Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mai
Dyna ni, mae Vaughan Gething wedi ateb cwestiynau am y pumed tro fel prif weinidog.
Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf ar gyfer y sesiwn olaf cyn toriad hanner tymor y Sulgwyn.
Vaughan Gething yn ateb cwestiynau am y pumed tro fel Prif Weinidog Cymru.
Alun Jones
Dyna ni, mae Vaughan Gething wedi ateb cwestiynau am y pumed tro fel prif weinidog.
Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf ar gyfer y sesiwn olaf cyn toriad hanner tymor y Sulgwyn.
Pan ofynnwyd iddo gan Joyce Watson o’r Blaid Lafur am ddiweddariad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth gofal cenedlaethol, mae’r prif weinidog yn ateb eu bod ar gam 1 cynllun gweithredu.
"Mae hynny'n cynnwys sefydlu swyddfa genedlaethol ar gyfer gofal a chymorth, gweithgareddau ymchwil ac, yn wir, y cwestiwn o ariannu gofal cymdeithasol yn y dyfodol".
Mae Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn "pam nad oes gweinidog penodol ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd?"
Meddai, "os edrychwn ar Seland Newydd, Iwerddon a Norwy, mae gan bob un weinidog penodedig sy'n arwain strategaeth tlodi plant. Ac, yn hollbwysig, maent yn perfformio'n well na Chymru o ran nifer y plant sy'n byw mewn tlodi: yn Iwerddon, 14 y cant; yn Seland Newydd, 12 y cant; ac yn Norwy 11 y cant ac mae hynny o'i gymharu â'r 20 y cant syfrdanol yma yng Nghymru".
Atebodd y prif weinidog, "rwyf wedi penodi Gweinidog dros Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar...mae portffolio Jayne Bryant hefyd yn ymdrin â meysydd sy'n ymwneud â phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Fodd bynnag, mae'r dyletswyddau a nodir yn Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) Mesur 2011 yn berthnasol i, ac yn gyfrifoldeb, holl weinidogion Cymru".
Mae'r prif weinidog yn dweud bod "rhagdybiaeth yn erbyn" gweithfeydd pŵer nwy newydd yng Nghymru, ond na all wneud sylw ar unrhyw gynnig penodol.
Dywed "nad yw ein polisi cyffredinol yn cefnogi adeiladu gweithfeydd pŵer tanwydd ffosil newydd gan eu bod yn ffynhonnell allyriadau nwyon tŷ gwydr ychwanegol".
Dywed Siân Gwenllian fod "pryder yn lleol" am orsaf bŵer newydd arfaethedig ar hen safle gwaith brics yng Nghaernarfon.
Collodd 50 o weithwyr eu swyddi pan gaeodd Hanson Chwarel Seiont Brickworks yn 2008, gan ddod â hanes bron i 200 mlynedd o wneud brics yn y dref i ben.
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn gofyn pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i brifysgolion wrth iddyn nhw wynebu "argyfwng" ariannol.
Meddai "mae yna ddywediad yn y Gymraeg, on'd oes, ‘gorau arf, arf dysg’, ac mae o mor wir, on'd ydy, bod codi safonau addysg yn gorfod bod yn un o brif arfau Cymru wrth drio dod â mwy o lewyrch i'n gwlad ni. Ond rydyn ni'n gweld yn y dyddiau diwethaf yma cymaint o'r min sydd wedi cael ei golli oddi ar allu'r sector addysg uwch i fod ar flaen y gad yn hynny o beth,
"Aberystwyth yn wynebu colli cymaint â 200 o swyddi wrth drio gwneud arbedion o £15 miliwn; is-ganghellor Caerdydd yn sôn am £35 miliwn o ddiffyg yn ei chyllideb eleni. Mae’n sefyllfa argyfyngus, a ni ydy'r unig genedl yn y Deyrnas Unedig sy’n mynd am yn ôl o ran cyfranogiad ein myfyrwyr ni yn ein sector addysg uwch. Mae cannoedd o swyddi dan fygythiad, ein heconomi o dan fygythiad".
Mae Vaughan Gething yn ateb bod prifysgolion yn "sefydliadau annibynnol" ond bod Llywodraeth Cymru "wedi gwneud y penderfyniad anodd i ganiatáu i addysg uwch godi ffioedd er mwyn ceisio cynhyrchu incwm pellach i'r sector. Mae angen ystyried faint o adnoddau sydd ar gael i addysg uwch ynghyd â phob rhan arall o’n parth cyhoeddus”.
