Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:37 Amser Safonol Greenwich 20 Chwefror
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.
Mark Drakeford yn ateb cwestiynau, gan gynnwys ar y "cynllun ffermio cynaliadwy" dadleuol.
Alun Jones
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.
Dywed y Ceidwadwr James Evans fod Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu a gwylltio ffermwyr gyda'u cynllun ffermio cynaliadwy.
Mae’n gofyn, “gyda’r colledion enfawr o 5,500 o swyddi, y golled o £200 miliwn i’r economi a’r gostyngiad enfawr yn niferoedd y da byw, a amlinellwyd gan asesiad effaith a gomisiynwyd gan y llywodraeth hon, sut y gall ffermwyr ymddiried ynoch chi a’r gweinidog materion gwledig pan ddywedwch y byddwch yn gwrando ar yr ymgynghoriad?"
Mae'r prif weinidog yn dweud bod newid, er yn "heriol", yn anochel oherwydd bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.
"Pan fydd newid yn digwydd, mae pobl yn bryderus. Rwy'n deall hynny. Dyna pam rydyn ni'n parhau i gael y sgyrsiau".
Ychwanegodd "rwy'n hyderus y bydd diwygiadau pellach i'r cynllun o ganlyniad i'r ymgynghoriad a'r sgyrsiau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd".
Mae'r Democrat Rhyddfrydol Jane Dodds yn galw am fwy o ystyriaeth i iechyd meddwl ffermwyr.
Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru yn codi mater “diogelwch safleoedd gwenwynig”, ac yn galw am fap a chofrestr o lefydd o’r fath yng Nghymru.
Mae'r prif weinidog yn ateb, "nid oes llwybr cyflym i'r gofrestr y mae'r aelod yn awgrymu, ond mae llwybr posibl a ddaw o flaen y Senedd yn ddiweddarach eleni" - y Bil pyllau glo segur.
Mae Laura Anne Jones o'r Ceidwadwyr Cymreig yn cyfeirio at chwarel Tŷ Llwyd ym mhentref Ynysddu, sir Caerffili, a ddefnyddiwyd yn y 1960au a'r 70au fel safle dympio gan y gwneuthurwr cemegau Monsanto sydd bellach wedi darfod. Mae pentrefwyr wedi cwyno yn gyson am hylif brown, ewynnog sy’n arogli’n fudr yn llifo o’r chwarel drwy’r coetir ar ôl glaw trwm, sydd wedi bod yn digwydd ers o leiaf 20 mlynedd, medden nhw.
Mae Mr Drakeford yn ateb "nid yw'r rheolyddwyr ar hyn o bryd yn ystyried bod risg i iechyd y cyhoedd yn Nhŷ Llwyd, ond mae'r awdurdod lleol - a wnaeth nodi'r chwarel hon fel achos pryder yn ôl yn y 1990au - mae'r awdurdod lleol wedi comisiynu Arcadis i wneud gwerthusiad opsiynau i edrych ar ffyrdd gwell yn y dyfodol o reoli trwytholch o'r safle."
Mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn dweud bod Mark Drakeford yn "methu" perswadio Keir Starmer o'r achos dros "gyllido teg i Gymru".
Meddai, "mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro nad yw Cymru'n cael ei hariannu'n deg, gallwn yn sicr gytuno ar hynny. Ond a yw'r Blaid Lafur yn cytuno - Plaid Lafur Keir Starmer - a yw'n cytuno nad yw Cymru'n cael ei hariannu'n deg? Pam nad yw'n addo unioni hynny, hyd yn oed ar rywbeth mor sylfaenol anghyfiawn â cholli biliynau o bunnoedd o arian canlyniadol HS2? A pham fod y prif weinidog yn methu â’i berswadio?"
Mae Mr Drakeford yn cyhuddo arweinydd Plaid Cymru o ofyn cwestiynau a fyddai'n fwy priodol i San Steffan.
Dywed, "mae gennym y cwestiwn hwn wythnos ar ôl wythnos ar ôl wythnos, lle mae'r aelod am ofyn cwestiynau i rywun nad yw yn y Senedd am gyfrifoldebau nad ydynt yn cael eu harfer yn y Senedd. Rwyf wedi dweud wrtho o'r blaen, mae yna le y gallai ofyn y cwestiynau hynny ac efallai y byddai'n well ganddo fod yno."
