddygon iau fynd ar streic dros gyflogau a chynnal protest y tu allan i’r Senedd, mae Luke Fletcher o Blaid Cymru yn gofyn “pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at gynnig adferiad cyflog teg i feddygon iau?”
Atebodd Mr Drakeford "rydym wedi ymrwymo i'r egwyddor o adfer cyflog ar gyfer ein holl weithlu GIG ymroddedig. Mae Cymru a'r DU gyfan angen y cyllid sydd ei angen ar gyfer codiadau cyflog adferol. Mae ein cyllideb eleni yn caniatáu dim ond y cynnig sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd."
Cynhaliwyd y streic am dridiau yr wythnos ddiwethaf yn dilyn anghydfod dros gyflogau gyda Llywodraeth Cymru, gan achosi i gannoedd o lawdriniaethau a miloedd o apwyntiadau gael eu gohirio.
Mae’r meddygon iau eisoes wedi cael codiad o 5% gan Lywodraeth Cymru sy'n is na'r 6% sy'n cael ei argymell gan y corff taliadau annibynnol.
Yn Lloegr, mae meddygon iau eisoes wedi cael codiad cyflog o 8.8%, ond wedi gwrthod cynnig ychwanegol gwerth 3% ar gyfartaledd.
Yn yr Alban, mae cynnig gwell o 12.4% wedi’i dderbyn, tra bod pleidlais ar y gweill yng Ngogledd Iwerddon.
Dywed Luke Fletcher "roedd Plaid Cymru allan ar y llinellau piced gyda meddygon iau yr wythnos ddiwethaf ac roedd cryfder y teimlad yn amlwg. Mae erydiad cyflog o bron i draean ers 2008 wedi'i waethygu gan ddyledion mor uchel gan fyfyrwyr".
Mae'r prif weinidog yn addo y bydd yr adolygiad chwe mis o'r terfyn cyflymder rhagosodedig newydd o 20mya mewn ardaloedd adeiledig yng Nghymru yn "ystyrlon a gwybodus".
Mae'n esbonio, "Byddwn yn pwyso a mesur y dystiolaeth. Ac yna, byddwn yn gwneud dau beth. Lle mae angen cryfhau neu egluro'r canllawiau, dyna beth fyddwn ni'n ei wneud. Ac yna byddwn yn gwneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i roi’r canllawiau hynny ar waith mewn ffordd sy’n gyson ar draws Cymru gyfan.”
Dywed arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth "bod rhaid i lywodraeth bresennol Prydain, ac, o bosibl, llywodraeth Lafur yn y dyfodol agos, roi ymrwymiad llawer cliriach o barodrwydd i fuddsoddi llawer, llawer mwy na'r hyn sydd ar y bwrdd gan y lywodraeth bresennol na'r hyn sy'n cael ei addo gan Lafur pe bai nhw'n dod i rym."
Mae Mr Drakeford yn ateb "dwi'n siŵr os ydym ni yn mynd i gael pontio teg i'r dyfodol, bydd rhaid i ni gael mwy o arian ar y bwrdd i helpu yn y broses yna. Mae gan y Blaid Lafur gynllun - £3 biliwn mewn dyfodol dur yma yn y Deyrnas Unedig."
Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth, "Dydw i ddim yn meddwl bod £3 biliwn yn ddigon agos, chwaith. Mae'n well na'r £0.5 biliwn sydd ar y bwrdd gan y llywodraeth bresennol, ond nid yw llywodraeth y DU yn buddsoddi i helpu diwydiant i baratoi ar gyfer dyfodol glanach fel y mae llywodraethau mewn gwledydd Ewropeaidd eraill yn ei wneud.
"Mae cymorthdaliadau o €50 biliwn ar gael i helpu gweithgynhyrchwyr ynni-ddwys yn yr Almaen i drosglwyddo i dechnolegau niwtral o ran yr hinsawdd; mae €2.6 biliwn yn cael ei fuddsoddi mewn un rhanbarth yn unig i ddatgarboneiddio ei diwydiant dur gyda hydrogen. Mae'n rhaid i ni fod yn gosod y bar gymaint yn uwch."
