Crynodeb

  • Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig yn dod i Gymru am y tro cyntaf ddydd Mawrth

  • Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu i ystyried parodrwydd ac ymateb y DU i bandemig Covid-19, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol

  • Fe ddefnyddiodd y gweinidog iechyd Vaughan Gething negeseuon a oedd yn diflannu yn ystod y pandemig, mae'r ymchwiliad wedi clywed

  • Fideo pwerus yn agor y gwrandawiad yng Nghaerdydd, gyda phobl ledled Cymru yn sôn am y boen o golli anwyliaid yn ystod y pandemig

  • Arbenigwyr, swyddogion a gwleidyddion i gael eu holi am "benderfyniadau craidd" a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig

  • Bydd yr ymchwiliad yn clywed tystiolaeth yng Nghymru o 27 Chwefror i ddydd Iau 14 Mawrth

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Heddiw, daeth Ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig i Gymru am y tro cyntaf.

    Fe ddechreuodd y diwrnod gyda fideo pwerus, gyda phobl ledled Cymru yn sôn am y boen o golli anwyliaid yn ystod y pandemig.

    Dyna, mae'n debyg, fydd yn aros yn y cof yn fwy na dim. Mae modd gwylio clip o'r fideo yma.

    Ond fe roedd pytiau eraill o dystiolaeth arwyddocaol hefyd - yn enwedig awgrym fod Llywodraeth Cymru yn amharod am y pandemig, a bod Vaughan Gething - sy'n anelu i fod yn Brif Weinidog Cymru - wedi dileu negeseuon WhatsApp.

    Bydd uwch swyddogion Llywodraeth Cymru yn cael dweud eu dweud dros y tair wythnos nesa', a hefyd, wrth gwrs, nifer o bobl a gollodd anwyliaid.

    Ond am y tro, dyna ddiwedd ar ein llif byw arbennig heddiw. Diolch am ymuno efo ni a hwyl fawr.

  2. Diwedd ar y dystiolaeth - am heddiwwedi ei gyhoeddi 16:41 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    A dyna ni am heddiw - mae'r gwrandawiad wedi dod i ben.

    Ar ddiwedd diwrnod hir o roi tystiolaeth, fe gyfeiriodd Mr Kinnier at ddefnydd gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru o WhatsApp.

    Dywed nad oedd gweinidogion na swyddogion yn defnyddio WhatsApp nac unrhyw ffordd arall o gyfathrebu'n anffurfiol fel sail i'r broses o wneud penderfyniadau.

    Gallwn ddisgwyl i hyn gael mwy o sylw dros yr wythnosau nesa.

  3. Llywodraeth Cymru'n croesawu'r ymchwiliadwedi ei gyhoeddi 16:37 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Andrew Kinnier KC fydd yn cloi'r sesiwn heddiw.

    Mae e'n cynrychioli Llywodraeth Cymru, ac mae'n agor ei gyfraniad drwy groesawu'r ymchwiliad i Gymru.

    Dywed hefyd bod y llywodraeth yn croesawu'r craffu sydd i ddod yn sgil y penderfyniadau a gafodd eu gwneud yn ystod y pandemig.

    Mae'n darllen rhan o ddatganiad ysgrifenedig Prif Weinidog Cymru i'r ymchwiliad ble mae Mark Drakeford yn dweud ei fod yn cydymdeimlo gyda phob un a gollodd rhywun yn agos atyn nhw yn ystod y pandemig.

  4. Gething: 'Popeth sydd gen i wedi ei roi i'r ymchwiliad'wedi ei gyhoeddi 16:29 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Dewch i ni ddychwelyd yn sydyn at sylw gafodd ei wneud yn gynharach y prynhawn yma gan Nia Gowman ar ran Covid-19 mewn Profedigaeth Teuluoedd er Cyfiawnder Cymru.

    Fe ddywedodd hi wrth yr ymchwiliad bod Vaughan Gething - y gweinidog iechyd pan darodd Covid - yn defnyddio negeseuon a oedd yn diflannu yn ystod y pandemig.

    Mae Vaughan Gething yn un o'r ddau ymgeisydd sy'n rhan o'r ras i olynu Mark Drakeford fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru.

    Yn ystod hystings BBC Cymru yr wythnos diwethaf, dyma oedd gan Mr Gething i'w ddweud am ei negesuon WhatsApp yng nghyd-destun yr ymchwiliad hwn: "Mae popeth sydd gen i wedi ei roi i’r ymchwiliad."