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at "ddicter, rhwystredigaeth a phryder dwfn" ffermwyr am Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Mae'n dweud bod "pob arolwg yn dangos am bob £1 sy'n cael ei gwario gan y trethdalwr ar gefnogi'r diwydiant amaethyddol mae rhwng £7 a £9 yn cael ei ddychwelyd mewn nwyddau cyhoeddus".
Mae'r prif weinidog yn ateb "bydd y cyhoedd yng Nghymru yn parhau i fuddsoddi mewn ffermio ac mae gan y cyhoedd hawl i weld elw ar y buddsoddiad hwnnw. Dyna hanfod y cynllun ffermio cynaliadwy. Ar frig y rhestr mae cynhyrchu bwyd cynaliadwy, ond, ochr yn ochr â hynny, mae pethau eraill, pethau pwysig iawn, y mae ffermwyr yn eu gwneud heddiw yr ydym am barhau i'w gwobrwyo am eu gwneud yn y dyfodol—yr holl bethau amgylcheddol.
"Felly, mae bargen yma."
Dywed Andrew RT Davies y bydd y cynllun fel y'i cynlluniwyd ar hyn o bryd "yn dibrisio ffermydd, yn arwain at golli swyddi ac yn difetha'r gallu i ddarparu bwyd y mae'r genedl ei angen ar gyfer y dyfodol".
Mewn ymateb dywed Mr Drakeford, "rwy'n meddwl ei bod yn bwysig fy mod yn atgoffa arweinydd yr wrthblaid pam ein bod yn y sefyllfa yr ydym ynddi: mae hynny oherwydd i ffermwyr Cymru gymryd ei gyngor a phleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd."
Mae cynigion Llywodraeth Cymru i ddisodli cymorthdaliadau ffermio ar ôl Brexit wedi sbarduno gwrthdystiadau a phrotestiadau.
Er mwyn cael mynediad bydd yn rhaid i ffermwyr ymrwymo i blannu 10% o'u tir gyda choed a chlustnodi 10% arall fel cynefin bywyd gwyllt.
Dywed Mabon ap Gwynfor bod niferoedd trais domestig yn y gogledd yn "frawychus".
Meddai, "mae 65 y cant o holl dor-cyfraith ardaloedd y gogledd yn ymwneud â thrais domestig. Mae mwy o achosion o drais domestig a thrais rhywiol yng ngogledd Cymru nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Gyfunol y tu allan i Lundain. Dyna pam fod gwaith Gorwel mor bwysig. Bydd y prif weinidog yn ymwybodol o Gorwel - rhaglen gan grŵp tai cymdeithasol Cynefin ydy Gorwel, sydd yn cael ei ariannu drwy'r grant cymorth tai".
Mae'n galw am warchod y grant cymorth tai i gynnal gwasanaethau i ddioddefwyr.
Mae'r prif weinidog yn ateb, "dwi'n ymwybodol o'r gwaith y mae Gorwel yn ei wneud, wrth gwrs. Mae'r ffigurau y mae'r aelod wedi cyfeirio atynt, mae'n anodd i'w clywed nhw. Ond un o'r rhesymau pam y mae ffigurau fel yna gyda ni yw achos bod asiantaethau fel Gorwel, a phobl eraill, yn codi ymwybyddiaeth ac yn rhoi hyder i bobl ddod ymlaen ac i adrodd pethau i'r heddlu, ac yn y blaen."
Mae'n ychwanegu, "pan mae'r arian sydd gyda ni ddim yn ddigonol i wneud popeth rŷn ni eisiau ei wneud fel llywodraeth, mae penderfyniadau anodd i'w gwneud".
Mae’r Ceidwadwr Russell George yn mynegi pryderon am doriadau cyllideb Llywodraeth Cymru i brentisiaethau.
Ymhlith y toriadau a wnaed fis Hydref diwethaf yng nghyllideb Llywodraeth Cymru - i symud arian i'r GIG ac i gadw trenau i fynd - roedd £17.5m yn llai ar gyfer prentisiaethau.
Yn ôl y prif weinidog mae'r llywodraeth yn parhau i wneud "buddsoddiad sylweddol" mewn prentisiaethau, £138m yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.
Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.