Crynodeb

  • Vaughan Gething yn ateb cwestiynau am y chweched tro fel Prif Weinidog Cymru.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai

    Dyna ni, mae Vaughan Gething wedi ateb cwestiynau am y chweched tro fel prif weinidog.

    Yr wythnos nesaf yw toriad hanner tymor y Sulgwyn.

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Senedd
  2. Anghydraddoldebau iechyd menywodwedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai

    Mae Aelod o'r Senedd Llafur y Rhondda, Buffy Williams yn gofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd menywod, gan gynnwys anhwylder dysfforig cyn mislif (PMDD).

    Meddai Buffy Williams, "mae menywod sy'n dioddef gyda PMDD yn profi symptomau gwanychol, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae'r salwch yn effeithio ar waith, perthnasoedd a bywydau cymdeithasol mewn ffordd na fydd y rhai nad ydynt yn dioddef byth yn ei ddeall. Pan oeddwn yn dioddef, nid oeddwn yn gallu gwneud unrhyw beth am dair wythnos allan o bob mis."

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod "cynnydd wedi'i wneud ond mae llawer i'w wneud".

    Mae'n cyfeirio at wefan 111 y GIG sy'n cynnwys cymorth a chyngor.

    Mae hefyd yn mynegi ei farn, "am yn rhy hir, bu anghydraddoldebau dwfn a sefydledig yn y gofal iechyd a ddarperir i fenywod. Rwyf wedi dweud yn rheolaidd yn y gorffennol pe bai'r anghydraddoldebau gofal iechyd yn bodoli ar gyfer dynion, y byddai gweithredu wedi bod amser hir yn ôl."

    Buffy WilliamsFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Buffy Williams

  3. Y rhoddion ariannolwedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Vaughan Gething

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth - yn y cyfarfod llawn cyntaf ers dod â'r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ben - yn cyfeirio at gyhoeddiad y Blaid Lafur heddiw na fydd yr arian dros ben o ymgyrch Vaughan Gething i ennill yr arweinyddiaeth yn cael ei roi i’r blaid.

    Roedd cyfanswm o £31,600 yn weddill o’r £251,600 a gododd – gan gynnwys £200,000 gan gwmni sy’n eiddo i ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol yn flaenorol.

    Mae Rhun ap Iorwerth yn gofyn "a yw'n meddwl mai dyna ddiwedd y mater?"

    Dywed y prif weinidog "yn unol â rheolau'r ornest mae'n ofynnol i mi ddychwelyd yr arian i Lafur Cymru. Maen nhw wedi cytuno i'm cais i ddarparu'r arian hwnnw i achosion blaengar, ac mae angen i bwyllgor gwaith Llafur Cymru yn awr benderfynu hynny. Rwyf am fod yn glir na fyddaf yn cymryd rhan mewn gwneud y penderfyniad hwnnw; rwy'n meddwl bod angen iddynt gael y sgwrs honno'n rhydd a hebddo i yn yr ystafell."

    Dywed arweinydd Plaid Cymru "y byddai'r arian wedi llygru holl ymgyrch etholiad cyffredinol Llafur. Felly, onid yw penderfyniad Llafur i'w wrthod yn profi camgymeriad barn difrifol y prif weinidog o fod yn fwy na bodlon ei gymryd yn y lle cyntaf?"

    Atebodd y prif weinidog, "rwy'n meddwl mewn gwirionedd ei fod yn dangos eu bod wedi cymryd o ddifrif y cais a wneuthum i'r arian gael ei ddefnyddio at ddiben gwahanol. Fel erioed, nid yn unig yr wyf wedi gweithredu o fewn y rheolau, ond rwyf hefyd wedi cydnabod y pwyntiau y mae nifer o aelodau wedi’u gwneud, a dyna pam mae proses o fewn fy mhlaid fy hun i edrych ar y rheolau yn y dyfodol i ddeall y profion y mae angen i bawb eu bodloni.”

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhun ap Iorwerth

  4. Pa dystiolaeth dros ddiswyddo gweinidog?wedi ei gyhoeddi 13:49 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai

    Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at benderfyniad Vaughan Gething i ddiswyddo ei weinidog partneriaeth gymdeithasol, Hannah Blythyn, gan honni iddi ryddhau negeseuon i’r cyfryngau.