    Yn sgil y sylwadau heddiw bydd nifer yn awgrymu bod Mr Gething wedi geirio'r ateb yna'n ofalus iawn.

    Bydd yna gyfle iddo ddweud mwy pan y daw ei dro e i ymddangos o flaen yr ymchwiliad.

    Un ai Jeremy Miles neu Vaughan Gething fydd Prif Weinidog nesaf Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Naill ai Jeremy Miles neu Vaughan Gething fydd Prif Weinidog nesaf Cymru

  5. 'Pobl llai cefnog oedd fwyaf bregus'wedi ei gyhoeddi 16:09 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Wedi egwyl fer mae'r ymchwiliad yn clywed gan Sam Jacobs ar ran TUC Cymru sy'n cynrychioli undebau llafur.

    Mae e wedi bod yn trafod profiadau pobl o fod yn y gwaith yn ystod y pandemig, gan gynnwys gweithwyr y gwasanaeth iechyd.

    Mae e hefyd yn dychwelyd at thema sydd wedi bod yn amlwg drwy gydol y dydd, sef anghydraddoldeb.

    Dywed taw'r bobl leiaf cefnog, ac o dan yr anfantais fwyaf, oedd fwya’ bregus yn ystod y pandemig ac a dalodd y pris mwyaf.

    Dywed hefyd bod undebau llafur wedi gweld "tystiolaeth gyson" yn ystod y pandemig bod nifer o gyflogwyr wedi methu a chymryd camau i ddiogelu gweithwyr rhag y feirws.

  6. 'Gobeithio na welwn ni fyth ddim byd fel hyn eto'wedi ei gyhoeddi 15:52 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Ar ddechrau'r gwrandawiad heddiw, fe glywodd yr ymchwiliad gan bobl ar hyd a lled Cymru a oedd wedi colli aelodau o'u teulu yn ystod y pandemig.

    Dyma bwt o'r fideo pwerus a gafodd ei ddangos y bore 'ma:

  7. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru?wedi ei gyhoeddi 15:26 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Drwy gydol y dydd rydyn ni wedi clywed am yr holl gwestiynau y bydd gan Lywodraeth Cymru i'w hateb dros yr wythnosau nesa.

    Mae rhai hefyd wedi beirniadu ymateb y llywodraeth i'r pandemig.

    Bydd yna gyfle i weinidogion a swyddogion y llywodraeth ymateb i hynny oll maes o law, ond am y tro mae llefarydd swyddogol Prif Weinidog Cymru wedi rhoi datganiad i ni:

    "Fyddwn ni ddim yn gwneud sylw ar faterion yn ymwneud â'r ymchwiliad tra bod y gwrandawiadau'n digwydd.

    "Bydd gweinidogion a swyddogion y llywodraeth yn rhoi tystiolaeth fanwl dros yr wythnosau i ddod.

    "Rydym ni wedi ei gwneud hi'n glir ein bod ni'n parhau i gydweithio'n llawn gyda'r ymchwiliad i sicrhau bod pob gweithred a phenderfyniad yn cael ei graffu'n gywir."

  8. 'Argyfwng i bobl anabl'wedi ei gyhoeddi 15:18 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Mae'r ymchwiliad wedi clywed hefyd gan Danny Friedman ar ran Anabledd Cymru.

    Dywed y bydd yr ymchwiliad yn gorfod ystyried "argyfwng i ddatganoli" ac "argyfwng i bobl anabl".

    Mae'n cyfeirio at ffigyrau o haf 2020 sy'n dangos bod 68% o’r bobl fu farw o Covid yng Nghymru ag anabledd.

    Roedd hyn yn uwch na'r ffigwr ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei gyfanrwydd, meddai

  9. 'Stori iechyd bwysig - a stori wleidyddol fawr'wedi ei gyhoeddi 15:03 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Owain Clarke
    Gohebydd Iechyd BBC Cymru

    Yr hyn sy'n amlwg mor belled yw pa mor eang ac amrywiol yw'r cwestiynau sy'n cael eu hystyried gan yr ymchwiliad.

    Ar yr un llaw mae 'na gwestiynau am benderfyniadau wnaeth effeithio'n uniongyrchol ar iechyd a lles pobl.

    A oedd Llywodraeth Cymru wedi ystyried pa mor fawr oedd bygythiad Covid yn ystod y dyddiau cynnar?

