£10,000 i Syr Clive Woodward yn 'anhygoel'
Mae hi wedi dod i'r amlwg bod y cyn-hyfforddwr rygbi, Syr Clive Woodward, wedi ei dalu dros £10,000 am awr o waith gan un o brif gyrff addysg Cymru.
Fis Gorffennaf roedd Syr Clive yn siaradwr gwadd mewn cynhadledd i brifathrwon uwchradd y gogledd gafodd ei threfnu gan y corff addysg, GWE.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Darren Millar, bod rhoi y swm yn "anhygoel".
Mae GWE yn dweud eu bod nhw'n "dewis yn ofalus" er mwyn i arweinwyr addysg yn y gogledd "ddysgu o'u gallu i ffurfio a chymell timau llwyddiannus".