Mae’r prif weinidog hefyd yn dweud ei fod yn "ddryslyd” na allai Rishi Sunak ddod o hyd i’r amser i gymryd galwad ganddo am Tata yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd Mr Drakeford fod y cyn-Brif Weinidog Theresa May wedi dod o hyd i amser pan gyhoeddodd Ford y byddai ei ffatri injan ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cau yn 2019.
Fe wnaeth Mr Drakeford y cais i Stryd Downing ddydd Gwener. Roedd Ysgrifennydd Cymru David TC Davies ar gael yn lle hynny.
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at gynlluniau Tata Steel i dorri 2,800 o swyddi o’i weithlu yn y DU a chau’r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot.
Mae’r prif weinidog yn dweud “mae’n newyddion dinistriol, rwy’n meddwl, i’r Deyrnas Unedig gyfan, oherwydd ni fydd unrhyw gapasiti gwneud dur cynhenid yn y Deyrnas Unedig os bydd cynlluniau’r cwmni’n mynd yn eu blaenau. Felly, nid yw’r llywodraeth hon wedi ymrwymo i gynllun y cwmni."
Dywed fod y cynigion a baratowyd gan yr ymgynghorwyr Syndex yn gynllun amgen "credadwy", gan ychwanegu "rwy'n dweud wrth y cwmni yr hyn yr wyf yn gwybod y mae eraill wedi'i ddweud: Rwy'n gobeithio na fyddant yn gwneud unrhyw benderfyniadau di-droi'n-ôl, oherwydd gydag etholiad cyffredinol yn digwydd eleni, mae yna ddyfodol amgen i’r diwydiant dur ar gyfer y Deyrnas Unedig, ac rwyf am i Bort Talbot fod yn rhan o hynny.”
Gofynnodd y tri undeb i Syndex baratoi cynllun datgarboneiddio amgen ar gyfer gweithrediadau Tata Steel yn y DU, a gymeradwywyd gan gynrychiolwyr Community, GMB ac Unite.
Fe’i cyflwynwyd i uwch reolwyr y cwmni gan gynrychiolwyr yr undebau yn Llundain ar 17 Tachwedd ac roedd yn ymwneud â chynnal un ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot gyda thua 700 o swyddi’n cael eu colli y mae’r undebau’n credu y gellid eu cyflawni drwy ddiswyddiadau gwirfoddol ac adleoli.
Dywed Mr Davies, “Rwy’n anghytuno â chynnig y cwmni ynghylch cau ffwrnais chwyth rhif 4. Rwy’n credu bod yna allu a llwybr i gadw’r ffwrnais chwyth honno ar agor”.
Ychwanegodd fod "Llywodraeth y DU wedi rhoi £0.5 biliwn ar y bwrdd ynghyd â £750 miliwn y cwmni i gadw'r gallu i wneud dur ym Mhort Talbot, gan ddiogelu cyfanswm o 17,000 o swyddi yn yr economi ehangach."
Mae Laura Anne Jones o'r blaid Geidwadol yn mynegi pryderon am nifer y lleoedd hyfforddi therapi lleferydd ac iaith sydd ar gael yng Nghymru.
Mae Mr Drakeford yn ateb bod asesiad blynyddol yn cael ei wneud a bod "cyllid ar gyfer hyfforddiant wedi cynyddu am naw mlynedd yn olynol".
Ychwanegodd ei fod yn cydnabod "y twf yn y galw am therapyddion lleferydd ac iaith, a gwyddom fod galwadau gwirioneddol am staff ychwanegol, yn enwedig pobl sy’n gallu cynnig gwasanaethau lleferydd ac iaith drwy gyfrwng y Gymraeg, er enghraifft.”
Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.
Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.