Lluniau gig Geraint Jarman: Steddfod yn y Ddinas
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n noson arbennig yng Nghanolfan y Mileniwm nos Fawrth (7 Awst) wrth i Geraint Jarman ddiddanu'r gynulleidfa ar brif lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ar y llwyfan hefyd roedd Band Pres Llareggub gyda Lisa Jên a cherddorfa Welsh Pops Orchestra. Dyma rai o'r golygfeydd o'r llwyfan a'r paratoadau cyn y cyngerdd.

Band Pres Llareggub yn paratoi'r offerynnau a'r gwisgoedd cyn y perfformiad

Nid band pres cyffredin mo Band Llareggub

A dydi eu hofferynnau ddim yn rhai cyffredin chwaith!

Dyma'r drydedd flwyddyn i Huw Stephens gyflwyno Gig y Pafiliwn yn yr Eisteddfod

Emyr Glyn Williams o label Ankstmusik a Geraint Jarman cyn y perfformiad

Gethin Evans o Fand Pres Llareggub gefn llwyfan

Prif leisydd y band 9Bach, Lisa Jên, gefn llwyfan cyn canu ambell gân gyda Band Pres Llareggub

Lisa Gwilym gyda'r cerddor o Lanuwchllyn, Osian Huw Williams, a oedd yn gyfrifol am drefnu'r gerddoriaeth ar gyfer y gerddorfa

Lisa Jarman, merch Geraint, yn paratoi - mae hi'n un o leisiau cefndir y band

Welsh Pops Orchestra yn barod i fynd

Geraint Jarman

Geraint Jarman yn ei elfen a'r gynulleidfa yn mwynhau set yn llawn clasuron


Ar eu traed! Y gynulleidfa yn sefyll ar ddiwedd set Geraint Jarman
Efallai o ddiddordeb: