Lluniau: Gŵyl y Gelli 2018
- Cyhoeddwyd
Bu tref fach Y Gelli Gandryll ym Mhowys yn croesawu rhai o sêr y byd unwaith eto ar gyfer yr ŵyl lenyddol.
Y ffotograffydd Aled Llywelyn fu'n rhannu ei luniau o Ŵyl y Gelli 2018 gyda Cymru Fyw.


Roedd cyflwynydd The One Show, Alex Jones, yn sgwrsio gyda Chelsea Clinton ar ddiwrnod olaf yr ŵyl

Roedd yr actor Benedict Cumberbatch ymhlith y sêr oedd yn 'perfformio' llythyrau yn y digwyddiad Letters Live

Dychmygwch y byd...

Roedd David Walliams yn dathlu 10 mlynedd fel awdur

Roedd Germaine Greer yn rhoi darlith yn ymdrin â'r testun sensitif o dreisio

Ymgolli yn Y Gelli...

Margaret Atwood, awdures y llyfr 'The Handmaid's Tale', yn cerdded drwy'r Gelli gyda rhai o'r cymeriadau y gwnaeth hi ei hun ei chreu

Yr anturiaethwr Bear Grylls yn rhoi cyngor ar sut i aros yn fyw. Be' arall?

Mae'r Gelli Gandryll yn Sir Frycheiniog yn enwog am ei siopau lyfrau

Roedd hi'n wythnos brysur i'r awdur a'r bardd Owen Sheers o'r Fenni

Pwy sy'n cofio Y Teigr a Ddaeth i De? Bu awdures y llyfr, Judith Kerr, yn darllen y gwreiddiol - The Tiger Who Came to Tea - 50 mlynedd ers ei gyhoeddi

Darllen yn yr haul mewn gŵyl lenyddol - byw'r freuddwyd

Roedd Ysgrifennydd Brexit, David Davis, yno i wrando ar ddarlith o dan y teitl 'Saving Britain'. Guto Harri sydd yng nghefn y llun - bu'n cymryd rhan mewn sawl sesiwn yn yr ŵyl.

Mae'r dyn yma i weld yn fodlon iawn gyda'i lyfr

Yr awdures, colofnydd a chyflwynydd Gemma Cairney

Amser i gael hoe fach ar ôl diwrnod o ddiwylliant

Mae'r awdures Jacqueline Wilson wedi cyhoeddi dros 100 o lyfrau, yn cynnwys y gyfres Tracy Beaker i bobl ifanc

Cyn brif weinidiog y DU, Gordon Brown, yn siarad ar ddiwrnod olaf Gŵyl y Gelli 2018
Efallai o ddiddordeb...