a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl am y tro

    Diolch i chi am ymuno gyda ni ar gyfer diwrnod olaf Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru.

    Bydd busnes y Senedd yn parhau fel arfer wrth gwrs, ac fe fyddwn ni yn ôl gyda llif byw arall gyda Phrif Weinidog newydd cyn hir.

    Hwyl fawr.

  2. Cymeradwyaeth gan y Senedd gyfan

    Cafodd Mark Drakeford gymeradwyaeth gan y Senedd gyfan pan ddaeth ei araith i ben.

    senedd
  3. 'Gofal a charedigrwydd'

    Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod Mr Drakeford wedi arwain Cymru gydag "empathi, gofal a charedigrwydd, mewn cyferbyniad llwyr â llywodraeth y DU, gan ddangos y rhinweddau personol rydyn ni'n eu mynnu gan y rhai sy'n ceisio'r swydd uchaf".

    rhun ap iorwerth
  4. 'Angerdd dros Gymru'

    Dymunodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, y gorau i Mr Drakeford wrth iddo adael rôl y Prif Weinidog.

    “Rydyn ni wedi rhannu dadleuon tanllyd ar draws siambr y Senedd, wedi’i ysgogi gan ein hangerdd cyffredin dros Gymru".

    andrew rt davies
  5. Caredigrwydd

    Roedd yn emosiynol wrth ddiolch am garedigrwydd a ddangoswyd gan ASau yn dilyn marwolaeth ei wraig.

    Bu farw ei wraig, Clare, yn sydyn yn 71 oed ym mis Ionawr 2023.

    Mark a Clare Drakeford
    Image caption: Mae gan Mark a Clare Drakeford dri o blant, ac roedden nhw wedi byw ym Mhontcanna, Caerdydd ers 30 mlynedd
  6. Sosialydd

    "Sosialydd ydw i, bob amser wedi bod a byddaf bob amser," meddai Mr Drakeford.

    drakeford
  7. 'Rhaid ichi fod yn barod am wrthwynebiad'

    Dywedodd Mr Drakeford hefyd: "Os ydych yn bwriadu bod yn lywodraeth radical sy'n diwygio yna mae'n rhaid ichi fod yn barod am wrthwynebiad."

    Fel enghraifft, mae'n dweud "fy mhenderfyniad mawr cyntaf ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 ai peidio".

    M4
  8. Datganiad Ymddiswyddo

    Dywedodd Mark Drakeford: "Yn y pum mlynedd y bûm yn Brif Weinidog, rwyf wedi gweithio gyda phedwar Prif Weinidog, pum Canghellor, chwe Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn...

    "Bu newidiadau yma hefyd – rwyf wedi ateb cwestiynau gan chwe arweinydd plaid wahanol dros y pum mlynedd diwethaf ac mae fy nhymor wedi rhychwantu etholiad Senedd a datblygiad Cytundeb Cydweithredu.

    "Fy nod drwy gydol fy amser fel Prif Weinidog fu defnyddio’r mandad sydd gan fy mhlaid a’m llywodraeth i gadw’r addewidion a wnaethom i bobl ledled Cymru a gwneud hynny gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel ein seren arweiniol."

  9. Geiriau twymgalon

    Wrth gloi ei gyfraniad ef i'r ddadl, fe wnaeth cyn arweinydd Plaid Cymru, Adam Price adrodd geiriau gan y bardd Vernon Watkins fel teyrnged i Mark Drakeford.

    Roedd y geiriau twymgalon yn sôn am eu cyfnod yn cydweithio.

    Adam Price
    Image caption: Adroddodd Adam Price ran o gerdd gan Vernon Watkins wrth gyfarch Mark Drakeford
  10. 'Senedd sy'n fwy cynrychiadol'

    Dadl olaf Mark Drakeford fel prif weinidog yw cyflwyno ymateb i'r Comisiwn Cyfansoddiadol ar ddyfodol Cymru, sy’n ffrwyth y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

    Yn amodol ar basio'r ddeddfwriaeth, bydd yr etholiad nesaf yn gorfodi Senedd sy'n fwy cynrychiadol o'r Cymry, meddai.

    Mae ymateb llawn Llywodraeth Cymru i adroddiad terfynol y comisiwn a'i argymhellion i'w gweld yma.

    drakeford
  11. Cymeradwyaeth

    Cafodd Mr Drakeford gymeradwyaeth wrth gwblhau ei Gwestiynau i'r Prif Weinidog olaf.

    Wrth i'r sesiwn - un cymodol i raddau helaeth, er nad heb ychydig o gwestiynau anodd - ddod i ben, rhoddodd yr ASau yn y siambr gymeradwyaeth iddo.

