Lluniau: Sioe Môn 2018
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n amser sioe amaethyddol flynyddol Môn, sy'n digwydd eleni - fel pob blwyddyn arall - ym Mona ger Gwalchmai.
Y ffotograffydd Dafydd Owen, o gwmni FfotoNant, oedd yno ar ein rhan:

Roedd safon y cystadlu'n uchel iawn...

Ffermwyr lleol yn mwynhau gwylio'r defaid Texel yn cael eu beirniadu.

"Iawn?!" Wiltshire Horns yn disgwyl yn amyneddgar i gael eu beirniadu.

Ymwelwyr i'r Sioe yn mwynhau'r feirniadaeth yn un o gystadlaethau arddangos y moch.

Y beirniaid yn cael golwg agos ar y defaid Shropshire cyn dewis yr anifail buddugol.

Roedd yna ddigon o arlwy yn y Neuadd Fwyd, gyda'r stondin olewydd yn profi'n boblogaidd!

Merched Môn yn mwynhau'r sioe!

Roedd pawb oedd yn cymryd rhan yn y cystadlu, gan gynnwys y ceffylau, wedi ymbincio.

Roedd cryn dipyn wedi mynd i wylio'r cneifio. Yma mae'r cneifio yn cael ei wneud â sisyrnau wind-up.

Roedd safle'r ffair yn gyfle i'r ieuenctid fwynhau ambell i reid...

Roedd tipyn o ffermwyr ifanc y sir yn ymddiddori ac yn cystadlu eleni - enillwyr y dyfodol?

Smart iawn chi'ch dau! Ceffyl Show Cob yn dangos ei hun o flaen y cannoedd oedd wedi dod i'r prif gylch i'w gweld.

Roedd cystadleuaeth Dyn Cryfaf Gogledd Cymru yn cael ei chynnal ar faes y sioe eleni am y tro cyntaf.

Roedd perchnogion yr hen dractors yn fwy na bodlon i ddangos eu peiriannau arbennig!

Roedd ras y "Shetland Ponies" yn un o ddigwyddiadau olaf dydd Mawrth, gyda'r plant yn rasio'r ceffylau bychain yn atyniad mawr.

Hefyd o ddiddordeb: