Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich 6 Chwefror
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Ymunwch â ni eto ar ôl toriad hanner tymor y gwanwyn.
Mark Drakeford yn ateb cwestiynau arweinwyr y gwrthbleidiau ac aelodau eraill o’r Senedd.
Alun Jones
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Ymunwch â ni eto ar ôl toriad hanner tymor y gwanwyn.
Agorodd y Llywydd Elin Jones drafodion drwy roi dymuniadau gorau’r Senedd i’r Brenin.
"Yn gyntaf, fel Senedd, dwi'n siŵr ein bod ni gyd yn awyddus i gyfleu ein dymuniadau gorau am wellhad llwyr i'r Brenin Charles wrth iddo gychwyn ar ei driniaeth canser."
Anfonodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, ei “ddymuniadau gorau at Ei Fawrhydi o feinciau’r Ceidwadwyr am adferiad buan, a’i ganmol am ddod yn gyhoeddus gyda'r cyflwr y mae'n ymladd, yn y gobaith y bydd yn dod â phobl eraill ymlaen i gael diagnosis cyflym".
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, "a gaf i ddymuno'n dda i'r Brenin ar ôl ei ddiagnosis o, a dymuno'n dda, wrth gwrs, i bob un sydd yn wynebu ac yn cael eu cyffwrdd gan ganser?"
Mae Mabon ap Gwynfor yn mynegi pryderon y gallai dwy ganolfan Ambiwlans Awyr Cymru gael eu cau, yn ôl adolygiad i'r gwasanaeth.
Mae'r adolygiad yn cynnwys cynnig ar gyfer cau safleoedd yn Y Trallwng ym Mhowys, a Chaernarfon yng Ngwynedd, gyda’r hofrenyddion brys yn cael eu hadleoli i ogledd-ddwyrain Cymru.
Dywed Mabon ap Gwynfor "bod y modelu'n dangos, drwy ganoli'r gwasanaeth, y byddai cymunedau gogledd Môn, Pen Llŷn, Meirionnydd, Maldwyn a gogledd Ceredigion oll yn colli allan yn sylweddol."
"Ni ddylid cyflwyno unrhyw gynllun ad-drefnu sydd yn peryglu pobl yn y cymunedau yma" meddai.
Mae Mr Drakeford yn ateb bod Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen annibynnol, ac "os yw'r gwaith yn dangos y gallwn ni gario 'mlaen gyda'r gwasanaeth sy'n bodoli nawr i bobl yng ngogledd Cymru, ac yn y gorllewin hefyd, ac hefyd, cael mwy o bobl i gael y gwasanaeth yn y dyfodol, gallaf i ddim dweud fy mod yn mynd i fod yn erbyn y casgliad yna".
Mae'r Ceidwadwr Altaf Hussain yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o "fethu" sicrhau cyflenwad digonol o dai i ddiwallu anghenion y boblogaeth.
Atebodd y prif weinidog, "Rwy'n derbyn bod y system dai o dan bwysau aruthrol. Dyna pam yr ydym yn buddsoddi'r swm uchaf erioed o arian i greu 20,000 o gartrefi newydd ar rent cymdeithasol yma yng Nghymru. Dyna pam yr ydym wedi cadw'r cynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru, sydd wedi cael ei ollwng yn Lloegr, dyna pam yr ydym wedi rhoi’r swm uchaf erioed o arian yng nghronfa datblygu eiddo Cymru a chronfa safleoedd segur Cymru, i wneud yn siŵr y gall adeiladu tai ddigwydd yma yng Nghymru.”
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn gofyn a yw'r prif weinidog yn cytuno y dylai cefnogi "trosglwyddiad cyfiawn" fod yn nod gan Lywodraeth Cymru i'r diwydiant amaeth yn ogystal ag i'r diwydiant dur.
Atebodd Mr Drakeford, "wrth i'r diwydiant dur wynebu cyfnod o drawsnewid, felly hefyd ffermio, a dyna'r daith yr ydym arni. Rydym yno i gefnogi cymunedau ffermio. Ond bydd y dyfodol yn wahanol i'r gorffennol."
Dywed Rhun ap Iorwerth fod "yn rhaid i amaethyddiaeth fod yn bartner wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd a darparu dyfodol bwyd diogel a chynaliadwy".
Mae'n apelio, "gweithiwch gyda'r sector mewn ysbryd sy'n teimlo fel cydweithrediad i'r sector".
Yn benodol ar y gofyniad am 10 y cant o orchudd coed, dywed "edrychwch eto ar yr effaith y mae hynny'n ei chael ar ddibrisiant tir, ar golli tir fferm cynhyrchiol, yr effeithiau ar lefelau da byw a chyflogaeth yn y diwydiant."
Mae’r prif weinidog yn ateb, “mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dangos ein bod wedi gwrando’n ofalus ar yr hyn y mae ffermwyr wedi’i ddweud, ond ni fyddwn yn cyfaddawdu ar y camau y byddwn yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod y wlad hon yn gwneud ein cyfraniad at newid hinsawdd, a bydd ffermio a rhannau gwledig Cymru yn cyfrannu at hynny".
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at achos menyw 91 oed gafodd ei gadael ar y llawr "fel darn o sbwriel" - yn ôl ei theulu ym Mhort Talbot - yn ystod arhosiad ambiwlans bron i 24 awr.
Mae Mr Davies hefyd yn tynnu sylw at drydariad gan newyddiadurwr y BBC, Jeremy Bowen a ddywedodd "gofynnodd ei meddyg i fy mam 86 oed fynd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd am 4pm ddoe i gael asesiad o haint difrifol ar y frest. Mae hi dal yno, yn eistedd ar gadair blastig caled drwy'r nos. Beth sy'n digwydd?"
Mae'r prif weinidog yn ateb, "dydw i byth mewn sefyllfa i wneud sylwadau ar achosion unigol, ni waeth faint o sylw sydd wedi'i dynnu atynt. Mae ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru wedi mynegi ei siom ynghylch y gwasanaeth yr oedd modd ei ddarparu, a bydd, yn ddiau, gwestiynau y bydd angen eu gofyn am y gwasanaeth, y cyngor a roddwyd ac yn y blaen, a byddant yn gwneud hynny.
"Ein nod, fel y gŵyr, yw gwneud yn siŵr bod pobl sy’n cael eu cyflwyno mewn adran damweiniau ac achosion brys yn cael eu gweld, eu trin a'u symud, naill ai y tu hwnt i'r gwasanaeth ei hun neu i ysbyty o fewn pedair awr."
Mae Mr Davies yn galw ar y prif weinidog i ymddiheuro i deuluoedd y ddau unigolyn.
Atebodd Mr Drakeford, "rwy’n ymddiheuro i unrhyw un nad yw eu profiad o GIG Cymru yn brofiad y byddem yn dymuno iddynt ei gael.”
Mae'r prif weinidog yn dweud y bydd Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn rhoi mwy o ddylanwad dros wasanaethau bysiau i bobl Cymru.
Dywed y bydd yn "diwygio'r system aflwyddiannus o ddadreoleiddio. Bydd hynny'n galluogi pob lefel o lywodraeth i weithio gyda'n cymunedau i ddylunio a darparu gwasanaethau bws sydd eu hangen arnynt."
Cynigiwyd deddf yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru bedair blynedd yn ôl, gyda phwerau i gynghorau fasnachfreinio, ochr yn ochr â phartneriaethau lle mae cynghorau yn gweithio gyda chwmnïau.
Mae'r AS Llafur Joyce Watson yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi banciau bwyd.
Yn ôl y prif weinidog, ers 2019 mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £18m i gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol.
Mae banciau bwyd yn derbyn bwyd nad yw'n ddarfodus ac eitemau hanfodol eraill sy'n cael eu rhoi gan wirfoddolwyr ac yna'n eu didoli'n barseli y gellir eu rhoi i'r rhai mewn angen.
Gall gweithwyr gofal proffesiynol fel ymwelwyr iechyd, staff ysgol a gweithwyr cymdeithasol nodi pobl sydd angen cymorth a rhoi taleb banc bwyd iddynt fel y gallant gasglu pecyn bwyd.
Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.
Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.