Dwyn y Dolig eto!
- Cyhoeddwyd
Mae nifer yn ei hystyried ymhlith y ffilmiau Cymraeg gorau erioed ac eleni mae 'Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig' yn 30 oed.
Roedd y ffilm yn wledd o ganu a dawnsio, ond pam bod hanes Mordecai ddrwg a'i ymdrechion i sbwylio'r Dolig i blant ar hyd a lled y byd wedi creu cymaint o argraff?
Cafodd Cymru Fyw sgwrs â rhai sydd wedi gwirioni'n lân gyda'r ffilm a'r ddau awdur, Hywel Gwynfryn a Caryl Parry Jones, sy'n dal i ddisgwyl yn amyneddgar am Oscar...
Hywel Gwynfryn
Tydw i ddim yn cofio sut gawson ni'r syniad o greu sioe am un dyn drwg yn dwyn y Dolig. Ella'n bod ni wedi gofyn i'n gilydd 'Be fasa'r peth gwaetha alla unrhyw un ei wneud adeg y Nadolig, ar wahân i ail-edrych ar hen rifynnau o 'Dad's Army' ar y teledu?'
Wel herwgipio'r Nadolig fel bod plant Cymru ddim yn medru mwynhau eu hunain, wrth gwrs. Ac fe fu bron i Mordecai - y dyn drwg, lwyddo...
Fy hoff gân i yn y sioe ydy cân y ddwy chwaer, 'Ddydd ar ôl dydd' a chân sgwenodd Caryl y geiriau iddi yn ogystal â'r gerddoriaeth sef y gân sy'n cloi y ffilm, 'Ffynnon Ffydd'.
Beth am sequel ydy un cwestiwn sy'n cael ei ofyn yr adeg yma bob blwyddyn. Wel, mae Caryl yn dal yma, dwi'n dal yma, ac fe garcharwyd Mordecai am ddeng mlynedd ar hugain.
Felly ella'i bod hi'n hen bryd iddo gael ei ryddhau o garchar i 'neud mwy o ddrygioni. Mi faswn i yn sicr wrth giatiau'r carchar yn barod i'w groesawu...
Caryl Parry Jones
Ro'n i yn fy ugeiniau a heb wneud llawer, felly roedd o'n reit newydd i mi.
Ond 'swn i byth wedi meddwl, 30 mlynedd yn ddiweddarach, y baswn i'n siarad amdano fo, a bod pobl wirioneddol wedi cymryd y peth gymaint i'w calon!
Roedd o'n adeg hapus iawn i Hywel a fi - 'naethon ni chwerthin lot fawr iawn a gweithio'n galed iawn arno fo.
Mae o'n sgwennu geiriau bendigedig, ond mae o'n gerddor hoples, felly odd o'n fy ffonio i efo geiriau ac yn barod wedi sgwennu tiwn ar eu cyfer. Roedd ei fersiwn o o'r gân deimladwy honno pan mae'r ferch yn mynd i'r cartref plant, yn swnio fel rhyw gân 'wmpa'!
Mae cân Mordecai yn genius - dwi'n meddwl mai dyna'r geiriau gorau mae Hywel Gwynfryn erioed wedi eu sgwennu! A dyna oedd awr fawr Meic Povey - o'dd o jest mor dda!
Roedd Siwan Bowen Davies (Carys) yn wych - roedd ganddi gymaint i'w ddysgu ac roedd hi mor ifanc - ond roedd hi'n llawn brwdfrydedd a jest yn gallu ei neud o.
Ac roedd Emyr Wyn jest yn berffaith fel Sam - a dwi'n edrych nôl ar ambell i fideo rŵan, ac mae o rêl twinkle toes, i feddwl ei fod o'n lwmpyn go fawr ar y pryd!
Mae pobl yn aml yn gofyn a fydd sequel, ond dwi'n meddwl eu bod nhw'n bethau peryg. Dwi'n gredwr cry' mewn gadael pethau yn eu blas.
Ond be' faswn i'n hoffi ei weld yn cael ei ail-wneud. Mae 'na gymaint mwy o bethau ar gael i ni rŵan - technegau ffilmio gwahanol, mwy o ryddid cerddorol o ran y synau ayyb.
O ran cast, 'swn i'n cadw Emyr Wyn a Meic Povey, achos dwi'm yn meddwl 'sa ti'n gallu cael gwell na hynny!
Mae Cymru yn llawn perfformwyr gwych fel Mark Evans, Rebecca Trehearne, Steffan Harri sydd wedi gwneud bywoliaeth o ganu, actio a dawnsio mewn sioeau cerdd. Ac o ran plant, take your pick - ma 'na gymaint o ddewis.