    Mae’n dilyn stori, a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan Nation.Cymru, a ddatgelodd fod Mr Gething wedi dweud wrth weinidogion ei fod yn dileu negeseuon o sgwrs grŵp yn ystod cyfnod y pandemig.

    Mae Mr Davies yn nodi bod AS Llafur Delyn wedi gwadu'n gryf ei bod hi "erioed wedi rhyddhau unrhyw beth".

    Mae'n gofyn i'r prif weinidog ddangos pa dystiolaeth oedd ganddo.

    Atebodd y prif weinidog, "mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i aelodau ar draws y llywodraeth, gan gynnwys, wrth gwrs, yr aelod sydd bellach wedi gadael y llywodraeth. Ni fyddai unrhyw lywodraeth mewn unrhyw ran o'r DU naill ai'n rhoi sylwebaeth barhaus nac yn cyhoeddi'r cyfan o'r wybodaeth. Mae rhywfaint o’r wybodaeth honno’n sensitif i weinidogion eraill".

    Ychwanegodd bod ganddo "gyfrifoldeb i weithredu, sef yr hyn yr wyf wedi'i wneud, er gwaethaf yr holl anawsterau a'r her y mae hynny'n achosi."

    Roedd Hannah Blythyn yn weinidog iau yn Llywodraeth Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Hannah Blythyn yn weinidog iau yn Llywodraeth Cymru

  5. Urddas mislifwedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai

    Mae Heledd Fychan, AS Plaid Cymru, yn gofyn am ddiweddariad ar gynllun gweithredu strategol y llywodraeth ar gyfer urddas mislif.

    Mae hi’n flwyddyn ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif, dolen allanol, sy'n nodi yr "uchelgais i ddileu tlodi mislif a sicrhau urddas mislif i fenywod, merched a phobl sy'n cael mislif erbyn 2027".

    Mae'r prif weinidog yn honni bod "cynnydd wedi'i wneud ym mhob rhan o'r cynllun".

    Dywed Heledd Fychan "yn Awst 2022 daeth deddfwriaeth mewn yn yr Alban oedd yn ei gwneud hi'n Ddeddf bod yn rhaid darparu cynnyrch mislif am ddim" ac mae'n gofyn "a roddwyd ystyriaeth i ymgorffori'r hawl i gael mynediad at gynnyrch trwy ddeddfwriaeth?"

    Meddai'r prif weinidog, "rydym wrth gwrs yn ystyried a fydd deddfwriaeth yn cyflawni ar y newid ymarferol yr ydym am ei weld".

    Heledd FychanFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Heledd Fychan

  6. Gwasanaethau gofal iechydwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai

    Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn gofyn "pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau gofal iechyd i drigolion Conwy a Sir Ddinbych?"

    Ymatebodd y Prif Weinidog Vaughan Gething, "byddwn yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i wella mynediad at ofal diogel ac amserol a gwasanaethau o ansawdd uchel".

    Rhoddwyd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig eto ym mis Chwefror 2023.

    Dywed Mr Millar "nid yw gwasanaethau gofal iechyd yng Nghonwy a Sir Ddinbych mewn lle da. Gwyddom fod y bwrdd iechyd yn y gogledd mewn mesurau arbennig. Un o'r problemau sydd gennyf yn fy etholaeth fy hun yw problem Canolfan Feddygol Gorllewin Bae Colwyn. Mae'n bractis sy'n cael ei redeg yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd, ac rwy'n derbyn cwynion lluosog am y gwasanaethau gan y feddygfa benodol honno bob wythnos."

    Atebodd Mr Gething, "rwy'n ymwybodol bod practis y West End yn gyfuniad, rwy'n deall, o bractisau blaenorol nad oeddent yn gallu gweithredu'n llwyddiannus. Fy nealltwriaeth i yw bod hwn yn bractis a reolir yn uniongyrchol sydd wedi bod yn recriwtio ar gyfer staff newydd, gan gynnwys meddygon”.

    Betsi Cadwaladr
  7. Croesowedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm – chweched sesiwn Vaughan Gething yn y swydd.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.