Crynodeb

  • Vaughan Gething i olynu Mark Drakeford fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru

  • Yr arweinydd newydd fydd y pumed i arwain llywodraeth ddatganoledig Cymru

  • Canlyniad y bleidlais yn agos - 51.7% i 48.3%

  • Vaughan Gething yn cael ei enwebu yn y Senedd i fod yn brif weinidog newydd Cymru ganol wythnos

  • Yr arweinydd newydd yn dweud yn ei araith mai fe "fydd yr arweinydd du cyntaf i arwain gwlad yn Ewrop"

  1. Iechyd yn 'gorfod bod yn flaenoriaeth'wedi ei gyhoeddi 11:14 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Owain Clarke
    Gohebydd Iechyd BBC Cymru

    Fe fydd yr heriau mawr sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn sicr yn rhywbeth y bydd yn rhaid i'r Prif Weinidog nesaf ystyried ar unwaith.

    Mae dros hanner cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei wario ar iechyd a gofal cymdeithasol.

    Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae yna doriadau mawr wedi digwydd mewn meysydd eraill er mwyn rhoi cannoedd o filiynau o bunnau yn ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd.

    Ond er yr arian ychwanegol mae'n debygol iawn y bydd tri bwrdd iechyd wedi gorwario erbyn diwedd y flwyddyn nesaf ac ar ben hynny mae gweithredu diwydiannol.

    O fewn dyddiau i Vaughan Gething gymryd yr awennau fel arweinydd fe fydd meddygon iau yng Nghymru ar linellau piced unwaith eto.

    Fe fydd meddygon ymgynghorol ac arbenigol hefyd ar streic, am y tro cyntaf, ar ôl y Pasg.

    meddygon iau
    Disgrifiad o’r llun,

    O fewn dyddiau i'r Prif Weinidog newydd gymryd yr awennau fe fydd meddygon iau yng Nghymru ar linellau piced unwaith eto

  2. Starmer: Apwyntiad Gething yn 'hanesyddol'wedi ei gyhoeddi 11:08 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Syr Keir StarmerFfynhonnell y llun, PA Media

    Mae arweinydd Llafur y DU, Syr Keir Starmer, wedi llongyfarch Vaughan Gething ar ei fuddugoliaeth gan ddweud bod ei apwyntiad fel "yr arweinydd du cyntaf yn y Deyrnas Unedig yn foment hanesyddol sy'n dweud cyfrolau am gynnydd a gwerthoedd Cymru heddiw".

    Fe roddodd deyrnged hefyd i Jeremy Miles am ei ymgyrch.

  3. Fel hyn y cyhoeddwyd y canlyniad ...wedi ei gyhoeddi 11:03 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Llafur Cymru

    Dyma'r foment y gwnaeth Carolyn Harris, dirprwy arweinydd Llafur Cymru, gyhoeddi mai Vaughan Gething oedd enillydd y ras i olynu Mark Drakeford.

    Disgrifiad,

    Carolyn Harris, Dirprwy arweinydd Llafur Cymru, yn cyhoeddi enillydd ras yr arweinyddiaeth

  4. 'Yma o hyd... ond beth nesaf?'wedi ei gyhoeddi 10:59 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Cyfeiriodd Mr Gething at gân brotest chwedlonol Dafydd Iwan, Yma o Hyd, wrth gyfeirio at sefyllfa'r Gymru gyfoes.

    "Dyw Yma o Hyd ddim yn ddigon," dywedodd.

    "Rydym wastad wedi bod yma, byddwn ni wastad yma. Y cwestiwn i ni heddiw yw: beth nesa?

    "A allwn ni ateb galw'r genhedlaeth nesaf i sicrhau'r Gymru maen nhw 'n ei dymuno?".

    Ei nod, meddai, fydd sicrhau "dyfodol uchelgeisiol a Chymru gryfach".

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Jeremy Miles yn gadael heb wneud cyfweliadauwedi ei gyhoeddi 10:54 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Doedd Jeremy Miles ddim am aros i sgwrsio ag aelodau na’r wasg wedi’r canlyniad, medd ein gohebydd Elliw Gwawr.

    "Ar ôl sgwrs sydyn gyda'i dîm fe adawodd yn syth.

    "Mae’n glir mai nad dyma’r canlyniad yr oedd o wedi gobeithio amdano - ac efallai bod y bleidlais agos iawn yna wedi gwneud hyn yn anoddach fyth.

    "Ond mewn datganiad mae o wedi llongyfarch Vaughan Gething gan ddymuno pob llwyddiant iddo dros ddyfodol Cymru."

  6. 'Pryderon dwfn' Plaid Cymru am ethol Vaughan Gethingwedi ei gyhoeddi 10:48 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Plaid Cymru

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Plaid Cymru

    Mae Arweinydd Plaid Cymru wedi dweud bod ganddobryderon dwys” wedi i Vaughan Gething gael ei ethol fel arweinydd nesaf Llafur Cymru.

    Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn poeni yn sgil y newyddion bod Gething wedi derbyn £200,000 tuag at ei ymgyrch gan gwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.

    Y disgwyl ydi bydd Gething yn cael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru ddydd Mercher, a dywedodd arweinydd Plaid Cymru ei fod yn bryderus fod “gennym bellach Brif Weinidog newydd sydd yn cymryd y swydd gyhoeddus uchaf ac yn wynebu honiadau a chwestiynau difrifol am ei grebwyll”.

    Gan dynnu sylw at ei record yn y llywodraeth, ychwanegodd Rhun ap Iorwerth fod “dim a ddywedwyd” yn ystod yr ymgyrch arweinyddiaeth yn awgrymu “newid gêr” wrth fynd i’r afael â heriau economi Gymreig sy’n aros yn ei hunfan, amseroedd aros y GIG a thlodi plant.

  7. Ceidwadwyr: ‘Mwy o’r un peth gan Gething’wedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru yn dweud mai ‘mwy o’r un peth’ sydd i’w ddisgwyl gan Vaughan Gething.

    Wrth longyfarch arweinydd newydd Llafur ar ei fuddugoliaeth, dywedodd Andrew RT Davies bod Gething wedi bod yn rhan o lywodraeth sy’n gyfrifol am y rhestrau aros hiraf erioed yn y GIG, y dirywiad gwaethaf yn y DU mewn safonau addysg, y trethi busnes uchaf ym Mhrydain a’r penderfyniad i barhau gyda’r rheol 20mya.

    Arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Getty
    Disgrifiad o’r llun,

    Arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Andrew RT Davies

  8. Canmoliaeth i'w ragflaenydd - ac i'w gyd-ymgeisyddwedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Yn ei araith wrth dderbyn y canlyniad, gan gyfeirio at ei hun fel "arweinydd du cyntaf Ewrop", fe ddechreuodd Vaughan Gething trwy ganmol ei ragflaenydd.

    Fe ddisgrifiodd Mark Drakeford fel "yr arweinydd cywir ar yr adeg cywir yn ystod y pandemig".

    Roedd yna ganmoliaeth hefyd i'w gyd-ymgeisydd Jeremy Miles, a fyddai wedi bod yn arweinydd hoyw cyntaf Cymru, am roi "gobaith newydd" i fechgyn a genethod Cymreig "a allai fod fel arall wedi meddwl yn wahanol iawn am fywyd cyhoeddus yma".

    Ychwanegodd: "Heddiw, rydym yn troi dalen yn llyfr hanes ein gwlad."

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Canlyniad y bleidlais yn agos iawnwedi ei gyhoeddi 10:35 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth
    Newydd dorri

    Wedi ei araith fe wnaeth Vaughan Gething ysgwyd llaw â Jeremy Miles.

    Wedi'r cyhoeddiad fe wnaeth mab Mr Gething ei groesawu a'i gofleidio.

    Roedd canlyniad y bleidlais yn agos iawn 51.7% i 48.3%

    Roedd yna fwy o bobl â phleidlais gyswllt (9.4%) wedi pleidleisio y tro hwn o gymharu â ras arweinyddiaeth 2018 - ee undebwyr.

  10. Yr arweinydd am y cyfnod hwyaf hyd yma...wedi ei gyhoeddi 10:28 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Heb os, Alun Michael, sydd wedi arwain Llafur am y cyfnod lleiaf o amser. Fe roddodd e'r gorau i fod yn Ysgrifennydd Cyntaf y Cynulliad (enw'r swydd bryd hynny) wedi cyfnod o naw mis cyn iddo wynebu pleidlais o ddiffyg hyder.

