Lluniau'r Steddfod: Dydd Sadwrn cyntaf
- Cyhoeddwyd
Y lluniau gorau o ddiwrnod agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd.
Gallwch weld y newyddion, canlyniadau, uchafbwyntiau a fideo byw o'r Pafiliwn yn ein hadran arbennig ar Cymru Fyw.

Mae fel 'Who's Who' yma... y cyflwynwyr Huw Stephens a Jason Mohammad yn rhannu jôc ar y Maes

Mae rhai pobl yn llwyddo i dwyllo disgyrchiant ar faes y Brifwyl

Yr Eglwys Norwyaidd, gyda'r dociau yn y cefndir a Chaffi Maes B gerllaw

Syr Bryn Terfel yn perfformio yn y gyngerdd agoriadol neithiwr yng Nghanolfan y Mileniwm

Bant â'r cart!

Paratoi'n feddyliol i ddawnsio gwerin yn y Bar Gwyrdd

Aha! Dyna sut mae'n gwneud e!

Paned fach cyn cystadlu?

Os ydych chi'n llwyddo i gyrraedd y llwyfan, mae'n bwysig sefyll mas o'r dorf

Ffan mwya'r Eisteddfod?

Wnes i anghofio gosod y fideo!

Arweinydd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle... yn arwain

Hefyd o ddiddordeb: