Beirniadu taliad 'anhygoel' o £10,000 i Clive Woodward

  • Cyhoeddwyd
Clive Woodward
Disgrifiad o’r llun,

Mae Syr Clive Woodward wedi hyfforddi Lloegr a'r Llewod

Mae hi wedi dod i'r amlwg bod y cyn-hyfforddwr rygbi, Syr Clive Woodward, wedi ei dalu dros £10,000 am awr o waith gan un o brif gyrff addysg Cymru.

Fis Gorffennaf roedd Syr Clive yn siaradwr gwadd mewn cynhadledd i brifathrawon uwchradd y gogledd gafodd ei threfnu gan y corff addysg, GWE.

Fe siaradodd yn y gynhadledd am awr, ac mae Newyddion9 yn deall ei fod wedi cael o leiaf £10,000 o arian y trethdalwyr am wneud hynny.

Mae ei wasanaeth yn cael ei hysbysebu am rhwng £10,000 a £25,000, ond mae GWE yn dweud ei fod wedi ei dalu'n nes at waelod hynny.

'Swm anhygoel'

Consortiwm addysg yn y gogledd ydy GWE, dolen allanol, sy'n ceisio codi safonau mewn ysgolion.

Roedd 'na wynebau adnabyddus eraill ar lwyfan y gynhadledd gan gynnwys is-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Osian Roberts, wnaeth siarad yn ei amser personol.

Mae'n ymddangos ei fod yn aros am ei dâl o £500.

Roedd cyfanswm cost y gynhadledd wedi dod i dros £20,000.

Disgrifiad,

Dywedodd Darren Millar bod rhoi £10,000 i Syr Clive Woodward yn "anhygoel"

Yn ôl y Ceidwadwyr mae'r swm gafodd ei dalu i Syr Clive yn "anhygoel", a hynny wrth i ysgolion orfod arbed arian,

"Mae gwario miloedd o bunnau ar siaradwr gwadd adnabyddus wrth i ysgolion orfod torri eu cyllidebau'n sylweddol yn annerbyniol," meddai eu llefarydd ar addysg, Darren Millar.

"Mae angen i'r consortiwm gyfiawnhau'r arian maen nhw'n gwario yn y dyfodol," meddai eu llefarydd ar addysg, Darren Millar.

Un arall sy'n feirniadol ydy Owen Hathway o'r Undeb Addysg Genedlaethol, sy'n gofyn pam fod gymaint o arian wedi cael ei wario yn ystod cyfnod o doriadau mewn ysgolion.

Disgrifiad,

Mae Owen Hathaway yn dweud ei bod hi'n "deg cwestiynu gwariant" i Syr Clive Woodward

Mae GWE yn dweud nad ydyn nhw'n cyhoeddi manylion am gytundebau masnachol gyda siaradwyr gwadd.

Maen nhw'n eu "dewis yn ofalus" er mwyn i arweinwyr addysg yn y gogledd "ddysgu o'u gallu i ffurfio a chymell timau llwyddiannus".