Ond dwi'm yn meddwl y byddai'n digwydd - mae'r gwreiddiol yn golygu gymaint i gymaint o bobl. 'Swn i'n torri nghalon pe tasai rhywun yn gwneud 'It's a Wonderful Life' arall. Ella ddylwn ni ei adael fel mae o...
Roedd seren ieuengaf y ffilm yn cael ei chwarae gan ferch 10 oed o Gaerdydd:
Siwan Bowen Jones (Davies cyn priodi)
Ges i wythnos i ffwrdd o'r ysgol, a dwi'n cofio teimlo bach yn siomedig gan mai dyna'r wythnos oedd plant y dosbarth yn mynd i Langrannog! Roedd e'n brofiad gwych, gweithio efo Caryl Parry Jones, Emyr Wyn, Tony Llewelyn, Delyth Morgan - cymaint o gast hyfryd.
O'n i'n teimlo'n gartrefol iawn - 'sa fe 'di gallu bod yn gyfnod brawychus iawn i rywun 10 oed - ond dwi'n cofio joio'r holl beth, a theimlo wir yn drist pan o'n i'n gorfod dychwelyd yn ôl i'r ysgol!
Roedd angen cael y caneuon yn iawn, ac roedd Caryl yn grêt yn ymarfer gyda ni. Dwi'n cofio mynd i Gaerleon i recordio, a do'n i methu cyrraedd un nodyn - y nodyn uchel 'na yn 'Ffynnon Ffydd'. Ond rhywsut, llwyddodd Caryl i'w gael e allan ohona i!
Dwi wrth fy modd yn ail-glywed y caneuon ar Radio Cymru bob Nadolig - bydd y caneuon yn sefyll am byth.
Mae'n od iawn ei weld nawr, a finne newydd droi'n ddeugain. Roedd bach o embaras ar un adeg, gweld fy hun ar y sgrin yn 10 oed, efo pigtails - ond nawr dwi'n hŷn, dwi'n gallu cymryd yr embaras 'na. Ond dwi ddim yn siŵr am fy mhlant i!
Mae hi'n anodd credu fod pobl dal i siarad am y ffilm 30 mlynedd yn ddiweddarach - mae e'n ffilm sbesial iawn, a dwi mor prowd bod y ffilm mor boblogaidd.
Ac mae'n dangos fod rhaglenni, ffilmiau a chyfresi S4C yn cael effaith fawr ar bobl Cymru, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn i'w ail-ddangos eleni, oherwydd y toriadau posib i S4C - mae hi'n bwysig i ni gofio o ble rydyn ni wedi dod.
Mae gan y ffilm ffans o bob lliw a llun ac oedran, gan gynnwys rhai enwog:
Huw Stephens, cyflwynydd Radio Cymru a Radio 1
Mae 'Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig' yn cult classic Cymraeg. Dyle fe fod ar S4C bob Dolig neu o leia' ar DVD neu ar y we. Mae e'n rhyfedd ac yn bizarre, yn ddoniol ac yn gerddorol wych.
Mae'r geiriau a'r caneuon yn dal dychymyg ac yn fywiog. Mae'r actio dros ben llestri ac felly yn apelio at blant a phobl ifanc.
Dwi'n ei chwarae ar C2 ar Radio Cymru bob Nadolig achos mae'r holl beth yn rhywbeth i'w drysori. Mae'n Nadoligaidd ac yn Gymreig iawn, ac mae'n un o'r pethau gorau mae S4C erioed wedi ei greu!
Dafydd James, dramodydd
'Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig', heb os, yw un o'm hysbrydoliaethau artistig cynhara'. Hebddi, dwi'm yn siŵr os fysen i'n neud beth 'wi'n 'neud.
Mae'r ffilm yn cynnwys rhai o ganeuon gorau Caryl, ac mae'r bartneriaeth creadigol rhyngddi hi a Hywel Gwynfryn heb sôn am Emyr Wyn a Meic Povey - y da yn erbyn y drwg - yn disgleirio drwyddi.
Dwi'n cofio ffeindio mas bod Siwan Bowen Davies yn yr un flwyddyn â'm chwaer i yn yr ysgol gyfun a fi'n cael ffit o hysterics achos o'n i wedi treulio fy mhlentyndod cyfan isie bod yn hi.
Dwi hefyd yn cofio mynd yn reit distressed wrth ffeindio mas mai nid llais canu go iawn Delyth Morgan yw llais canu Sera, ac mai Gaynor Wilde oedd wedi trawsleisio'r llais. Dwi'n meddwl mai'r diwrnod hwnnw y colles i fy niniweidrwydd.
Ôl-nodyn S4C: mae'n bryd bod chi'n comisynu rhywbeth tebyg eto. Gall cenhedlaeth gyfan o blant ddim bod yn anghywir.
Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig, S4C, Noswyl Nadolig, 18:05