Fy stafell i: Caryl Parry Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o'i chlasuron cerddorol, sgriptiau cymeriadau fel Sioned Grug a'r ffilm Nadolig Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs, wedi eu cyfansoddi yn yr ystafell hon dros y blynyddoedd. Yma, mae Caryl Parry Jones yn esbonio arwyddocâd y pethau sy'n bwysig iddi yn y stafell:

Yn y stafell yma dwi'n 'neud lot o fy ngwaith. Mae hefyd yn stafell fwyta a 'dan ni 'di cael ambell i barti yma, a dyma lle fyddwn ni'n bwyta cinio Dolig. Ond yn bennaf yma fydda i'n gweithio. Mae 'na lawer o bethau ar hyd a lled y stafell yma sy'n bwysig i fi.

Piano ar ôl fy nhad [y diweddar gerddor a darlledwr Rhys Jones] ydy hwn. Dwi'n ei gofio fo'n ei brynu am £200 yn 1970. Fe gyfansoddodd e lot fawr ar hwn, ac wedi cyfeilio i lot o bobl oedd yn dod i'n tŷ ni i bractiso canu. Mae llawer o'r rheiny wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd yn y West End. Roedd Mam hefyd yn rhoi gwersi i genedlaethau o blant. Fe wnes i gyfansoddi lot o ganeuon y grŵp Sidan ar y piano yma pan o'n i'n byw adre'.

Dwi'n chwarae'r piano yma yn gobeithio y bydd peth o DNA Dad yn mynd mewn i'm mysedd i.

Pan dwi'n cyfansoddi, dwi'n recordio'r cyfan ar fy ffôn. Dwi hefyd yn dal i ddefnyddio sol-ffa, a dyna dwi 'di sgrifennu fan hyn mewn hen ddyddiadur.

Copi o garol Clychau roedd fy nhad wedi ei chyfansoddi ydy hwn. Daeth Arwyn Davies [yr actor] i'r stiwdio i recordio, a daeth â chopi o'r garol hon i fi. Roedd ei fam [gwraig y diweddar ddiddanwr Ryan Davies] wedi dod ar ei draws wrth fynd trwy bethau o eiddo Ryan, a meddwl y byswn i'n hoffi ei gael. Mae'n golygu lot i fi.

Mae llawer o bethau o fy nghwmpas i sy'n ysbrydoli.

Fy merch Greta [Isaac] wnaeth yr hunan bortread yma ac mae'n cael lle amlwg ar y wal.

James Taylor ydy fy arwr i. Pan o'n i'n tyfu fyny yn y 1970au yn gwrando ar ei recordiau wnes i erioed feddwl y byswn i'n cael ei gyfarfod o. Un Dolig, fe wnaeth Myf y gŵr brynu tocyn i fi fynd i'w weld yn Llundain. Treuliais y ddwy gân gynta' yn beichio crio! Ar ôl y gyngerdd oedd 'na gyfle i fynd i'w gyfarfod o, ac o'n i wedi ymarfer beth o'n i am ddweud... ei fod yn arwr ac yn ddylanwad mawr arna i. Ond yr unig beth lwyddais i'w ddweud oedd "it's Caryl with a 'y'" wrth iddo arwyddo'r llun yma!

Mae hon yn ystafell braf ym mlaen y tŷ i weithio ynddi.

Mae'r llun yma o fi a Steff Rhys [y cyfansoddwr] yn sbeshal iawn. Ro'n ni'n dathlu penblwydd Non [Parry, fy nghyfnither] yn 40 oed yn nhafarn Bessie yn Sir Benfro. Dwi ddim yn cofio beth oedd yn ddoniol ond 'dan ni'n gweithio lot efo'n gilydd ac mae'n rhaid i ni stopio gweithio am tua 10 munud am fod y chwerthin hyn wastad yn digwydd! Dwi'n aml yn edrych ar y llun yma wrth weithio ac yn cael gigl bach, mae'n gwneud popeth yn iawn eto.

Mae'r englyn yma a sgrifennodd Dic Jones i ni pan gafodd Elan fy merch ei geni ar noswyl Nadolig yn golygu llawer iawn.

I Myfyr a Charyl

Dygodd 'rhen Santa degan - eleni,

A lanwodd eich hosan,

Yn ei sach, a chyda chân

Nadolig ganwyd Elan.

Mae lluniau'r teulu yn bwysig iawn i fi.

Yn yr ystafell yma sgwennais llawer o'r ffilm Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs, ac mae hwn yn un o'r props o'r ffilm.

Hefyd o ddiddordeb: