a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf wrth i Mark Drakeford ateb cwestiynau am y tro olaf fel prif weinidog.

  2. 'Addysg cyfrwng Cymraeg yw stori lwyddiant mawr y 25 mlynedd diwethaf'

    Mark Drakeford
    Image caption: Mark Drakeford

    Mae Laura Anne Jones o'r Ceidwadwyr yn dweud bod record Llywodraeth Cymru ar addysg dros y chwe blynedd diwethaf "yn gallu cael ei chrynhoi mewn un gair - methiant".

    Mae’n ymhelaethu, “ers i chi ddod yn brif weinidog, mae eich llywodraeth wedi torri cyllidebau addysg i’r asgwrn flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn termau real – hyd at £56 miliwn oedd yr un diweddaraf. Mae’r llywodraeth wedi methu â mynd i’r afael ag argyfwng recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru - ac mae'n argyfwng, yn enwedig y llywodraeth hon yn methu â denu athrawon i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau craidd. Bu cynnydd amlwg mewn ymddygiad drwg a thrais."

    Dywed y prif weinidog "yn y chwe blynedd diwethaf rydym wedi diwygio'n sylfaenol wasanaethau ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, datblygu a gweithredu cwricwlwm newydd i Gymru, creu comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil. Bydd y rhain, a datblygiadau eraill yn mynd ymlaen i wella addysg yng Nghymru am flynyddoedd lawer i ddod.”

    Ychwanegodd mai "addysg cyfrwng Cymraeg yw stori lwyddiant mawr y 25 mlynedd diwethaf".

    Laura Anne Jones
    Image caption: Laura Anne Jones
  3. Ailgylchu

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod maint y gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi yng Nghymru wedi gostwng o 42% i 1.6% mewn degawd, ond mae'n cydnabod bod angen gwelliant pellach o ran ailgylchu.

    O fis nesaf ymlaen, bydd y rheoliadau ailgylchu yn y gweithle yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle busnes, sector cyhoeddus a thrydydd sector wahanu deunyddiau ailgylchadwy allweddol.

    Ailgylchu
  4. Atebolrwydd

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth hefyd yn gofyn pam fod y prif weinidog yn fodlon ateb cwestiynau i Times Radio ac nid yn y Senedd am yr ymchwiliad Covid.

    Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn ateb cwestiynau ar yr amser priodol, ac y dylai Rhun ap Iorwerth “wybod yn well” na’i gyhuddo o osgoi craffu seneddol.

    Dywed Rhun ap Iorwerth "ein gwaith ni yw craffu, gwaith y prif weinidog yw bod yn agored i graffu - fel, wrth gwrs, y mae'n ei wneud ar sawl achlysur - ond cawn ddewis pryd rydym yn gofyn y cwestiynau yr ydym am eu gofyn".

    Gofynnodd Rhun ap Iorwerth hefyd "pan wrthododd y darpar Ganghellor Llafur, Rachel Reeves, ddiystyru toriadau gwariant mewn rhai meysydd, a wnaeth y prif weinidog anfon neges destun i Keir Starmer wedyn i egluro pa mor drychinebus fyddai hynny i Gymru?"

    Atebodd y prif weinidog, “Mae ei gwestiwn, sydd wedi’i gynllunio i awgrymu, rywsut, y byddai galwad gennyf fi ar y mater hwnnw yn ganlyniadol, mor bell oddi wrth y realiti o ran sut y mae’n rhaid i bleidiau fod mewn llywodraeth, yn hytrach nag yn y busnes o grwpiau pwyso a, wel, fe stopiaf yn y fan yna - pleidiau sy'n gweithredu ar sail bod yn grwpiau pwyso, yn hytrach na bod yn bleidiau difrifol o lywodraeth - rwy'n ofni bod ei gwestiwn yn amlygu'r bwlch sy'n dal i fodoli."

    Mae gan Lafur gytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru yn y Senedd.

    Rhun ap Iorwerth
    Image caption: Rhun ap Iorwerth
  5. Ymchwiliad Covid

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyhuddo’r prif weinidog o wrthod ateb cwestiynau yn y Senedd am yr ymchwiliad Covid ond wedi gwneud hynny mewn ymateb i’r cyfryngau.

    Mae'r prif weinidog yn ateb nad yw wedi achub y blaen ar unrhyw beth mewn ymateb i gwestiynau gan y cyfryngau, ond dim ond wedi ailadrodd gwybodaeth sydd eisoes yn gyhoeddus.

    Bydd yn ymddangos gerbron yr ymchwiliad dan lw yfory.

    Am yr ail wythnos yn olynol, mae Mr Drakeford yn cael ei holi am y defnydd o WhatsApp.

    Gofynnodd Mr Davies pam y llwyddodd Mr Drakeford i siarad am Covid mewn cyfweliad yn y Times Radio dros y penwythnos, ar ôl iddo wrthod ateb cwestiynau am WhatsApp yn y Senedd.

    Dywedodd Mr Drakeford fod ei atebion yn y cyfweliad “wedi’u saernïo’n ofalus i wneud yn siŵr mai dim ond pethau yr wyf wedi’u dweud dro ar ôl tro eisoes yma ar lawr y Senedd ac mewn mannau eraill y dywedais i”.

    Andrew RT Davies
    Image caption: Andrew RT Davies
  6. Gwaith dur Port Talbot

    Wrth i ddiwedd yr ymgynghoriad ffurfiol 45 diwrnod ar yr ailstrwythuro yng ngwaith dur Port Talbot agosáu, mae'r prif weinidog yn dweud bod ffocws ei lywodraeth ar gefnogi cynllun amgen "credadwy" yr undebau.

    "Mae cynhyrchu dur domestig o bwysigrwydd strategol i Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae cynlluniau arbenigol, a ddatblygwyd ac a gyflwynwyd gan yr undebau llafur dur, yn darparu cynllun credadwy ac uniongyrchol i gadw cynhyrchiant dur yng Nghymru," meddai.

    Mae gweinidog yr economi, Vaughan Gething yn cyfarfod â phrif weithredwr Tata Steel yng Nghymru yfory meddai’r prif weinidog.

    Port Talbot
  7. Trafnidiaeth gyhoeddus

    Mae Llyr Gruffydd o Blaid Cymru yn gofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cenedlaethol.

    Dywed y prif weinidog y bydd cynaliadwyedd y rhwydwaith yn dibynnu ar nifer y teithwyr yn dychwelyd i batrymau cyn y pandemig.

    Dywedodd Llyr Gruffydd ei fod yn "deall y tensiwn... rhwng ariannu rheilffyrdd ac ariannu bysiau, ac ry' ni'n ymwybodol o'r £235 miliwn o gyllid sydd wedi cael ei roi'n ychwanegol i Drafnidiaeth Cymru tuag at reilffyrdd."

    "Ond o gofio.. bod tri chwarter yr holl deithiau trafnidiaeth cyhoeddus yng Nghymru ar fws, ydych chi'n credu bod eich llywodraeth chi wedi cael y balans ariannu yna rhwng ariannu trenau ac ariannu bysiau yn gywir?"

    Atebodd y prif weinidog, "y broblem yw ei bod hi bron â bod yn amhosibl tynnu arian mâs o'r rheilffyrdd achos mae costau yna o hyd".

    Llyr Gruffydd
    Image caption: Llyr Gruffydd
  8. Croeso

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.