Crynodeb

  • Ffigyrau blaenllaw o'r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru wedi mynd benben mewn dadl deledu cyn yr etholiad cyffredinol

  • Roedd y ddadl yn fyw ar BBC One Wales rhwng 19:00 a 20:00 nos Wener

  • Y newyddiadurwr a chyflwynydd Bethan Rhys Roberts fu'n llywio'r ddadl

  • Mae'r etholiad ymhen llai na phythefnos, ar 4 Gorffennaf

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 20:23 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Mae rhaglen arbennig dadl etholiad BBC Cymru wedi dod i ben, a'r pum cynrychiolydd wedi cael dweud eu dweud am awr.

    Gyda hynny bydd ein llif byw ninnau yn dod i ben hefyd.

    Bydd erthygl yn crynhoi holl ddadleuon y noson yn cael ei chyhoeddi gennym yn fuan, a bydd modd i chi wylio'r ddadl yn ôl yma.

    Diolch o galon i chi am ddilyn, a chofiwch fod llawer mwy am yr etholiad ar gael ar ein hafan.

    Dadl
  2. David TC Davies yn hapus i adael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynolwedi ei gyhoeddi 20:16 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Ar fewnfudo, mae David TC Davies yn dweud y byddai'n hapus i adael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol pe bai'n rhwystro cynllun Rwanda y Ceidwadwyr.

    “Byddwn yn ei adael yn llwyr,” meddai.

    “Os yw llys tramor yn ein rhwystro rhag gwneud rhywbeth yr ydym ni fel senedd sofran a etholwyd yn ddemocrataidd wedi dewis ei wneud, yna ie, wrth gwrs.

    “Mae gennym ni bob hawl i weithredu polisi mewnfudo y mae’r wlad hon wedi pleidleisio drosto.”

    Fodd bynnag, ychwanega: "Bydd wastad angen, ac rydym yn croesawu, mudo cyfreithlon i bobl â sgiliau arbenigol."

  3. Gething: Cynllun Rwanda yn 'achosi rhwyg'wedi ei gyhoeddi 20:10 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Dywed Vaughan Gething fod cynllun y Ceidwadwyr i yrru ceiswyr lloches i Rwanda yn ymgais i "achosi rhwyg" ac na fydd yn datrys "ein problemau".

    “Byddwn yn atal cynllun Rwanda ac yn buddsoddi’r arian hwnnw mewn canolfan diogelwch ffiniau”, meddai.

    “Rwy’n falch o’r haelioni rydyn ni wedi’i ddangos i nifer o bobl ledled y byd.

    "Dwi'n fab i fewnfudwr. Rwy'n cydnabod bod hon yn ddadl sydd angen ei rheoli'n sensitif."

  4. Mewnfudo yn 'argyfwng'wedi ei gyhoeddi 20:08 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Mae Oliver Lewis o Reform yn gwadu bod ei blaid yn pardduo mewnfudwyr neu yn eu defnyddio fel bwch dihangol.

    Mae'n dweud bod "dirmyg" ei blaid wedi ei anelu at Lywodraeth y DU.

    Dywed Mr Lewis fod yr "argyfwng" mor ddifrifol fel bod y dosbarth gwleidyddol "wedi dal i fyny ag e".

    Oliver Lewis
  5. 'Angen llwybrau diogel i ffoaduriaid gyrraedd Cymru'wedi ei gyhoeddi 20:04 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Dywed Ms Dodds fod angen "llwybrau diogel a chyfreithlon" i Gymru a'r DU ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

    Mae hi'n dweud bod "proses lloches gyflym" yn hanfodol.

    “Yng Nghymru does dim cymuned heb boster i fyny yn dweud ‘rydym angen staff’," meddai.

    Mae hi'n dweud ei bod hi "gyda Rhun ar hyn" ynghylch pardduo ffoaduriaid, gan ychwanegu y dylai Cymru fod yn "genedl noddfa".

    FfoaduriaidFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Trydydd cwestiwn - mewnfudowedi ei gyhoeddi 20:03 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Alun Roderick sy’n gofyn y trydydd cwestiwn – ydy’r ffordd mae mewnfudo’n cael ei drafod yn yr etholiad hwn yn rhy negyddol?

    Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud y byddai ei blaid am weld mwy o fewnfudo "i rai sectorau".

    “Dydw i ddim yn hoffi naws y ddadl ar fewnfudo,” meddai.

    Mae'n ymddangos ei fod yn awgrymu bod Reform am fanteisio ar ofnau a phryderon pobl ynghylch mewnfudo.

