Lluniau: Cofio Cymru yn yr 80au
- Cyhoeddwyd
Rhwng 1984 a 1990 bu 10 o ffotograffwyr, yn cynnwys David Bailey a Paul Reas, yn cofnodi bywyd a thirwedd cymoedd y de yn ystod cyfnod o newid mawr.
Ffotogallery, dolen allanol, a sefydlwyd yn 1978, oedd yn gyfrifol am y prosiect, ac i ddathlu eu pen-blwydd eleni maen nhw'n cynnal arddangosfa er mwyn adrodd hanes y sefydliad dros y 40 mlynedd ddiwethaf.
Dyma rhai o'r delweddau trawiadol sy'n cofnodi'r 80au yn y cymoedd:

Mike Berry

Bu Mike Berry yn tynnu lluniau ym mhentref Glyncorrwg yng Nghwm Afan yn 1985 (ddim ymhell o Gastell-nedd).

Tom Leyshon yn gwylio Margaret Thatcher ar y newyddion yn 1985. Roedd Prif Weinidog y DU yn amlwg iawn yn y wasg a'r cyfryngau yng nghanol yr 80au, yn enwedig yn ystod Streic y Glowyr.

Glyncorrwg, 1985.

David Bailey

Glofa Lewis Merthyr, Trehafod yng Nghwm Rhondda, oedd wedi cau dwy flynedd yn gynharach yn 1983. Dyma gyfnod o newid mawr yn yr ardal wrth i nifer o byllau glo gau.

Roedd y prosiect yn cynnig her o fath gwahanol i David Bailey, sy'n enwog am ei luniau o sêr rhyngwladol ac eiconau'r byd ffasiwn.

Francesca Odell

Pentref glofaol Glifach Goch yng Nghwm Ogwr Fach yn 1985.

Siân a'i mam yn Nhonypandy, Rhondda Fawr, yng Ngorffennaf 1985.

Plant yn chwarae mewn ystafell wely ar stâd Gurnos, Merthyr Tudful, Rhagfyr 1985.

John Davies

Bu John Davies yn tynnu lluniau o Gwm Rhymni. Mae graffiti 'Duran Duran' ar y creigiau yma yn Ystrad Mynach yn adlewyrchu poblogrwydd y grŵp pop yn 1984.

Ron McCormick

Pentref Llanhiledd ym Mlaenau Gwent. Mae Neuadd y Gweithwyr ar y dde - sefydliad pwysig yn niwylliant glofaol y de.

Paul Reas

Roedd gwaith Paul Reas yn edrych ar effaith technoleg newydd ar gymunedau a gweithfeydd yn ne Cymru yn ystod y cyfnod.

Mae'n syndod mai yn yr 1980au y tynnwyd y llun yma - delwedd drawiadol sy'n dangos yn glir pa mor gorfforol oedd gwaith yn y diwydiant glo.

Peter Fraser

Cafodd Peter Fraser ei fagu yn y cymoedd ac, yn 1985, bu'n tynnu lluniau o leoliadau cyfarwydd ei blentyndod, fel y parc yma ym Mhontypridd.

Roger Tiley

Y nos yn cau ar Lofa Lewis Merthyr, Trehafod. Erbyn heddiw, dyma leoliad amgueddfa Parc Treftadaeth y Rhondda.

William Tsui

Roedd gwaith William Tsui yn canolbwyntio ar bentrefi Abergwynfi a Blaengwynfi yng Nghwm Afan. Bu'n tynnu lluniau o'r trigolion lleol yn eu cartrefi a'u gwaith, fel y llun yma o Ann Williams tu ôl i far.

Mrs Little a Mrs Evans.

Wally Waygood

Yn 1936 daeth y Brenin Edward VIII i Ferthyr Tudful a datgan bod 'rhywbeth yn mynd i ddigwydd' i helpu'r bobl oedd yn ddi-waith. Mae'r ddelwedd o löwr wrth y geiriau 'Something will be done', o 1989, yn gofeb i'r foment honno.

Mae'r arddangosfa 'Chronicle', dolen allanol, sy'n gasgliad o bosteri arddangosfeydd Ffotogallery yn ystod y 40 mlynedd ddiwethaf, i'w gweld yn Oriel Turner House ym Mhenarth tan 4 Awst 2018.
Mwy o orielau lluniau ar Cymru Fyw: