I farchnad Yr Wyddgrug cyn y 'Dolig i gael barn etholwyr
- Cyhoeddwyd

Gyda dim ond ychydig o ddyddiau yn weddill cyn i ni wybod pwy fydd yn treulio'r ŵyl yn Rhif 10, Cymru Fyw aeth draw i'r Wyddgrug i gael barn siopwyr yn farchnad y dref ac aelodau côr yn ymarfer at eu cyngerdd Nadolig.
Fel yng ngweddill taith Cymru Fyw o gwmpas Cymru - mae'r hyn sy'n bwysig yn etholiad eleni yn gyfuniad o faterion sydd o dan reolaeth San Steffan, y Cynulliad a chynghorau lleol.


Siopa Nadolig yn farchnad Yr Wyddgrug
'Mae'r amgylchedd yn fy mhryderu fi... nid oherwydd fi fy hun - fydda i ddim yma, ond fydd fy wyrion i' - Beryl Davies

"Tydw i ddim yn gwybod pwy sy'n dweud y gwir i fod yn onest, ond dwi heb dalu digon o sylw iddo chwaith. Maen nhw i gyd yn dweud yr holl bethau yma, ac wedyn mae rhywun arall yn dweud rhywbeth gwahanol - mae'n gymhleth.
"Y prif beth sy'n bwysig i fi ydi dyfodol yr NHS, er mae'n rhaid dweud ryda ni wedi cael gwasanaeth da iawn bob tro - fi a fy ngŵr, yn Ysbyty Maelor, Wrecsam.
"Mae'r amgylchedd hefyd yn fy mhryderu fi. Nid oherwydd fi fy hun - fydda i ddim yma na fyddaf, ond fydd fy wyrion i yma. Mae gen i chwech ohonyn nhw a dwi yn poeni am y dyfodol iddyn nhw."

'Dylai VAT ddod lawr - dweud gwir dylai nhw gael gwared ohono'n gyfan gwbl' - Chris Swallow

"Dwi'n byw jest tu allan i'r Wyddgrug ac yn rhedeg tafarn, ac wedi dod fewn i'r dref i fynd i'r banc a gwneud ambell beth arall.
"Dwi'n pleidleisio i'r un blaid fel arfer - be' dwi eisiau ydi rhywun i redeg y wlad yn iawn, cael diogelwch a'r sefyllfa ariannol yn iawn.
"Brexit ydi'r prif beth. Nes i bleidleisio i aros fewn, ond rŵan dwi eisiau mynd allan oherwydd llygredd yr Undeb Ewropeaidd.
"Y peth arall pwysig ydi sefyllfa ariannol y wlad - VAT ac ati - tyda ni ddim eisiau i hwnnw gael ei gynyddu. Mae'n cael effaith ar waith a busnesau bach - cwmnïau bychan sy'n cadw'r economi i fynd.
"Dylai VAT ddod lawr - dweud gwir dylai nhw gael gwared ohono'n gyfan gwbl - yr EU ddaeth ac o i mewn felly gobeithio pan fyddwn ni allan o Ewrop ella wnaiff nhw 'neud y peth iawn."

'Mae yna fanciau bwyd ymhobman ac maen nhw'n casglu bwyd ymhobman - mae'n ofnadwy' - Kay Davies

"Dwi'n byw wrth ymyl yr Wyddgrug - wedi ymddeol erbyn hyn ond roeddwn i yn arfer gweithio yn y byd addysg.
"Ar gyfer yr etholiad penodol yma y prif bethau ydi llymder, digartrefedd, addysg a'r NHS. Mae'r toriadau yn amlwg yn effeithio pobl. Mae rhywun yn gweld mwy o ddigartrefedd rŵan, mae yna fanciau bwyd ymhobman ac maen nhw'n casglu bwyd ymhobman - mae'n ofnadwy.
"Ac mae gwahaniaeth rhwng y rhai sydd efo lot a'r rhai sydd heb ddim byd. Mae'n ofnadwy i'w weld - mewn plant yn enwedig.
"Mae mwy o dor-cyfraith dwi'n meddwl - ond mae o i gyd yn rhan o'r un peth, mae'n gysylltiedig efo llymder."
'Dylai nhw fuddsoddi yn y stryd fawr a gwneud rhywbeth i'w hachub nhw' - Kenny

Razak a Kenny
Razak: "Dwi'n dod o Fanceinion ond 'da ni'n gwneud y marchnadoedd yng Nghymru. 'Da ni'n gwneud Wrecsam, a'r Wyddgrug ddwywaith yr wythnos.
"Dwi wedi bod yn gwneud hyn ers amser hir - ers dwi'n 15, a dwi'n 65 rŵan - busnes teuluol ydi o, dyna sut nes i ddechrau.
"Y pethau sy'n bwysig i fi ydi'r NHS - a fasa VAT yn gallu dod lawr."
Kenny: "Dwi 'di bod ar y marchnadoedd ers 30 mlynedd. Dwi'n byw yn Lerpwl, ac yn dod i fan yma ddwywaith yr wythnos. Dylai nhw wneud rhywbeth i achub y Stryd Fawr.
"Dwi'n cofio darllen am drefi yng Ngwlad Belg, os oedd unrhyw siop yn wag am chwe' mis roedd y perchennog yn cael dirwy tan oedden nhw'n llenwi'r adeilad. Wnaeth y dref yma ddechrau gwneud hynny ac roedd yn llawn o siopau annibynnol o fewn dim."

Paratoadau olaf cyn cyngerdd Nadolig Cymdeithas Gorawl yr Wyddgrug a'r Cylch yn Eglwys y Santes Fair, Yr Wyddgrug
'Fi dal heb benderfynu eto' - Eirlys Jones

"Rwy'n dod o Aberteifi yn wreiddiol ond yn byw ym Mwcle ers pum mlynedd erbyn hyn.
"Roeddwn i'n manager yn Tesco, felly mae'r economi yn bwysig i mi - achos fi dal i dderbyn fy mhensiwn ganddyn nhw!
"Fydda i ddim yn pleidleisio i'r un blaid bob tro, ma'n dibynnu beth maen nhw'n addo - ac yna gobeithio eu bod am wneud hynny. Fi dal heb benderfynu eto.
"Addysg sy'n bwysig iawn i mi - dyna'n dyfodol ni. Iechyd hefyd. Mae angen newid rhai pethau, gan fod ni'n cael rhai pethau am ddim dyla ni dalu amdanyn nhw - fel presgripsiwn am ddim. Mae'n iawn os chi angen rhywbeth hir dymor - ond ddim rhywbeth fel parasetamol."
'Mae cyfiawnder i bawb yn eithriadol o bwysig' - Huw Lewis

"Roeddwn i'n bennaeth ar Ysgol Maes Garmon am gyfnod ac yna'n diwtor gyda'r WEA felly mae addysg yn eithriadol o bwysig i mi.
"Dwi'n ddaearyddwr yn wreiddiol a'r polisïau sy'n bwysig i mi yw'r rhai sy'n ceisio cael cyfiawnder rhanbarthol. Pan mae rhywun yn gweld ein sefyllfa wrth gymharu gyda gwledydd eraill yn Ewrop - mae'n trafnidiaeth ni, er enghraifft, gyda'r gwaethaf.
"Dwi'n chwilio am ymlyniad i ddatblygiadau fydd yn adennill yr hyn oedd yma pan oedd gennym ni'r diwydiannau mawrion - does dim cydbwysedd ers y dyddiau hynny.
"Dwi'n chwilio am bolisïau fydd, nid yn adfer yr hyn oedd gennym ni, ond yn datblygu rhai newydd a datblygu ein pobl ifanc ar gyfer byd y dyfodol.
"Mae cyfiawnder i bawb yn eithriadol o bwysig ac mae anghydbwysedd mawr rhwng y rhai sy'n berchnogion a'r di-berchnogion. Mae angen ailgyfeirio polisïau ideolegol - dydi neo-liberaliaeth a neo-gyfalafiaeth ddim yn gweithio."
'Dwi'n methu diodde' Llundain a San Steffan' - Richard Jones

Tim Baker a Richard Jones
Richard Jones: "Yr unig beth sy'n bwysig i mi wrth bleidleisio bob tro ydi Cymru - dim ond Cymru.
"Dwi'n methu deall pan mae pobl yn dweud 'get Brexit done'. Mae pobl eisiau swnio'n tough, fel eu bod nhw'n ymddangos yn ddi-ofn, fel pan mae Boris Johnson yn ei roi o ar flaen pâr o fenig bocsio. Mae'n gwneud i bobl sy'n bitw eu meddwl deimlo'n fwy.
"Dwi'n methu diodde' Llundain a San Steffan. Mae Brwsel yn ein trin ni yn ystadegol, ac mae hynny'n deg. Mae Llundain yn trio ein cadw ni i lawr ac yn ein trin ni fel coloni."
Tim Baker: "Dwi'n gweithio i'r gwasanaeth iechyd - dal i wneud - ac wedi bod ers 57 o flynyddoedd. Dwi'n ymgynghorydd, felly fel gallwch chi ddychmygu dwi wedi bod gweld dipyn o newid. Mae cynnydd enfawr wedi bod dros y blynyddoedd o ran triniaethau a gofal.
"Dwi'n meddwl bod America wedi encilio o fygwth y gwasanaeth iechyd ond dyna oedd ganddyn nhw mewn golwg. Roedd y cwmniau mawr fferyllol eisiau gwneud mwy o arian. Roedd hynny'n bryder mawr a byddai'n cynyddu'r gost.
"Nes i bleidleisio i aros yn Ewrop, ond dwi'n meddwl beth bynnag sy'n digwydd mae'n rhaid i ni gael cytundeb masnach resymol efo Ewrop. Mae rhai yn meddwl y cawn ni gytundeb ffafriol efo America - ond dwi'm yn meddwl bod hynny'n debygol."

Ymgeiswyr Delyn
David Hanson - Llafur
Andrew Parkhurst - Dem. Rhydd.
Rob Roberts - Ceidwadwyr
Paul Rowlinson - Plaid Cymru
Nigel Williams - Plaid Brexit