Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:27 Amser Safonol Greenwich+1 30 Ebrill
Dyna ni, mae Vaughan Gething wedi ateb cwestiynau am y trydydd tro fel prif weinidog.
Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.
Vaughan Gething yn ateb cwestiynau am y trydydd tro fel Prif Weinidog Cymru.
Am y drydedd wythnos bu'n rhaid iddo amddiffyn derbyn £200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni sy'n eiddo i ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol yn flaenorol.
Alun Jones
Dyna ni, mae Vaughan Gething wedi ateb cwestiynau am y trydydd tro fel prif weinidog.
Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.
Mae Delyth Jewell o Blaid Cymru yn rhybuddio rhag "llwgu" celfyddydau a diwylliant yng Nghymru o gyllid.
Meddai, "mwy na 100 mlynedd yn ôl, ysgrifennodd James Oppenheim,
'Our lives shall not be sweated from birth until life closes; / Hearts starve as well as bodies; give us bread, but give us roses.'
Mae hi’n parhau, “brif weinidog, tybed a gaf i roi’r rhosyn hwn ichi ac a wnewch chi ei gadw i’ch atgoffa o’r teimlad hollbwysig hwnnw sydd, waeth beth fo’r pwysau a roddir ar y lle hwn na’i bobl, na newynir calon Cymru".
Atebodd y prif weinidog, “nid yw’r llywodraeth hon am leihau cyllid ar gyfer ein sefydliadau diwylliannol".
"Yr her, fodd bynnag, yw'r gyllideb oedd gennym a blaenoriaethu iechyd a llywodraeth leol."
Mae’r Ceidwadwr Samuel Kurtz yn tynnu sylw at adroddiad trawsbleidiol pwyllgor y Senedd ar anghenion economi wledig Cymru, a oedd yn galw am ganolbwyntio ar dwf economaidd a mwy o hyblygrwydd yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Mae'r prif weinidog yn dweud bod "heriau ynghylch cyllid" ond y bydd ei lywodraeth "yn edrych o ddifrif ar yr adroddiad".
“Rydyn ni’n gwneud hynny, wrth gwrs, yn erbyn cefndir lle rydyn ni wedi colli bron i £0.25 biliwn a fyddai fel arall wedi cael ei wario ar yr economi wledig yng Nghymru,” meddai’r prif weinidog.
Mae’r argymhellion a gynigir yn yr adroddiad yn cynnwys:
Ar ôl disgrifio Ysbyty Glan Clwyd fel yr "ysbyty sy'n perfformio waethaf yn y bwrdd iechyd sy'n perfformio waethaf", mae'r Ceidwadwr Gareth Davies yn gofyn pryd y bydd ysbyty cymunedol gogledd Sir Ddinbych yn y Rhyl yn cael ei ddarparu.
Mae'r prif weinidog yn ateb bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd yn adolygu ei gynigion, y mae "disgwyl iddynt gynnwys uned mân anafiadau, gwelyau gofal canolraddol a gofal integredig".
Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru yn aros am "achos busnes cadarn".
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn tynnu sylw at bryderon am fod y dyn a benodwyd i arwain gwasanaeth tân Cymreig - sydd wedi’i siglo gan honiadau o ymddygiad gwael - ei hun yn wynebu honiadau o aflonyddu a gwahaniaethu.
Anfonodd Llywodraeth Cymru gomisiynwyr i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar ôl adroddiad damniol am aflonyddu a chasineb at fenywod.
Fe wnaethon nhw benodi Stuart Millington, sy'n wynebu tribiwnlys cyflogaeth, i fod yn brif swyddog tân dros dro.
Deellir bod Mr Millington wedi gwadu'r honiadau.
Mae Rhun ap Iorwerth yn darllen yn uchel gasgliad adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan Wasanaeth Tân Gogledd Cymru am Stuart Millington.
Dywedodd yr adroddiad fod yna dystiolaeth a allai gefnogi achos o fwlio yn ei erbyn, meddai arweinydd Plaid Cymru.
Mae Mr ap Iorwerth yn gofyn i Mr Gething os oedd yn “hollol hyderus fod gan gomisiynwyr a gweinidogion yr holl wybodaeth berthnasol er mwyn dod i gasgliad ar briodoldeb ei benodiad”.
Dywedodd Mr Gething: “Rwy’n cydnabod mewn ymchwiliad mewnol blaenorol, er na chymerwyd unrhyw gamau disgyblu, roedd pwyntiau i’w dysgu i Mr Millington am ei arddull rheoli.”
Yna dywedodd Mr ap Iorwerth wrth y Senedd: “Mae gennyf yma gopi o’r adroddiad a gyflwynwyd i [prif swyddog tân gogledd Cymru] Dawn Docx ar 12 Hydref y llynedd, adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan wasanaeth tân gogledd Cymru i honiadau yn erbyn Mr Millington.
“Daeth i’r casgliad bod tystiolaeth i gefnogi achos prima facie a allai fod yn gyfystyr â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, neu aflonyddu ar sail gweithgaredd undeb llafur.”
Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth, "mae hyn yn bwysig i unioni'r arweinyddiaeth a'r diwylliant, nid yn unig yn ne Cymru, ond ar draws ein hawdurdodau tân ac achub. Nid yw hyn yn tynnu oddi ar ddewrder a gwasanaeth yr holl ddiffoddwyr tân ar draws y wlad, ond mae’n rhaid i’r diwylliant fod yn iawn er mwyn i bawb gael y cyfle i ymuno a gallu symud ymlaen fel y dylent ei wneud o fewn yr awdurdod tân ac achub, a lle nad yw hynny’n wir, rydym am weld camau’n cael eu cymryd.”