    “Peidiwch â bod yn wirion,” atebodd Oliver Lewis.

    Mae Mr ap Iorwerth yn parhau: "Rydym yn siarad am bobl. Llawer ohonyn nhw oherwydd rhyfel."

    “Dewch i ni gofio’r ddynoliaeth yn hyn i gyd,” ychwanega.

  7. Y rhodd £200,000 dadleuol yn codi ei benwedi ei gyhoeddi 20:00 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Mae Vaughan Gething yn cael ei herio am ei benderfyniad i gymryd £200,000 yn ystod ei ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni sy'n eiddo i ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.

    Dywed Mr Gething: "Wrth gwrs fy mod yn difaru'r anawsterau y mae wedi'i achosi i amrywiaeth o bobl".

    Mae'n dweud iddo ddilyn "yr holl reolau" ond ei fod yn cydnabod bod "pryder gwirioneddol".

    “Gan wybod popeth rwy’n ei wybod nawr, ni fyddwn wedi dymuno cael yr holl anhawster,” meddai.

    Mae'n dweud nad yw "erioed wedi gwneud penderfyniad" fel gweinidog er ei fudd personol ei hun.

  8. Gwrthdaro rhwng y Ceidwadwyr a Llafur ar ofal plantwedi ei gyhoeddi 19:56 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Mae 'na wahanol bolisïau gofal plant yn cael eu cyflwyno yng Nghymru a Lloegr ac roedd yna wrthdaro rhwng David TC Davies o’r Ceidwadwyr a Vaughan Gething o Lafur am ba ffordd sydd orau.

    Yn Lloegr, mae’r Ceidwadwyr yn San Steffan wedi dechrau ymestyn 15 awr yr wythnos o ofal am ddim i blant dwy oed ac maen nhw wedi addo ei gynnig yn y pendraw i bob plentyn o naw mis oed.

    Mae gan Lafur bolisi gwahanol yng Nghymru oedd yn rhan o’r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, sydd nawr wedi dod i ben.

    Maen nhw’n ymestyn gofal am ddim i blant dwy oed ardal wrth ardal gan ddweud bydd hynny’n sicrhau bod yna ddarpariaeth digonol a digon o staff, tra bod y Ceidwadwyr yn honni eu bod nhw’n mynd yn bellach ac yn gynt.

  9. Rhestrau aros: 'Cyllid ddim yn esgus'wedi ei gyhoeddi 19:55 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Dywed David TC Davies nad yw "cyllid yn esgus" fod 20,000 o bobl yn "aros mwy na dwy flynedd" am driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

    Mae'n cyhuddo Llywodraeth Cymru hefyd o wrthod cynnal ymchwiliad Covid.

    Ond mae'n cyhuddo Mr Gething o "ddileu'r holl negeseuon pwysig WhatsApp" allai fod wedi bod yn wybodaeth bwysig i ymchwiliad o'r fath.

    Mae Mr Gething yn dweud ar unwaith: "Mae hynny'n wirioneddol gywilyddus ac anonest."

    Mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi miloedd o ddogfennau i'r ymchwiliad cyhoeddus, a bod neges lle dywedodd ei fod yn dileu negeseuon mewn grŵp yn ceisio atgoffa cydweithwyr am sylwadau am eraill.

    David TC DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Ydy Reform yn gywir am ddifyg ysbytai plant?wedi ei gyhoeddi 19:52 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Owain Clarke
    Gohebydd iechyd BBC Cymru

    Yn gynharach dywedodd Oliver Lewis o Reform UK nad oedd 'na ysbyty arbenigol ar gyfer plant yng Nghymru.

    Mae Ysbyty Arch Noa, sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn cynnig gwasanaethau mwy arbenigol ar gyfer plant yn ne, gorllewin a chanolbarth Cymru.

    Ond mae'n wir i ddweud fod plant yng ngogledd Cymru fyddai angen y lefel uchaf o ofal yn mynd dros y ffin i ysbytai fel Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl - ond mae'r trefniadau hynny wedi bod mewn lle am flynyddoedd lawer.

    AthrofaolFfynhonnell y llun, MICK LOBB/GEOGRAPH
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Ysbyty Arch Noa wedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd

  11. Dodds â 'chywilydd' o'r glymblaid â'r Ceidwadwyrwedi ei gyhoeddi 19:48 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Mae Jane Dodds yn dweud bod ganddi "gywilydd" o effaith llymder o'r blynyddoedd y bu clymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

    Mae hi'n dweud bod y GIG yng Nghymru "yn teimlo fel ei fod wedi torri" ac ynghyd â gofal cymdeithasol, dyw hi ddim yn teimlo bod yna system sy'n gofalu "am ein mwyaf bregus".