  12. Bil diogelwch tomenni glo

    Dywedodd Mark Drakeford fod tirlithriad mewn tomen yn Tylerstown yn 2020 wedi dod ag atgofion yn ôl o drychineb Aberfan, a laddodd 144 o bobl ym 1966.

    Roedd yn cofio ei atgof o'r drychineb yn blentyn pan ddychwelodd adref o'r ysgol a gweld lluniau o'r olygfa ar y teledu.

    Wrth ateb cwestiwn gan aelod o'r senedd y Rhondda, Buffy Williams, dywedodd Mr Drakeford: “Daeth y cannoedd o filoedd o dunelli o wastraff a symudodd i lawr ochr y mynydd â’r holl atgofion hynny i’r wyneb unwaith eto".

    Dywedodd nad oedd Llywodraeth Cymru "wedi llwyddo i berswadio llywodraeth y DU i gynnig ei chyfraniad i adfer hanes sy'n rhagflaenu datganoli ers degawdau".

    Dywedodd ei bod yn destun gofid bod "profiad Covid" wedi golygu nad oedd Llywodraeth Cymru eto wedi rhoi bil diogelwch tomenni glo gerbron y Senedd, ond addawodd y byddai'n dod yn ddiweddarach yn y tymor.

  13. 'Cefnogi ef a Llywodraeth Cymru o’r meinciau cefn'

    Mae Rhun ap Iorwerth hefyd yn holi am olynydd Mr Drakeford, Vaughan Gething, sydd wedi denu beirniadaeth am dderbyn rhodd ymgyrch o £200,000 gan gwmni sy’n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.

    Mae Mr Drakeford yn dweud ei fod wedi gweithio’n agos gyda gweinidog economi presennol Cymru ers blynyddoedd a’i fod yn gwybod ei fod yn “berson gofalus ac ystyriol o ran gwneud penderfyniadau”.

    “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ei gefnogi ef a Llywodraeth Cymru o’r meinciau cefn,” dywed Mr Drakeford.

    drakeford
  14. 'Byddwn ni gyd yn edrych yn ôl ac yn gofyn i'n hunain beth oedd y ffwdan'

    20mya

    Mae'r AS Torïaidd Tom Giffard yn gofyn a allai penderfyniad olaf Mark Drakeford fel prif weinidog Cymru fod yr "un gorau" - dileu'r polisi 20mya.

    Dywedodd y prif weinidog ei fod "weithiau'n poeni am Mr Giffard".

    “Rwy’n meddwl ei fod yn haeddu arweiniad gwell gan ei gydweithwyr nag y byddai’r cwestiwn hwn yn ei awgrymu sydd ar gael iddo,” atebodd.

    “Rwy’n hynod falch o’r ffaith ein bod ni yma yng Nghymru ar flaen y gad o ran newid polisi a fydd yn digwydd ymhell y tu hwnt i Gymru.”

    “Yma yn y llywodraeth hon, rydym bob amser yn benderfynol y byddwn yn gwneud y peth iawn yn hytrach na’r peth sy’n gyfleus a phoblogaidd ar y pryd.”

    Dywedodd fod terfynau cyflymder 20mya "eisoes yn newid meddyliau pobl" a "cyn hir iawn, byddwn ni gyd yn edrych yn ôl ac yn gofyn i'n hunain beth oedd y ffwdan".

    Tom Giffard
  15. Cwlwm arbennig gyda phobl Cymru?

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn holi am sylwadau diweddar a wnaed gan Mark Drakeford lle dywedodd mai “Llafur yn unig” sydd â chwlwm arbennig gyda phobl Cymru.

    Mae Rhun ap Iorwerth yn gofyn a fyddai Mr Drakeford yn cynghori ei olynydd i fod yn ofalus ynglŷn â defnyddio’r math hwnnw o iaith rhag ofn swnio fel ei fod yn cymryd yr etholwyr yn ganiataol.

    Mae Llafur wastad wedi bod mewn grym yng Nghymru ers datganoli yn 1999 ac mae Mr Drakeford yn ymateb drwy ddweud mai ei fantra i holl aelodau’r blaid yw bod “rhaid i ni ennill pob pleidlais a ddaw i’n ffordd”.

    “Dydyn ni byth yn cymryd un bleidlais yn ganiataol,” meddai.

    Dywed Drakeford ei fod yn falch o ffurfio cynghreiriau gyda phleidiau eraill a dywedodd y dylai Cynulliad a Senedd Cymru fod yn falch o ddangos "gwleidyddiaeth aeddfed, flaengar".

    rhun ap iorwerth
  16. 'Canolbwyntio ychydig yn fwy ar gynhyrchu golau na chynhyrchu gwres'

    Mae Andrew RT Davies hefyd yn gofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn barod am bandemig arall.

    Dywed Mr Drakeford ei fod yn credu y byddai'r llywodraeth - a'r byd - "wedi paratoi'n well."