    Pam gafodd cleifion eu rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal heb gael profion?

    Pa mor ymwybodol oedd gweinidogion fod y gwasanaeth iechyd ar adegau yn rhedeg mas o gyfarpar diogelwch (PPE) ac oedden nhw'n gwneud digon i ymateb i hynny?

    Ond ynghyd â'r cwestiynau hynny am bolisi, mae 'na gwestiynau mawr hefyd am ymddygiad rhai unigolion o fewn Llywodraeth Cymru a pa mor dryloyw ma' nhw wedi dewis bod.

    Er enghraifft, yr honiad fod y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Vaughan Gething - yn ogystal ag ymgynghorwyr arbennig - wedi dileu negeseuon WhatsApp.

    Dyna pam mae'r ymchwiliad hwn yn stori iechyd bwysig ond hefyd yn stori wleidyddol fawr.

  10. 'Any Welsh passages from you?'wedi ei gyhoeddi 14:55 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Wrth gloi ei chyfraniad, mae Ms Gowman yn defnyddio ymadrodd Cymraeg arall: "Adfyd a ddwg wybodaeth, a gwybodaeth ddoethineb."

    Dywed ei bod hi'n gobeithio y bydd gwersi'n cael eu dysgu o'r dystiolaeth sydd i ddod dros yr wythnosau nesa.

    Wrth wahodd y llefarydd nesa i annerch yr ymchwiliad, mae'r Farwnes Hallett yn gofyn iddo: "Any Welsh passages from you?"

    Nia Gowman
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Nia Gowman yn cynrychioli grŵp Covid-19 mewn Profedigaeth Teuluoedd er Cyfiawnder Cymru

  11. 'Canlyniad dinistriol'wedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Wrth sôn am y pryder am drosglwyddiad asymptomatig, dywedodd Nia Gowman bod hyn wedi cael "canlyniad dinistriol" ar ôl i Lywodraeth Cymru benderfynu rhyddhau cleifion o ysbytai i gartrefi gofal heb iddyn nhw gael profion Covid, a hyn yn ôl canllawiau gan Lywodraeth Cymru ar 8 Ebrill 2020.

    Dywedodd Ms Gowman bod y broses o brofi cleifion oedd yn gadael ysbytai i fynd i gartrefi gofal wedi digwydd yn hwyrach yng Nghymru nag yn Lloegr.

    Yn ogystal nid oedd staff na phobl mewn cartrefi gofal wedi bod yn cael eu profi tan Mai 2020 – hyn eto yn hwyrach na'r tair gwlad arall o fewn y DU.

    Pam, gofynnodd Nia Gowman, bod Llywodraeth Cymru yn arafach na llywodraethau eraill cyn profi pobl er mwyn sicrhau bod trosglwyddiad asymptomatig yn cael ei osgoi?

  12. 'Gŵr heb bwyll yw llong heb angor'wedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Dywed Ms Gowman bod gan Lywodraeth Cymru nifer o gwestiynau i'w hateb, felly hefyd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

    Wrth droi ei sylw at Mr Drakeford, defnyddiodd yr ymadrodd Cymraeg: "Gŵr heb bwyll yw llong heb angor."

    Bydd angen i'r ymchwiliad ystyried, meddai, pa mor effeithiol y gwnaeth Mr Drakeford lywio'i long drwy storm y pandemig ac a wnaeth ei gabinet a'i gynghorwyr ei wasanaethu'n dda.

    Mae Ms Gowan yn mynd yn ei blaen i orffen ei datganiad yn y Gymraeg...

  13. WhatsApp: Cyhuddo Gething a Drakefordwedi ei gyhoeddi 14:26 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Fe ddefnyddiodd y gweinidog iechyd Vaughan Gething negeseuon a oedd yn diflannu yn ystod y pandemig, mae'r ymchwiliad wedi clywed.

    Ychwanegodd Nia Gowman fod y "negeseuon cyfyngedig" a gafodd eu datgelu yn dangos WhatsApp a negeseuon testun a oedd yn cael eu defnyddio i drafod busnes Llywodraeth Cymru "lle na ddylen nhw fod wedi bod".

    "Maen nhw'n dangos i uwch gynghorwyr arbennig Llywodraeth Cymru ddileu cyfathrebiadau yn amheus ac yn systematig," meddai.

    Mae negeseuon yn dangos cynghorwyr arbennig i weinidogion yn atgoffa eu hunain i "glirio sgyrsiau WhatsApp unwaith yr wythnos", meddai Ms Gowman.