    Mae hi'n dweud y byddai lwfans gofalwr uwch yn caniatáu i bobl aros "yn eu cartrefi gydag urddas".

    Stiwdio
  12. 'Llymder a chamreolaeth' wedi taro'r GIGwedi ei gyhoeddi 19:47 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae'r GIG yng Nghymru wedi dioddef "ergyd ddwbl" o lymder gan y Ceidwadwyr a chamreolaeth gan Lafur Cymru.

    Mae'n honni nad oes gan Lafur Cymru gynllun ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd, a bod angen i Lywodraeth Cymru "gefnogi ei gweithlu", rhywbeth y mae Llafur wedi "methu â'i wneud ers 25 mlynedd", meddai.

    GIGFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. 'Iechyd yn flaenoriaeth i bleidleiswyr'wedi ei gyhoeddi 19:45 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Owain Clarke
    Gohebydd iechyd BBC Cymru

    Dyw hi ddim yn syndod fod y gynulleidfa yn holi cwestiwn am iechyd - er bod iechyd wedi'i ddatganoli.

    Mae arolygon yn gyson yn dangos fod iechyd yn flaenoriaeth i bleidleiswyr beth bynnag fo'r etholiad.

    Ddoe dangosodd yr ystadegau fod rhestrau aros yng Nghymru wedi tyfu'n uwch nag erioed, a 602,900 o unigolion yng Nghymru yn aros am driniaethau ym mis Ebrill - un person ym mhob pump.

    Ond y gymhariaeth â Lloegr am y niferoedd sy'n aros y cyfnodau hiraf sydd fwyaf trawiadol - gyda 21.2% o'r rhai sydd ar restr aros yng Nghymru yn aros dros flwyddyn, o gymharu â 4% yn Lloegr.

    Ac yng Nghymru mae 21,289 o achosion lle mae rhywun wedi gorfod aros dros ddwy flynedd - y ffigwr yn Lloegr yw 275.

  14. 'Diwylliant o restrau aros'wedi ei gyhoeddi 19:44 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Mae Oliver Lewis yn beirniadu diffyg ysbyty plant arbenigol yng Nghymru ac yn ychwanegu: "Pam fod ein gwleidyddion yn derbyn y diwylliant o restrau aros?"

    “Mae’n gywilyddus, cyflwr y wlad,” meddai.

    Gofynnwyd iddo sut y byddai plaid Reform, fel maen nhw'n ei addo, yn dileu rhestrau aros.

    Mae'n dweud y bydden nhw'n dileu'r capiau ar y niferoedd sy'n gallu cael eu hyfforddi yn y DU.

  15. Dadlau bod llywodraeth Lafur am roi mwy o arian i'r GIGwedi ei gyhoeddi 19:43 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Daw cwestiwn dau gan aelod o'r gynulleidfa, Jean Cannon.

    Mae hi'n gofyn: "Gyda'r GIG ar drai ac 20% o'r boblogaeth ar restrau aros, sut ydych chi'n bwriadu ymladd dros oroesiad ein GIG?"

    Mae Vaughan Gething yn cyfaddef bod "pobl yn aros yn rhy hir" am driniaeth "mewn anghysur gwirioneddol" yng Nghymru.

    “Rwyf yma oherwydd bod y GIG wedi gofalu amdanaf pan oedd gen i glefyd yr arennau difrifol pan oeddwn yn 19 oed,” meddai.

    Ychwanegodd fod Llafur Cymru eisoes yn buddsoddi £1bn yn y GIG yng Nghymru i "fynd i'r afael â'r ôl-groniad o'r pandemig".

    Mae Mr Gething yn honni y bydd llywodraeth Lafur yn San Steffan yn arwain at fwy o arian yn cael ei ddyrannu i Gymru i'w wario ar ei gwasanaeth iechyd.

    GIGFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Ydy cymharu gwasanaethau iechyd Cymru a Lloegr yn deg?wedi ei gyhoeddi 19:39 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Owain Clarke
    Gohebydd iechyd BBC Cymru

    Mae cymhariaethau yn aml cael eu gwneud ynglyn a pherfformiad y gwasnaeth iechyd yng Nghymru ac yn Lloegr.