Mae Vaughan Gething yn ateb y bydd Llywodraeth Cymru "yn cymryd diddordeb yn y tribiwnlys cyflogaeth sydd i ddod".
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cynyddu'r pwysau ar Mr Gething am dderbyn £200,000 gan gwmni sy'n cael ei redeg gan rywun a gafwyd yn euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.
Rhoddodd Dauson Environmental Group o Gaerdydd ddau gyfraniad o £100,000 i Mr Gething.
Mae Mr Davies yn dyfynnu cyfrifon y cwmni sy'n dweud bod "y cyfleoedd allanol sydd wedi eu creu i'r Dauson Group lwyddo yn parhau i gael eu gyrru gan ddeddfwriaeth yn bennaf".
Atebodd y prif weinidog, "ni allwn, nid wyf wedi gwneud ac ni fyddaf yn gwneud unrhyw fath o ddewis gweinidogol am y cwmni hwnnw".
Mae’r busnes yn cael ei redeg gan David John Neal a gafodd ddedfryd o garchar wedi’i gohirio o dri mis yn 2013 am dipio gwastraff yn anghyfreithlon. Bedair blynedd yn ddiweddarach cafodd ddedfryd ohiriedig arall o 18 wythnos am beidio â chael gwared arni.
Dywed Mr Davies wrth y Senedd: “Y ffaith amdani yw bod gan y person cyffredin yn y stryd gwestiynau difrifol am y mater penodol hwn.
“Mae’n dod i fyny dro ar ôl tro ynglŷn â pham £200,000 a’r hyn a ddisgwylid o dderbyn y £200,000 hwnnw.
"A ydych yn methu â darllen meddwl y cyhoedd yng Nghymru ar y mater penodol hwn, wrth beidio â chomisiynu’r ymchwiliad annibynnol hwnnw?”
Ymatebodd Mr Gething “Mae’r cyhoedd yn poeni fwyaf... am yr argyfwng costau byw, maen nhw’n poeni am ddyfodol y DU a Chymru, maen nhw’n pryderu am gyllid eu gwasanaethau cyhoeddus, ac maen nhw'yn poeni am y math o economi y gallem ei gael.”
Rhestrodd Mr Gething ganolfannau Cymreig Tata Steel: “Petaech chi’n mynd i Bort Talbot, neu i Lanwern neu i Shotton neu i Drostre, fyddech chi ddim yn gweld pobl ag obsesiwn am y mater mae’r aelod eisiau ei godi… maen nhw’n pryderu am ddyfodol eu swyddi.”
Mae Julie Morgan yn codi'r materion yr oedd etholwr â nam ar ei olwg yn ei wynebu wrth geisio tacsi, yn ymwneud â chanslo a phris uwch, y mae Ms Morgan yn eu disgrifio fel "cywilyddus".
Mae hi'n esbonio, "archebodd fy etholwr, Ryan Moreland, dacsi i fynd ag ef o Riwbeina i Ysbyty Athrofaol Cymru ar gyfer apwyntiad meddygol brys. Roedd yn aros y tu allan ar y stryd, a phan gyrhaeddodd y gyrrwr tacsi a gweld ci tywys Ryan, Jamie, gyrrodd heibio, cuddiodd ym mhen draw'r stryd a chanslo'r archeb.
"Llwyddodd Ryan i gael tacsi arall i gyrraedd yr ysbyty, ond dyw'r stori ddim yn gorffen yno. Ar y ffordd yn ôl o'r ysbyty, roedd gyrrwr tacsi yn betrusgar i gymryd Jamie, ac yna ychwanegodd £5 at y bil oherwydd bod gan Ryan gi tywys gydag ef."
Atebodd y prif weinidog, "cefais fy mrawychu'n fawr o ddarllen am brofiad etholwr Julie Morgan, Ryan Moreland. Mae'n anghyfreithlon i yrwyr tacsis wrthod cario cŵn cymorth. Mae'n anghyfreithlon iddynt ychwanegu ffi ychwanegol am gario ci cymorth".
Mae'r Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r prif weinidog.
Daw'r cwestiwn cyntaf gan Carolyn Thomas, AS Llafur dros ogledd Cymru, sy'n gofyn "sut y mae'r prif weinidog yn bwriadu mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth yng Nghymru?"
Mae hi'n dweud bod "y DU yn un o'r gwledydd sydd wedi'i disbyddu fwyaf o ran natur yn y byd".
Atebodd y prif weinidog, “byddwn yn mynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth drwy gryfhau ein fframwaith deddfwriaethol, gan gynnwys cyflwyno targedau bioamrywiaeth statudol, mynd i’r afael â’r pwysau sy’n gyrru’r golled, a chamau gweithredu i wella cyflwr a gwytnwch ein cynefinoedd a’n rhywogaethau mwyaf gwerthfawr, rhwydweithiau natur, ardaloedd morol gwarchodedig a rhaglenni gweithredu mawndiroedd cenedlaethol."
Mae'r ymgynghoriad yn cau heddiw ar y Papur Gwyn, dolen allanol sy'n cynnwys cynigion Llywodraeth Cymru i:
Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm – trydydd sesiwn Vaughan Gething yn y swydd.
Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.