    Vaughan Gething oedd y Gweinidog Iechyd pan darodd y feirwsFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Vaughan Gething oedd y Gweinidog Iechyd pan darodd y feirws

    Dywedodd ei fod yn dangos "y Cynghorydd Arbennig uchaf i Brif Weinidog Cymru, a Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd yn troi negeseuon sy'n diflannu ymlaen".

    Er iddo ddweud wrth y Senedd nad oedd yn defnyddio WhatsApp, roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ei ddefnyddio'n rheolaidd i drafod cyhoeddi polisi a cheisio eglurhad ar y rheolau, meddai Ms Gowman.

    Dywedodd y byddai unrhyw lywodraeth "dan bwysau i gyd-fynd â’r arddangosiad ysgytwol o haerllugrwydd a gwenwyndra llywodraeth ganolog yn San Steffan ar yr adeg dyngedfennol honno".

    Ond dywedodd fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru "gael eu barnu nid yn unig o gymharu â'r hyn sy'n digwydd yn San Steffan, ond yn ôl eu safonau eu hunain".

    Dywedodd fod y grŵp yn parhau i fod yn "siomedig braidd" oherwydd diffyg ymchwiliad Cymreig.

  14. Y gwrandawiad yn ailddechrauwedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Nia Gowman sy'n cychwyn sesiwn y prynhawn.

    Mae hi'n siarad ar ran Covid-19 mewn Profedigaeth Teuluoedd er Cyfiawnder Cymru, sef mudiad sy'n cynrychioli pobl a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig.

    Mae hi'n dweud bod gan y grŵp "bryderon sylweddol" am ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig a'u bod nhw'n "ystyried bod camgymeriadau niweidiol" wedi eu gwneud.

  15. 'Carreg filltir'wedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Wrth i'r gwrandawiad ailddechrau, mae teuluoedd y rhai sy’n galaru wedi galw heddiw yn "garreg filltir".

    Dywedodd y grŵp Covid-19 mewn Profedigaeth Teuluoedd er Cyfiawnder Cymru fod hwn yn gam pwysig ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud i beidio a chael ymchwiliad Cymreig penodol.

    Mewn cynhadledd i'r wasg heddiw, a gafodd ei gynnal ar y cyd ag Ymgyrch John ac Anabledd Cymru, roedd rhai o’r teuluoedd yn dal lluniau o anwyliaid a gollwyd yn ystod y pandemig.

    Roedden nhw hefyd yn cwestiynu eto pam na fu ymchwiliad penodol i Gymru i wynebu cwestiynau y maen nhw daer eisiau atebion iddyn nhw.

  16. 'Mae e dal yn fyw yn y cof'wedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Disgrifiad,

    Collodd Aled Davies ei frawd Gerallt yn ystod y pandemig

    Dros yr wythnosau diwethaf, yn arwain i fyny at yr ymchwiliad, mae BBC Cymru wedi siarad gyda phobl a gafodd eu heffeithio gan y pandemig.

    Yn eu mysg, mae teulu'r aelod cyntaf o Wasanaeth Ambiwlans Cymru i farw ar ôl dal y feirws.

    Bu farw Gerallt Davies yn 51 oed yn Ebrill 2020 - roedd yn barafeddyg yng ngorsaf Cwmbwrla yn Abertawe.

    Ym marn brawd Gerallt, Aled Davies, doedd yna ddim paratoadau addas yn y DU ar gyfer delio ag argyfwng fel lledaeniad coronafeirws.

    Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd swyddogion yn rhoi tystiolaeth fanwl dros yr wythnosau i ddod.

  17. Ble ydyn ni arni?wedi ei gyhoeddi 13:39 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Cemlyn Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae'r gwrandawiad wedi torri ar gyfer egwyl ginio sy'n rhoi cyfle i ni grynhoi'r hyn rydyn ni wedi ei glywed hyd yma.

    Fe ddechreuodd y sesiwn heddiw gydag atgof i bawb o gost ddynol y pandemig ar ffurf fideo hynod bwerus yn cynnwys cyfweliadau gydag unigolion yn rhannu eu profiadau nhw o'r pandemig.

    Ers hynny ry'n ni wedi cael amlinelliad manwl o'r holl benderfyniadau gafodd eu gwneud yng Nghymru - ac ar gyfer Cymru - drwy gydol y pandemig.

    A thrwy hynny, ry'n ni wedi cael syniad o faint y dasg sy'n wynebu'r ymchwiliad hwn dros y tair wythnos nesa, a'r holl gwestiynau fydd yna i'w hateb.

    Cymru v Yr Alban, cartrefi gofal, ysgolion, y cyfnod clo cyntaf, y cyfnod clo byr, cyfyngiadau dros y Nadolig. Dyma i chi rai o'r pynciau gafodd eu crybwyll gan Tom Poole KC y bore 'ma, ac ynghyd a phob pwnc, cyfres o gwestiynau.

    Dros yr wythnosau nesaf bydd disgwyl i weinidogion ac ymgynghorwyr Llywodraeth Cymru geisio ateb y cwestiynau hynny, ac egluro'r penderfyniadau pell-gyrhaeddol gafodd eu gwneud yng Nghymru yn ystod y pandemig.

  18. Negeseuon testun a WhatsApps 'wedi'u dileu'wedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Mae "achlysuron lle mae'r ymchwiliad wedi derbyn tystiolaeth" bod ffyrdd o gyfathrebu anffurfiol fel negeseuon testun neu WhatsApps wedi cael eu dileu, meddai Tom Poole wrth yr ymchwiliad.

    Nid yw'n glir pwy sydd wedi eu dileu, meddai.

    Mae cannoedd o negeseuon wedi’u datgelu gan "nifer o grwpiau negeseuon", meddai Mr Poole, er iddo ddweud nad oedd yn ymddangos bod negeseuon testun na WhatsApps yn cael eu defnyddio fel dewis arall yn lle prosesau gwneud penderfyniadau ffurfiol.

    "Mae’r negeseuon yn taflu goleuni ar ac yn rhoi cyd-destun perthnasol i rai o'r penderfyniadau allweddol y bydd yr ymchwiliad yn eu harchwilio yn y modiwl hwn," meddai Mr Poole.

    "Mae yna achosion lle mae’r ymchwiliad wedi derbyn tystiolaeth bod cyfathrebiadau anffurfiol wedi cael eu dileu gan y cyfranogwyr.

    "Bydd yr ymchwiliad yn dymuno gwybod pam a sut nad yw negeseuon o'r fath bellach ar gael i'w harchwilio."

    Mae'r gwrandawiad wedi dod i ben ar gyfer toriad cinio - bydd yn ailddechrau am 14:00, ond fe fydd llif Cymru Fyw yn parhau yn y cyfamser

  19. Clo Nadolig 2020 yn 'un o'r penderfyniadau anoddaf'wedi ei gyhoeddi 13:14 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Mae Mr Poole wedi bod yn trafod penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfnod clo yn fuan cyn Nadolig 2020 - ar 19 Rhagfyr.

    Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig i'r ymchwiliad, mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod hwn yn un o'r "penderfyniadau anoddaf" y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei wneud drwy gydol y pandemig.

    Mae'r gwrandawiad wedi dod i ben ar gyfer toriad cinio - bydd yn ailddechrau am 14:00, ond fe fydd llif Cymru Fyw yn parhau yn y cyfamser

    Caerdydd, Nadolig 2020Ffynhonnell y llun, Getty Images
  20. 'Sunak wedi gwadu fod y DU yn rhoi Lloegr yn gyntaf'wedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Dywedodd Tom Poole wrth yr ymchwiliad fod Rishi Sunak - y Prif Weinidog presennol a'r Canghellor yn ystod cyfnod y pandemig - wedi gwadu fod Llywodraeth y DU yn gweithredu ar gyfer Lloegr tra'n gwneud penderfyniadau ariannol.

    Ychwanegodd y byddai'r ymchwiliad yn edrych ar y trefniadau ariannol rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r llywodraethau datganoledig, ac hefyd amseriad y cyfnod clo byr.

    Cafodd cyngor ei roi ym mis medi 2020 y byddai angen cyfnod clo byr ond ni chafodd ei weithredu tan ddiwedd Hydref.

    Gofynnodd Mr Poole: "Gan fod 'na gyngor wedi ei roi ym mis Medi 2020 fod angen cyfnod clo byr, a oedd 'na gyfiawnhad dros ei ohirio?"

    Mae'r gwrandawiad wedi dod i ben ar gyfer toriad cinio - bydd yn ailddechrau am 14:00, ond fe fydd llif Cymru Fyw yn parhau yn y cyfamser