Crynodeb

  • Bu Mark Drakeford yn ateb cwestiynau yn Siambr y Senedd am y tro olaf fel prif weinidog

  • Yn diweddarach yn y sesiwn fe gynigiodd Mr Drakeford ei ymddiswyddiad yn ffurfiol mewn datganiad emosiynol

  • Bu'n arweinydd Llafur Cymru ers iddo olynu Carwyn Jones yn 2018

  1. 'Yn debyg i rygbi Cymru'wedi ei gyhoeddi 13:30 Amser Safonol Greenwich 19 Mawrth

    Mewn neges ffarwel gan y prif weinidog i staff Llywodraeth Cymru, dywedodd Mark Drakeford:

    "Mae gwleidyddiaeth weinidogol fymryn yn debyg i rygbi Cymru. Os ydych chi'n lwcus, fe ddowch chi'n rhan o'r tîm - ond mae'ch amser yno yn fyr ar y naw.

    "Dechreuais fy ngyrfa yma'n gweithio fel ymgynghorydd arbennig i Rhodri Morgan pan oedd y Cynulliad newydd sbon, fel yr oedd bryd hynny, yn llai na blwydd oed.

    "Fe’i dilynais i'r Senedd ac, yn y pen draw, fel Prif Weinidog; mae'n debyg taw fi yw'r Prif Weinidog olaf sydd â'm gwreiddiau yn perthyn i ddyddiau cynnar datganoli.

    "Wrth i mi drosglwyddo’r awenau, byddaf yn eistedd ar y meinciau cefn yn cefnogi fy olynydd, y sefydliad a'ch llwyddiant parhaus chi."

    Pencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc CathaysFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Pencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays

  2. Pwy yw Mark Drakeford?wedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich 19 Mawrth

    Wrth i'w gyfnod fel Prif Weinidog Cymru ddirwyn i ben, dyma olwg dros fywyd a gyrfa Mark Drakeford ers ei blentyndod yng Nghaerfyrddin.

    drakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Beth sy'n digwydd heddiw?wedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich 19 Mawrth

    Un o dasgau olaf Mark Drakeford fel prif weinidog fydd cymryd sesiwn olaf o gwestiynau gan arweinwyr y gwrthbleidiau ac ASau yn y Senedd.

    Yn ddiweddarach bydd e'n gwneud datganiad o ymddiswyddiad yn y Senedd, cyn cynnig ei ymddiswyddiad yn ffurfiol i’r Brenin.

    Ddydd Mercher, fe fydd Vaughan Gething yn cymryd ei le yn y rôl.

  4. Y paratoiwedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich 19 Mawrth

    Mark Drakeford yn paratoi fore Mawrth ar gyfer ei sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog olaf.

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  5. Croesowedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich 19 Mawrth

    Prynhawn da, croeso i'n llif byw ar ddiwrnod olaf Mark Drakeford fel prif weinidog.

    O 1.30pm gallwch wylio ein darllediad o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, trwy glicio ar y botwm chwarae uchod.