    Bu'r diweddar Rhodri Morgan a Carwyn Jones wrth y llyw am naw mlynedd - Mr Morgan am ychydig o fisoedd yn hwy na Mr Jones.

    Mae Mark Drakeford wedi bod yn Brif Weinidog ers 2018.

    Rhodri Morgan ac Alun Michael
    Disgrifiad o’r llun,

    Y diweddar Rhodri Morgan sydd wedi bod yn arweinydd am y cyfnod hwyaf ac Alun Michael y cyfnod byrraf

  11. Rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymruwedi ei gyhoeddi 10:19 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    BBC Radio Cymru

    Fydd 'na ymateb llawn i ganlyniad y bleidlais mewn rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymru nes 'mlaen am 1300.

    Fe fydd Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick a'r Dr Huw Lewis, sy'n uwch ddarlithydd gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymuno gydag Alun Thomas i ddadansoddi'r canlyniad a'i oblygiadau i Lafur Cymru ac i Gymru yn gyffredinol.

    Fe fydd y gweinidog iechyd, Eluned Morgan, ac aelod seneddol Llafur Llanelli, Nia Griffith, hefyd yn rhoi eu hymateb nhw.

    Gallwch chi wrando ar y rhaglen ar BBC Sounds.

  12. Vaughan Gething yn cael ei ethol yn arweinydd Llafur Cymruwedi ei gyhoeddi 10:12 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth
    Newydd dorri

    Vaughan Gething ar fin dod yn brif weinidog nesaf ar ôl cael ei ethol yn arweinydd Llafur Cymru.

  13. Gwenu wrth gyrraeddwedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Roedd y ddau ymgeisydd yn gwenu wrth gyrraedd adeilad Spark Prifysgol Caerdydd ar gyfer y canlyniad.

    Jeremy MilesFfynhonnell y llun, Getty Images
    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Ai enillydd heddiw fydd y prif weinidog?wedi ei gyhoeddi 10:08 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Yn swyddogol, na - yn answyddogol, ie.

    Ar ôl i Mark Drakeford ymddiswyddo'n ffurfiol – ddydd Mawrth yn ôl y disgwyl - bydd arweinydd newydd Llafur Cymru'n cael ei enwebu yn y Senedd y diwrnod canlynol.

    Mae'n bosib i'r gwrthbleidiau enwebu rhywun arall gan orfodi pleidlais yn y siambr.

    Ond gan fod Llafur â hanner y seddi ym Mae Caerdydd mae'n annhebygol y bydd modd atal i'w harweinydd nhw ddod yn brif weinidog nesaf Cymru.

    LlafurFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Miles a Gething wedi bod yn gyfreithwyrwedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Llun teulu
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Vaughan Gething yn byw yn Neuadd Pantycelyn pan yn fyfyriwr yn Aberystwyth

    Cafodd Vaughan Gething, Gweinidog Economi Cymru a chyn-gyfreithiwr, ei eni yn Zambia.

    Cyfarfu ei dad, milfeddyg o Aberogwr ym Mro Morgannwg, â'i fam, ffermwr ieir, tra'n gweithio yn ne Affrica.

    Aeth Mr Gething i'r ysgol yn Dorset ac yna i brifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd.

    Petai'n ennill fe fyddai arweinydd du cyntaf Cymru.

    Jeremy MilesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
    Disgrifiad o’r llun,

    Ar ôl astudio'r gyfraith yn Rhydychen, gweithiodd Jeremy Miles fel cyfreithiwr am gyfnod

    Cafodd Gweinidog Addysg Cymru Jeremy Miles, oedd hefyd yn gyfreithiwr, ei eni a'i fagu yn nhref lofaol Pontarddulais fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf.

    Addysgwyd ef yn Ysgol Gyfun Ystalyfera yng nghwm Tawe yn ystod yr 80au, ochr yn ochr â llawer o blant yr oedd eu tadau yn rhan o streic y glowyr.

    Wedi ei gyfnod yn yr ysgol aeth i Rydychen i astudio'r gyfraith.

    Petai Mr Miles yn fuddugol fe fyddai arweinydd hoyw cyntaf Cymru.

  16. Cefnogwr Miles: 'Mae'n sylweddoli bod angen i bethau newid yng Nghymru'wedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Mae Owain Williams wedi cefnogi Jeremy Miles i fod yn arweinydd.

    “Mae ‘na syniadaeth yn y maniffesto a beth mae Jeremy wedi dweud, yr economi na'th dorri’r rhestrau aros," meddai.

    "Un o’r rhesymau dwi’n ei gefnogi e yw bod e’n sylweddoli bod angen i ni newid pethau yng Nghymru, 'neud pethau’n wahanol a dwi’n credu fod pobl yn mynd i weld hwnna yn ymarferol yn eitha cyflym.

    “Dwi’n dawel obeithiol, yn dawel hyderus ond does dim amheuaeth bod hon yn ras agos iawn a dwi’n credu bod unrhyw un sy’n meddwl bod nhw’n gwybod beth sydd am ddigwydd, dwi’n amheus o hynny.”

    Owain WilliamsFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Owain Williams yn cefnogi Jeremy Miles

  17. Ymgeiswyr wedi cyrraedd i glywed y canlyniadwedi ei gyhoeddi 09:56 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae’r gwleidyddion, cefnogwyr a’r wasg wedi dechrau ymgynnull yma yng Nghaerdydd i glywed y canlyniad.

    Ac mae’r ddau ymgeisydd newydd gyrraedd.

    Fydden i’n dweud mai cefnogwyr Vaughan Gething sy’n fwyaf hyderus ar hyn o bryd. “Mi fydd hi’n ddiddorol gweld pa mor agos fydd hi rhwng y ddau,” medd un cefnogwr Jeremy Miles wrthai.

    Wrth gwrs does neb yn gwybod beth yw’r canlyniad eto. Ond fe fydd y ddau ymgeisydd yn cael gwybod yn fuan cyn i ni gyd cael clywed am 1015.

  18. Arweinydd Cyngor Caerdydd: 'Yr economi a'r amgylchedd yn bwysig i Gething'wedi ei gyhoeddi 09:52 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Mae Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd wedi cefnogi Vaughan Gething.

    “Dwi’n credu bod ‘na gydnabyddiaeth gyda Vaughan o’r hyn sydd wedi gweithio ac yn gweithio dan datganoli ond hefyd ble mae modd i newid," meddai Mr Thomas.

    "Fi’n credu fod ei bwyslais e ar dyfiant a gwthio’r economi ond hefyd ar wneud hynny mewn ffordd sy’n sensitif i’r amgylchedd ac sydd yn tyfu mewn ffordd gynaliadwy,” ychwanegodd.

    Mae Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd wedi cefnogi Vaughan Gething
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd wedi cefnogi Vaughan Gething

  19. '£200,000 at ymgyrch yn lot fawr o arian,' medd cyn-Brif Weinidog Cymruwedi ei gyhoeddi 09:48 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Newyddion S4C

    Gan fanylu ar y £200,000 y mae Vaughan Gething wedi derbyn ar gyfer ei ymgych ychwanegodd Carwyn Jones bod y swm yn "lot fawr o arian" gan un rhoddwr.

    Wrth siarad ar raglen Newyddion S4C ychwanegodd Mr Jones "rwy’n cofio faint o arian hales i ar fy ymgyrch i yn 2009, oedd e’n rhywbeth fel £10,000 i £15,000.

    "Mae ‘na wers fan hyn wrth gwrs i byth i gymryd rhoddion fel hyn heb bo chi’n hollol siwr bod y ffynhonnell yn un iawn.”

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywed Vaughan Gething ei fod wedi rhoi gwybodaeth am y rhoddion yn unol â'r rheolau

  20. Carwyn Jones: Gwersi gan Gething i'w dysgu wedi rhoddion ariannolwedi ei gyhoeddi 09:43 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Dywed cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, bod gan Vaughan Gething wersi i'w dysgu wedi iddo dderbyn £200,000 yn rhoddion gan gwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn sydd wedi'i gael yn euog o droseddau amgylcheddol.

    Roedd Carwyn Jones yn brif weinidog rhwng 2009 a 2018 a dywed bod penderfyniad Gething yn un "anffodus".

    Dywed y Gweinidog Economi, Vaughan Gething, bod pob rhodd wedi'u datgan yn gywir.

    Carwyn Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Carwyn Jones yn brif weinidog Cymru rhwng 2009 a 2018