Lluniau'r Steddfod: Dydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Diwrnod y Cadeirio a rhai o sêr Cymru'n cael eu derbyn i'r Orsedd ym Mae Caerdydd. Sioned Birchall yw ein ffotograffydd gwadd ar faes yr Eisteddfod ddydd Gwener. Cofiwch bod fideo byw o'r Pafiliwn a'r holl ganlyniadau ar gael ar ein gwefan arbennig o'r Steddfod.

Oherwydd y glaw fe gynhaliwyd seremoni'r Orsedd ym Maes B eleni

"Braf bod nôl ym Maes B, profiadau ffantastig yn tyfu lan yn y maes ieuenctid" meddai'r seren rygbi Jamie Roberts, oedd yn cael ei dderbyn i'r Orsedd eleni

Lliwiau llachar

Roedd Andrew White o Stonewall Cymru hefyd yn cael ei dderbyn i'r Orsedd

Sanau enfys Andrew, yn addas i'r achlysur!

Merched y ddawns flodau

"Hyfryd, hyfryd clywed storïau pawb oedd yn cael eu derbyn" meddai Llywydd y Cynulliad, Elin Jones

Y ddawns flodau

"Teimlo'n wylaidd iawn, teimlo'n anrhydeddus" meddai'r cerddor Geraint Jarman, sy'n cael wythnos brysur

Pawb eisiau cip ar y seremoni

Y newyddiadurwr Vaughan Roderick

Jamie Roberts yn mwynhau'r achlysur

Trafodaeth gyda Pendevig yn y Tŷ Gwerin

Perfformiad 'cudd' gan Huw Chiswell ar lwyfan y Llannerch Gudd

Ynyr yn gwirioni ar y Lego yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Lucy yn mwynhau'r diwrnod

Shân Cothi yn canu Gweddi'r Orsedd yn seremoni'r Cadeirio

Y bardd buddugol ar ei draed

Gruffudd Eifion Owen yw enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol 2018

Y Prifardd Osian Rhys Jones, fu'n cyfarch y bardd yn y seremoni, yn cofleidio Gruffudd
Hefyd o ddiddordeb:
Mwy o'r Eisteddfod ar ein gwefan arbennig, dolen allanol