Golwg mewn lluniau ar daith fws Traws Cymru o Gaerdydd i Gaernarfon
- Cyhoeddwyd
Ydyn ni yna eto? Dyw hi ddim yn daith gyflym rhwng y de a'r gogledd yn y car. Ond sut brofiad yw e ar wasanaeth bws Traws Cymru?
Casglwch eich tocynnau a dewch gyda Cymru Fyw ar daith rhwng Caerdydd a Chaernarfon i gyfarfod â'r bobl a chael cip ar y golygfeydd...


Gwasanaeth T1C yn barod i fynd â ni ar ran gyntaf y daith o Gaerdydd i Gaerfyrddin.




Daliodd Robert Hopkins, o Aberystwyth, y Traws Cymru am 06:00 er mwyn mynd i Gaerfyrddin i gasglu ei ffôn symudol oedd yn cael ei drwsio mewn siop yno. Nawr mae'n mynd 'nôl i Aber ar y bws nesaf.




Daliodd Laura'r bws bore o Felinfach er mwyn mynd i weld y deintydd yng Nghaerfyrddin.
Mae hi ar ei ffordd adre' wedi ei thriniaeth. Mae'n amlwg o'i chwerthiniad nad oedd hi'n un rhy boenus!


Aberaeron


Roedd Eric Alman a'i wraig Margaret, o Ddinbych-y-pysgod, yn bwriadu mynd i Gaerdydd am y dydd, ond fethon nhw â chyrraedd y bws mewn pryd.
Ond roedd 'na fws yn mynd i Aberystwyth... felly pam lai? Mae'r ddau'n rheolaidd yn mynd am dripiau bach am y dydd i lefydd gwahanol.




Mae Mary, o Felinfach, yn mynd ar y bws yn aml... dim ots i ble. Heddiw mae'n mynd i Aberystwyth am dro.


Aberystwyth


Daeth Alan y gyrrwr lawr o Fachynlleth i Aberystwyth bore 'ma. Ar y ffordd wnaeth e bigo Vic lan yn Nhalybont. Mae Vic wedi bod yn gwneud ei siopa yn Aberystwyth ac yn barod i fynd adre'.




Fe benderfynodd Barbara gymryd Willow'r ci am dro i Aberystwyth. Mae'r ddau newydd ddal y bws adre' nawr nôl i Bow Street...




Machynlleth


Mae Eirwen Jones, o Gaerfyrddin, yn dal y bws yn Aberystwyth er mwyn mynd i Gaernarfon i ofalu am blant Menna, ei merch.




Lois a Buddy'r ci yn teithio nôl i Lanelltyd o Ddolgellau. Mae'r ddau'n defnyddio'r bws yn rheolaidd.




Porthmadog


Mae Sophie Couling a'i merch fach Daisy Lee ar y ffordd i Fangor am drip i weld tad Sophie am y penwythnos.






Diwedd y daith... wrth gefn archfarchnad yng Nghaernarfon. Pryd mae'r bws nesa' nôl i Gaerdydd?


Paned fach ar y Maes wedi taith hir... o dan gysgod Lloyd George