Lluniau'r Steddfod: Dydd Sul
- Cyhoeddwyd
Dyma rhai o'r golygfeydd o Fae Caerdydd ar ail ddiwrnod Eisteddfod Genedlaethol 2018. Cofiwch bod newyddion, canlyniadau, uchafbwyntiau a fideo byw o'r Pafiliwn yn ein hadran arbennig ar Cymru Fyw.


Pawb ar eu traed! Roedd 'na gynulleidfa dda a chanu cryf yn y Gymanfa Ganu yn y Pafiliwn fore Sul


Y Senedd yw cartref y Lle Celf am yr wythnos


Sofia o'r Bontfaen yn cyfarfod ei harwr, Cadi y môr-leidr.


Efeilliaid, Srivik a Nivik (4 oed) o Gaerdydd yn mwynhau hufen ia gyda Mam a Dad.


Côr Ysgol Glanaethwy yn cael cyfle i ymarfer dan gysgod to y Senedd.


Mae pob math o greaduriaid yn crwydro'r Maes.


Edmygu gwaith cerameg Ray Church.


Awyr las a'r tymheredd yn uchel! Roedd hi'n ddiwrnod gwych o haf yn y Bae.


Roedd CF1 yn un o naw côr wnaeth godi to'r Pafiliwn yng nghystadleuaeth cyntaf y dydd.


Hattie, dwy oed o Gaerdydd, yn mwynhau ei Eisteddfod cyntaf erioed ar 'sgwydda' ei thad, Chris.


Mae'n rhaid dod o hyd i lefydd anarfeol i ymarfer weithiau. Dyma Adran Bro Taf yn ymarfer canu tu allan i'r Ganolfan Red Dragon.


Y gantores Alys Williams yn diddanu'r gynulleidfa ar y Maes.


Mae hi wir yn 'Steddfod yn y Ddinas' gyda Geraint Jarman yn cadw llygaid ar bethau.

Hefyd o ddiddordeb