Awyr y gwanwyn

  • Cyhoeddwyd

Haul? Gwynt? Glaw? Mae'r gwanwyn yn dymor rhyfedd lle mae'n bosib mwynhau holl amrywiaeth tywydd ein gwlad fach, ac mae'r amrywiaeth hyn yn cael ei adlewyrchu yn y siapiau a'r lliwiau sydd i'w gweld uwch ein pennau.

Dyma ambell i ddelwedd sydd wedi llwyddo i ddal holl amrywiaeth a harddwch yr wybren ar yr adeg unigryw yma o'r flwyddyn.

line
AwyrFfynhonnell y llun, Bleddyn Jones-Pearson

Yr haul yn machlud mewn modd trawiadol iawn ym Mhorth Grugmor ger Rhydwyn, Sir Fôn

line
awyr

Diwrnod braf i fynd am dro ar hyd llwybr arfordir Penfro...ar hyn o bryd

line
gwawrFfynhonnell y llun, Marilyn E Williams

Yr haul yn lliwio patrymau yn yr awyr wrth iddo godi dros Pier Bangor

line
Harlech

Diwrnod braf i fynd â'r ci am dro ar draeth ger Harlech... er mae'r cymylau 'na'n bygwth dros y mynyddoedd yn y pellter

line
Stephen CheatleyFfynhonnell y llun, Stephen Cheatley

Y llwybr llaethog godidog uwchben yr Wyddfa o Gapel Curig

line
dewi sant

Lliw oren y machlud yn rhoi gwedd newydd i adeiladau trawiadol Bae Caerdydd

line
awtr

Yr haul yn llwyddo i dorri trwy'r cymylau tywyll, wrth i long hwylio tuag at Aberdaugleddau

line
gwagwrFfynhonnell y llun, Marilyn E Williams

Golygfa euraidd dros Ynys Llanddwyn wrth i belydrau'r haul ffrwydro dros y môr

line
machludFfynhonnell y llun, Alf Jones

Yr awyr yn fôr o liw wrth i'r haul fachlud dros Sir Gaerfyrddin

line
cymylau

Patrwm cymylau cymhleth uwchben Bae Barafundle, Sir Benfro

line

Hefyd o ddiddordeb: