Mae gan y merched neges bwysig i'r holl wleidyddion

Gyda dim ond ychydig ddyddiau i fynd hyd nes yr etholiad cyffredinol, ni fydd pawb ym Mhrydain sydd â barn bendant ar wleidyddiaeth a dyfodol y byd yn cael bwrw pleidlais.

Yn ddim ond yn eu harddegau cynnar, mae Tigi, Evie a Bella o Ynys Môn yn erfyn ar bwy bynnag sy'n cael eu hethol i feddwl am eu dyfodol nhw, a dyfodol y blaned.

Maen nhw'n ymgyrchwyr brwd ar faterion amgylcheddol.