Oeddech chi yna? Oriel luniau cefnogwyr rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwrnod agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad mae'r brifddinas yn bencadlys i gefnogwyr rygbi o bob cwr o Gymru, Yr Alban a thu hwnt.
Ennill neu golli, sut brofiad yw cefnogi tîm rygbi Cymru a sut le yw Caerdydd ar benwythnos rygbi rhyngwladol?
Ein ffotograffydd Aled Llywelyn sy'n ymuno â'r dorf er mwyn dal awyrgylch unigryw diwrnod y gêm fawr ar gyfer BBC Cymru Fyw.

Mae'r ddraig goch yn ei hanterth. Amdani!

Y peth cynta'? Peint, wrth gwrs. Iechyd da!

Beth gymri di? Whisgi...neu peint o 'dark'?

Cyfeillion pennaf - tan y gic gynta'!

Tusw o flodau gwyllt.

Ry'n ni'r Cymry yn dwlu ar ddreigiau! Yn enwedig rhein.

Hoffi dy wisg, blodyn!

Barod ar gyfer y frwydr fawr.

Casgliad perffaith o eiconau Cymreig.

Teyrnged hefyd i'r wisg Gymreig draddodiadol.

Mae'r ddafad fach yma wedi dilyn y praidd i'r dafarn. Mê.

Mae'r cefnogwr barfog yma ar dân!

Y bodiau i fyny a'r gobeithion yn uchel.

Rhaid cadw'r ffydd...

Mae'n gais! Dechrau campus i'r ymgyrch.

Pwynt bonws hefyd. Y canlyniad gorau posib!

Cefnogi Cymru. Pleser pur!

Ie. Diwrnod y daffodil yn wir.

Hwyl fawr gyfeillion - tan y tro nesa'!