Ychwanegodd fod prifysgolion hefyd yn wynebu’r “realiti eu bod wedi colli talp sylweddol o incwm yn y ffordd y cafodd hen gronfeydd yr UE eu hailbwrpasu a’u canoli wedyn yn llywodraeth y DU”.
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn dweud bod trigolion ger safle tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro yn byw trwy "hunllef".
Meddai, "mae angen i'r domen honno gau. Mae wedi cael ei rhedeg yn wael iawn, ac mae trigolion yn cael eu heffeithio yn eu bywydau bob dydd. Nid yw hynny'n ddigon da. Ni fyddwn yn ei oddef ar garreg fy nrws, ac yn sicr ni fyddwn yn ei oddef yn fy ardal etholiadol, a byddwn yn rhoi’r holl gefnogaeth bosibl y gallwn i drigolion geisio gwneud yn siŵr eu bod yn cael datrysiad.”
Mae'r prif weinidog yn ateb mai mater i Cyfoeth Naturiol Cymru "yw cymryd y camau gofynnol i sicrhau bod gwelliant yn cael ei gyflawni, a dyna safbwynt clir iawn y llywodraeth gyfan. Ni fyddwn yn disgwyl i unrhyw gymuned oddef yr hyn sy'n digwydd. Dyna pam mae angen cymryd camau gweithredu. Dyna pam mae angen iddo gael ei arwain gan y rheoleiddiwr."
Mae Resources Management UK Limited (RML), sy'n rheoli y safle, yn rhan o Grŵp Amgylcheddol Dauson sy'n eiddo i David John Neal.
Cafodd ef ddedfryd ohiriedig o dri mis yn 2013 am dipio gwastraff yn anghyfreithlon, a dedfryd ohiriedig o 18 wythnos yn 2017 am beidio â’i lanhau.
Mae Mr Gething wedi wynebu pwysau cynyddol am dderbyn £200,000 gan Grŵp Amgylcheddol Dauson ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth, ond mae wedi amddiffyn ei onestrwydd ac wedi gwrthod galwadau gan wrthwynebwyr am ymchwiliad.
Mae'r AS Llafur dros Ganol Caerdydd, Jenny Rathbone yn gofyn "pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y plant oedran ysgol gynradd sy'n gallu nofio?"
Mae hi'n mynegi pryder am ffigurau sy'n dangos mai dim ond 16% o blant Caerdydd sy'n gallu nofio.
Y ddinas yw’r ardal sy’n perfformio waethaf yng Nghymru o ran plant sy’n dysgu nofio, yn ôl data gan Nofio Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Dim ond 57% o ysgolion cynradd y ddinas oedd yn darparu gwersi nofio y llynedd.
Atebodd y prif weinidog, "ar draws Llywodraeth Cymru, mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda Nofio Cymru a Diogelwch Dŵr Cymru i godi proffil nofio o fewn y Cwricwlwm i Gymru ac i gefnogi dysgwyr ysgolion cynradd gyda sgiliau nofio ac addysg diogelwch dŵr".
Mae'n datgelu iddo ddysgu nofio yn ei 30au.
Y mater sy'n cael ei godi gan y Ceidwadwr Sam Rowlands yw darpariaeth gofal iechyd yng ngogledd Cymru.
Mae'r prif weinidog yn cydnabod "nid yw gofal iechyd yn gyffredinol yng ngogledd Cymru lle y byddwn i, nac yn wir y staff sy'n darparu'r gwasanaethau hynny, yn dymuno iddo fod".
Ychwanegodd, "fel rhan o'r cynnydd yn y mesurau arbennig, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella mynediad i'r gwasanaethau iechyd a gofal diogel ac amserol y mae pobl gogledd Cymru yn eu haeddu."
Dywed Sam Rowlands “yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd rhybudd du ym mwrdd iechyd y gogledd oherwydd na allai ysbytai ymdopi â lefelau galw gŵyl y banc, ac, yn anffodus, mae hyn yn digwydd yn llawer rhy aml i’r trigolion yr wyf yn eu cynrychioli yng ngogledd Cymru.
"A byddwch hefyd yn ymwybodol, wrth gwrs, ychydig cyn etholiad diwethaf y Senedd, eich bod yn teimlo ei fod yn iawn i dynnu'r bwrdd iechyd hwnnw allan o fesurau arbennig, ac, yn anochel, yn gyflym iawn ar ôl etholiadau'r Senedd, aeth y bwrdd iechyd yn syth yn ôl i fesurau arbennig.
"Nawr, mae pethau cynddrwg ag erioed i'r trigolion dwi'n eu cynrychioli yng ngogledd Cymru."
Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm – pumed sesiwn Vaughan Gething yn y swydd.
Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.