    Ond cofiwch, dyw'r cymhariaethau hynny ddim yn ystyried fod y boblogaeth yng Nghymru ar y cyfan yn hynach, salach a thlotach nag yn Lloegr.

    A yw hynny'n ddigon i esbonio'r bwlch sylweddol mewn perfformiad ar amseroedd aros, er enghraifft?

    Wel mater i'r gwleidyddion yw trafod hynny.

    Ond yn ôl melin drafod iechyd ddylanwadol Ymddiriedolaeth Nuffield, mae'n weddol eglur fod cleifion yng Nghymru yn fwy tebygol o aros cyfnodau hirach am eu triniaethau ond does dim arwyddion clir fod safon y gofal fyddan nhw'n ei gael yn y pendraw gymaint â hynny'n waeth neu'n well nag ar ochr arall y ffin.

  17. David TC Davies: 'Wnes i ddim betio ar yr etholiad'wedi ei gyhoeddi 19:36 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Mae David TC Davies yn cael ei holi am yr ymchwiliadau i fetio ar yr etholiad cyffredinol.

    Mae ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig, Craig Williams ymhlith y rhai sy'n rhan o'r ymchwiliadau.

    Dywed Mr Davies nad yw wedi gwneud unrhyw fetiau o gwbl ac nad yw wedi gwneud ers blynyddoedd.

    Dywedodd, pan gymerodd yr awenau yn Swyddfa Cymru, "sylweddolais fod yna lawer o anhapusrwydd am safonau yn gyffredinol".

    Dywed Mr Davies ei fod wedi stopio defnyddio "car y gweinidog" ac atal unrhyw alcohol rhag cael ei yfed neu ei weini.

    Wedi'i bwyso gan Jane Dodds ynghylch a ddylai ymgeiswyr sy'n wynebu ymchwiliadau gael eu hatal, dywedodd Mr Davies: "Nid fy rôl i yw atal pobl."

    “Nid dyma’r math o gwestiwn rydw i eisiau, ond rydych chi’n iawn i’w ofyn."

  18. Y Ceidwadwyr 'wedi difetha yr economi'wedi ei gyhoeddi 19:32 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Mae aelod o’r gynulleidfa yn gofyn i’r panelwyr beth maen nhw’n ei wneud i helpu i gynyddu’r incwm gwario sydd ganddyn nhw.

    Mae Jane Dodds yn dweud bod yn rhaid i’r Ceidwadwyr “gael eu dwyn i gyfrif” am “ddifetha yr economi”.

    "Mae'n gywilyddus ein bod ni'n byw yng Nghymru lle mae 30% o'n plant yn byw mewn tlodi, ac a dweud y gwir dyw Llafur Cymru ddim yn gwneud digon chwaith."

    Pan ofynnwyd iddi beth fyddai ei phlaid yn ei wneud, dywedodd y byddai ei phlaid yn trethu'r cyfoethocaf i ariannu £760m y gellid ei wario yng Nghymru.

    Jane Dodds
  19. Chwyddiant 'wedi codi ar draws Ewrop'wedi ei gyhoeddi 19:29 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Mae David TC Davies yn cyhuddo Llafur o "gyflwyno’r naratif" mai Liz Truss oedd wedi achosi chwyddiant ym mis Hydref 2022.

    Awgrymodd fod chwyddiant wedi cyrraedd uchafbwynt ar draws yr UE “ar yr un pryd”.

    "Digwyddodd ar draws Ewrop gyfan," meddai.

    "Beth am forgeisi?," gofynnodd Jane Dodds.

    "Cynyddodd cyfraddau morgeisi oherwydd bod cyfraddau Banc Lloegr wedi codi i ostwng chwyddiant," atebodd Mr Davies.

    TC
  20. 'Dim codi treth ar bobl ar incwm isel neu ganolig'wedi ei gyhoeddi 19:25 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn beirniadu'r Torïaid a Llafur am ddiffyg ymrwymiadau i helpu pobl gyda chostau byw yn eu maniffestos.

    Mae'n dweud y byddai ei blaid yn cynyddu budd-dal plant £20 yr wythnos, tra'n honni bod Llafur a'r Torïaid wedi ymrwymo i werth £18bn o doriadau.

    Ychwanegodd na fyddai ei blaid yn codi treth ar bobl ar incwm isel neu ganolig.

    Fodd bynnag, dywedodd fod rhannau o'r economi, gan gynnwys busnesau mawr, sy'n gallu talu mwy.

    Rhun ap Iorwerth