    Mae Mr Davies yn dilyn hyn gyda rhai geiriau caredig i'r prif weinidog.

    “Rydyn ni wedi cael rhai dadleuon diddorol, rhai lliwgar a rhai cyfnewidiadau angerddol,” meddai Mr Davies wrth y siambr.

    Yn ei gwestiwn olaf, gofynnodd arweinydd yr wrthblaid pa gyngor y bydd Mr Drakeford yn ei roi i'w olynydd, Vaughan Gething fel bod "yr un angerdd a'r un argyhoeddiad yn gallu dod drosodd".

    Dywedodd Mr Drakeford nad oedd "erioed wedi amau ​​yr ymrwymiad y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei roi i'r swydd anodd sydd ganddo na'r cymhelliad ar gyfer y cwestiynau y mae'n eu gofyn i mi".

    "O ran paratoi, dwi'n dweud wrth fy olynydd y bydd yn cymryd oriau ac oriau o'i amser oherwydd mae'n anochel," ychwanega.

    “Pe bai gen i obaith am y fforwm hwn a’r cwestiynau hyn, y byddwn ni i gyd yn canolbwyntio ychydig yn fwy ar gynhyrchu golau na chynhyrchu gwres.”

    drakeford
  17. Parch

    Elliw Gwawr

    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae’r galeri cyhoeddus uwchben y siambr yn llawn.

    Mae 'na etholwyr, cyn wleidyddion, staff a phant ysgol yma. Pawb yn awyddus i weld sesiwn gwestiynau olaf y prif weinidog.

    'Da ni wedi gweld sesiynau tanllyd yma yn y gorffennol. Ond does 'na ddim tan gwyllt heddiw.

    Yn hytrach mae’r parch tuag at Mark Drakeford gan bob un aelod o’r siambr i’w weld yn glir.

    Ond mae o’n dal i wynebu digon o gwestiynau, fe ddaw’r amser am deyrngedau'r prynhawn 'ma.

  18. Dyfodol dur

    andrew rt davies

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, yn holi Mr Drakeford am y "newyddion cythryblus" y bydd ffwrneisi golosg ym Mhort Talbot yn rhoi'r gorau i weithredu.

    Mae'n gofyn a yw'r llywodraeth wedi gofyn am sicrwydd na fydd Tata Steel yn cau safleoedd eraill am dri mis.

    Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn "ddifrifol iawn ac yn anodd iawn", ond dywed eu bod wedi cael gwybod na fydd cau'r ffwrneisi yn effeithio ar amserlen y ffwrnais chwyth gyntaf.

    Tata
  19. Cymru a'r byd

    Gofynnir i Mr Drakeford am yr effaith y mae ei gyfnod yn y swydd wedi’i chael ar statws y Cymru yn y byd, ac mae’n ymateb fod Cymru’n “hyderus yn ei hunaniaeth” ac yn groesawgar i eraill.

    Dywed Joyce Watson, AS Llafur dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, ei bod yn bwysig cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi meithrin perthynas â gwledydd gan gynnwys Ffrainc, India, yr Unol Daleithiau a Gwlad Pwyl.

    Yna mae hi'n gofyn i Mr Drakeford am ei asesiad o'r perthnasoedd hyn wrth symud ymlaen.

    Atebodd bod ei lywodraeth wedi ei gwneud hi’n flaenoriaeth i fuddsoddi mewn hyrwyddo Cymru dramor, gan ddweud “ein bod ni wedi byw trwy gyfnod anodd o ran enw da”, gan gyfeirio at Brexit.

    Ychwanegodd fod Covid hefyd wedi cael effaith ar gysylltiadau rhyngwladol.

    “Dyna pam rydyn ni fel llywodraeth wedi rhoi cymaint o egni ac ymdrech i wneud yn siŵr ein bod ni’n parhau i fuddsoddi yn y perthnasoedd hynny gyda chymaint o hen ffrindiau.”

    drakeford a gething
  20. Mwyngloddiau metel segur

    drakeford

    Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn mynegi pryder am y risg i iechyd pobl o lygredd o fwyngloddiau metel segur yng Nghymru.

    Gofynnodd i Mr Drakeford a yw pobl sy'n byw ger y 129 o fwyngloddiau sy'n llygru fwyaf wedi cael gwybod am y risgiau.

    Dywedodd y prif weinidog bod 1,300 o fwyngloddiau metel segur yng Nghymru a bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru raglen o weithio ar y mwyngloddiau plwm a metel mwyaf llygredig.

    “Efallai bod mwy i’w wneud i wneud yn siŵr, pan fydd chwiliadau’n cael eu cynnal fel rhan o brynu eiddo, bod pobl yn cael eu hysbysu bod risgiau posibl i iechyd pobl,” meddai Mr Drakeford.

    adam price